Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Dim ond eisiau gofyn oeddwn i pam ydych chi'n teimlo—os mai dyna'r ddadl yr ydych chi'n ei chyflwyno— pam ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol y dylai pobl mewn awdurdodau addysg lleol ysgwyddo'r baich hwnnw, fel yr ydych chi'n ei ddisgrifio, ac y dylai pobl yn y GIG ysgwyddo'r baich hwnnw i ddangos eu bod yn cydymffurfio gyda chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, ond nad ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol i'r bobl hynny sy'n gweithio ar y rheng flaen yn uniongyrchol gyda'r plant hynny—y bobl sydd eisoes yn dysgu ac yn addysgu'r plant hynny ynglŷn â'u hawliau.