Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, dyma eich cyfle i egluro'r sefyllfa. Mae'n edrych fel pe byddech chi wedi rhoi dau ateb sy'n gwrthddweud ei gilydd: rydych chi'n dweud na dderbyniwyd unrhyw honiadau, ond hefyd bod materion wedi codi a'ch bod chi wedi ymdrin â nhw. Gofynnaf i chi eto: beth oedd y materion a godwyd gyda chi, a sut y gwnaethoch chi ymdrin â nhw?