Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Tachwedd 2017.
A gaf innau hefyd gefnogi pwysigrwydd gwasanaethau ataliol, ond ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus? Er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, maen nhw wedi bod yn treialu archwiliadau iechyd am ddim wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i'r rhai sydd dros 50 oed, ac o ganlyniad, yn canfod arwyddion cynnar o broblemau iechyd sy'n caniatáu camau gweithredu ataliol, cost-effeithiol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod y math hwn o waith atal cynnar yn hanfodol i ddiwygio ein gwasanaethau iechyd a chyhoeddus ehangach, yn ogystal â sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus?