Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:48, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn teimlo bod ganddo ddyletswydd o onestrwydd i'r Cynulliad o ran y mater hwn, ond mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i fynd dim pellach yn ei gylch heddiw ac y bydd yn rhaid aros am y ddadl yr wythnos nesaf i weld a allwn ni wneud cynnydd, felly hoffwn i droi at fater arall.

Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar y byddai'n hoffi gweld tollau teithwyr awyr yn cael eu datganoli i Gymru fel y gallai eu diddymu ar gyfer teithiau awyr hir, a chroesawaf y Prif Weinidog i rengoedd y torwyr trethi a'r diddymwyr trethi yn y Cynulliad. Mae'n newid o'r holl drethi eraill y mae ef eisiau eu cyflwyno. Ond mae hwn, wrth gwrs, yn fodd o osgoi trethi y mae e'n gefnogol iddo mewn ffordd, gan y bydd yn rhoi mantais fach ond arwyddocaol i feysydd awyr Cymru dros feysydd awyr ar ochr arall y ffin yn Lloegr y bydd tollau teithwyr awyr yn dal i fod yn berthnasol iddyn nhw. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio i mi sut y gall gysoni ei farn ar dollau teithwyr awyr â'i safbwyntiau eraill na ddylid defnyddio'r system dreth ar gyfer cystadleuaeth dreth o fewn y Deyrnas Unedig neu, yn wir, â gwledydd eraill?