Y Diwydiant Amaethyddol yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:17, 21 Tachwedd 2017

Diolch, Llywydd. Fe ddywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet chi dros gyllid a llywodraeth leol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe eich bod chi’n agos at gytuno fframwaith ar gyfer amaeth wrth fynd allan o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd gan ffermwyr yn sir Benfro a thu hwnt ddiddordeb mawr mewn deall beth yw’r fframwaith hwnnw, a beth yw’r cytundeb hwnnw. Pryd y clywn ni’r manylion hyn, os gwelwch yn dda, yn hytrach na jest rhyw sibrydion mewn pwyllgor?