Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Rydw i'n cefnogi yn ffurfiol nifer o'r gwelliannau yn y grŵp yma. Y mwyaf allweddol o'r rheini, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi'i gasglu erbyn hyn, rydw i'n siŵr, yw gwelliannau 2 a 3, sy'n gosod dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant ac ar hawliau pobl ag anableddau.
Nawr, fel rŷm ni wedi clywed yn barod, rydw i'n gwybod, mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn un fyw iawn wrth i'r Bil yma deithio drwy'r Cynulliad, ond mae'r pwyllgor wedi bod yn glir yn ein hadroddiad ni ar ddiwedd Cyfnod 1 ar yr angen i sicrhau dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiynau yma ar wyneb y Bil. Mae'r comisiynydd plant, wrth gwrs, wedi bod yn daer iawn ei thystiolaeth ac yn gyson ac yn glir ar hynny, ac wrth gwrs mwyafrif y budd-ddeiliaid hefyd sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni yng nghwrs datblygu'r Bil yma.
Rŷm ni wedi clywed am y cynsail sydd wedi'i osod yng nghyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac nid oes dim i amau hynny. Mae'r Llywodraeth yn flaenorol wedi mynegi gofid ynglŷn â'r risg o ymgyfreithiad—litigation—yn erbyn cyrff perthnasol ar sail methiant trefniadol i ddangos sut maen nhw'n rhoi sylw dyledus i'r confensiynau yma. Ond wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed, nid oes yna ddim heriau tebyg wedi bod yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol. Mi ddefnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet y term—neu mi gyfeiriodd hi at y gofid y byddai athrawon yn cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth. Nid ydw i'n meddwl bod pobl wedi cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, felly pam ddylen nhw yn y cyd-destun yma? Fel mae Barnardo's Cymru yn ein hatgoffa ni, ni ddylai'r Llywodraeth jest cael dewis a dethol pa hawliau i'w hamddiffyn a hyrwyddo, a phryd maen nhw'n dewis gwneud hynny. Mae'n rhaid eu cynnwys nhw yn gyson, ac yn gyfartal.
Yr unig gwestiwn i fi fan hyn—cwestiwn ehangach, efallai—yw pam y dylem ni orfod cynnwys y dyletswyddau yma ym mhob un Bil unigol. Fe gyfeiriwyd at sylwadau'r Gweinidog blaenorol a oedd yn dweud pam fod rhaid i ni wneud hyn yn slafaidd bob tro. Mae yna wirionedd yn hynny. Mae'n amlygu diffyg o safbwynt y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Er bod y Mesur hwnnw yn garreg filltir bwysig, wrth gwrs, at weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae'r ddyletswydd i dalu sylw dyledus i'r confensiwn yn cyfeirio'n uniongyrchol at Weinidogion Cymru yn unig.
Mi fyddai'n amserol yn fy marn i—a dweud y gwir, mae'n hen bryd—i ni gael proses graffu ôl-ddeddfwriaethol o'r Mesur hawliau plant a mynd ati wedyn, os oes angen, trwy ddeddfwriaeth i gywiro'r sefyllfa yna, fel nad oes rhaid i ni ailadrodd y math yma o welliannau bob tro mae Bil perthnasol yn cael ei gyflwyno. Dadl ar gyfer rhywbryd arall yw hynny, efallai, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod y pwynt yn cael ei wneud.
Ni fyddaf innau chwaith yn cefnogi gwelliannau 2G a 3F gan y Llywodraeth oherwydd mi fyddai hynny yn eithrio cyrff llywodraethu a sefydliadau addysg bellach rhag rhoi sylw i'r confensiynau, gan danseilio, i bob pwrpas, llawer o fwriad nifer o'r gwelliannau eraill yn y grŵp yma.