Y Diwydiant Amaethyddol yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 21 Tachwedd 2017

Unwaith y bydd y fframwaith wedi cael ei gytuno, fe ddywedwn ni, wrth gwrs, wrth y Cynulliad. Ond nid yw’n gyfrinachol beth yw ein sefyllfa ni fel Llywodraeth, sef: yn gyntaf, dylai pwerau ddod i'r lle y dylen nhw, sef y Cynulliad hwn, yn ail, sicrhau bod dim byd yn newid heb fod yna gytundeb i newid pethau, ac, yn drydydd, wrth gwrs, sicrhau bod yr un faint o arian ar gael i dalu taliadau yn y pen draw ag sydd yno yn awr, a bod y taliadau hynny yn cael eu talu i Lywodraeth Cymru yn yr un ffordd â nawr. Ni fyddai’n iawn pe buasai’r taliadau hynny yn dod drwy fformiwla Barnett. Byddai hwnnw’n doriad enfawr i’r gyllideb. Dyna’r safbwynt yr ydym ni wedi ei chymryd, ac, wrth gwrs, dyna’r safbwynt sydd wedi ein harwain ni yn ystod y trafodaethau hyn.