Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Roedd yna wrthwynebiad, i awgrymiadau bod—[Torri ar draws.] Os gwnewch chi ganiatáu imi orffen, ac wedyn byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad. Roedd gwrthwynebiad sylweddol i symud y gwelliannau hyn ymlaen yn ystod Cyfnod 1. Cynigiwyd y gwelliannau hyn gan y comisiynydd plant ac amryw o randdeiliaid eraill, ac roedd gwrthwynebiad bryd hynny i ganiatáu cyflwyno unrhyw welliannau. Ac fe ddadleuodd y Gweinidog, yn yr un modd ag y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, nad oedd angen ailadrodd y dyletswyddau hyn yn slafaidd ar wyneb y Bil, ac, wrth wneud hynny, y byddai'n creu'r problemau hynny i staff rheng flaen ac yn rhoi sefydliadau mewn perygl o wynebu achosion cyfreithiol. Ond, wrth gwrs, mae'r ofnau hynny yn gwbl ddi-sail. Ni fu unrhyw broblem gyfreithiol o ganlyniad i gynnwys y dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, er enghraifft — nid oes unrhyw achos cyfreithiol wedi'i ddwyn. Nawr, er nad yw'r gwelliannau hyn yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn cyrraedd nod y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno, rwyf yn hyderus, os cawn nhw fynd ymlaen, y byddant yn sicrhau y bydd y pwyslais ar hawliau yr ydym ni yn briodol wedi ei mabwysiadu yma yng Nghymru yn cael ei atgyfnerthu, a byddant hefyd yn arwain at newidiadau i arferion ar lawr gwlad. Dyna pam yr wyf i'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei throedigaeth ddiweddar, os mynnwch chi, i'r achos o fod angen gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei diwygio i gynnwys cyfeiriadau at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil.
Wedi dweud hynny, rwy'n bryderus, ac rwy'n bryderus ynghylch dau o welliannau Llywodraeth Cymru yn arbennig. Tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ceisio gwneud mân ddiwygiadau i ddrafftio gwelliannau 2 a 3, mae arnaf ofn bod rhai eraill yn peri gofid. Rwy'n ofni na allaf argymell i'r Cynulliad hwn gefnogi gwelliannau 2G a 3F yn arbennig, oherwydd eu bod yn ceisio dileu'r ddyletswydd i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig—dau gorff sydd â swyddogaethau hynod o bwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gweithredu. Rwy'n credu bod dileu dyletswyddau sylw dyledus oddi ar ysgolion a cholegau yn y modd hwn braidd yn rhyfedd.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dadlau nad yw ysgolion a cholegau o raddfa na maint digon mawr i sicrhau y gall y sefydliadau hynny fod yn gyfarwydd â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a bod â'r adnoddau i allu sicrhau y byddant yn rhoi sylw dyledus iddyn nhw yn yr un ffordd ag y gallai sefydliadau mwy o faint fel awdurdod addysg lleol neu'r GIG. Ond y gwir amdani yw bod ysgolion eisoes yn gyfarwydd â'r agenda hawliau. Maen nhw eisoes yn gyfrifol am hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau plant, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion ledled y wlad. Ac yn ychwanegol at hynny, mae ein colegau addysg bellach yn sefydliadau mawr iawn, gwerth miliynau o bunnoedd y mae hi eisoes yn ofynnol iddyn nhw gydymffurfio â darnau cymhleth iawn o ddeddfwriaeth ac yna eu gweithredu, ac maen nhw'n gwneud hynny'n llwyddiannus bob dydd. Maen nhw'n fwy nag abl i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig.
Fel y dywedais yn gynharach, mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eisoes yn disgwyl ac yn rhoi gofyniad ar weithwyr cymdeithasol rheng flaen ac unigolion eraill sy'n darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i roi sylw dyledus i egwyddorion a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, felly pam na ddylem ni ddisgwyl i athrawon ac unrhyw un arall sy'n darparu rhyw fath o swyddogaeth o dan y Ddeddf hon, ac yn enwedig cyrff llywodraethu ysgolion a cholegau addysg bellach wneud hynny hefyd?
Felly, byddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno yn y grŵp hwn gan y Gweinidog, gan gynnwys gwelliannau 2D a 3D, sy'n rhoi cyfle i mi fynd ati mewn modd cymesur i roi sylw dyledus i ddibenion y Ddeddf hon. Rwy'n credu eu bod yn synhwyrol, ond mae arnaf ofn na allaf i gefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno, gwelliannau 2G a 3F, ac rwy'n annog holl Aelodau'r Cynulliad i'w gwrthod.