Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wel, mae TAN 1 yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, materion i'r cyngor yw'r rhain i raddau helaeth. Os oes ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno ar dir lle nad yw'r tir hwnnw wedi ei ddyrannu ar gyfer y defnydd penodol hwnnw yn y CDLl, nid yw'r cyngor o dan unrhyw rwymedigaeth i roi caniatâd cynllunio. Mae'n rhaid i'r cynghorau gymryd cyfrifoldeb eu hunain am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, ond, fodd bynnag, fe wnaeth hi grybwyll TAN 1, ac mae'r Gweinidog yn fy hysbysu bod TAN 1 yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.