Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wel, mae yna broses, yn ôl yn gyfraith, sydd yn rhaid ei dilyn. Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, os cofiaf i'n iawn, ei bod hi'n bosib i awdurdodau lleol ddod â'u ffigyrau eu hunain ymlaen ynglŷn â thai os maen nhw'n meddwl bod y targed maen nhw wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru yn anghywir. Roedd hynny'n wir ar un adeg; rwy'n dal i gredu ei fod e'n wir nawr. Ond, wrth gwrs, nawr mae Wrecsam mewn sefyllfa lle, os deallaf i'n iawn, maen nhw'n targedu gwanwyn 2019 er mwyn mabwysiadu'r cynllun ei hun. Mae e'n hollbwysig, wrth gwrs, fod cynlluniau gan awdurdodau lleol.