Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Roedden nhw'n faterion o flaenoriaethau a oedd yn cystadlu, o bobl yn teimlo bod rhai pobl yn cael mwy o wrandawiad nag eraill a phobl yn teimlo eu bod nhw eisiau eich gweld chi fel y Prif Weinidog i esbonio eu sefyllfa. Mae'r rhain i gyd yn brosesau Cabinet a Llywodraeth arferol. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai unrhyw Gabinet ar waith lle nad oedd neb yn anghytuno byth. Byddai'n rhyfedd iawn pe byddai Cabinet ar waith lle'r oedd pobl mewn sefyllfa lle nad oeddent yn teimlo eu bod eisiau lleisio eu barn mewn ffordd benodol, ac, fel Prif Weinidog, dyna'r ffordd yr ymdriniais i â Llywodraethu bob amser. Os edrychwn ni ar yr hyn a wnaethom, fel Llywodraeth, cyflawnwyd ein holl addewidion maniffesto gennym yn y blynyddoedd hyd at 2016 ac rydym ni'n parhau i'w cyflawni nawr. Felly, oes, mae tensiynau mewn unrhyw Gabinet bob amser ac yn sicr bydd unrhyw arweinydd plaid yn cydnabod hynny. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad yw'r tensiynau hynny yn rhwystro llywodraethu da, ac nid ydynt wedi rhwystro llywodraethu da, fel y mae pobl Cymru wedi ei weld.