Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Rydym ni wedi, sawl gwaith. Fe wnes i ei godi e yn bersonol gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig tua thair wythnos yn ôl, pan gwrddais i â hi, i ddweud pa mor bwysig, hollbwysig, oedd y morlyn ei hunan, a pha mor bwysig oedd e i economi nid dim ond y bae, ond yn fwy eang hefyd. Rydym ni wedi cadw'r pwysau ymlaen. Mae hwn yn her nawr, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Gwladol, er mwyn dangos bod digon o ddylanwad gydag e i sicrhau bod y prosiect hwn yn mynd ymlaen er lles yr economi leol ac economi'r gorllewin.