Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wel, rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol, wrth gwrs, gydymffurfio â'r gyfraith, ac yn Neddf Tai (Cymru) 2014, mae'n eglur bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i atal digartrefedd. Ar y cyfan, maen nhw wedi perfformio'n dda o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth honno. Nid yw cynnydd wedi bod mor gyson ag yr hoffem, ac wrth gwrs byddwn yn parhau i fonitro cynnydd i wneud yn siŵr bod y cynnydd da a wnaed ledled Cymru yn parhau yn y dyfodol, oherwydd wrth gwrs, bod Cefnogi Pobl wedi cael y cyllid drwy'r cytundeb cyllideb sy'n angenrheidiol.