Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Rwyf yn annog yr Aelodau, Llywydd, i gefnogi gwelliannau 38 a 43. Rydym ni wedi bod yn glir drwy gydol y broses y bwriedir i'r system anghenion dysgu ychwanegol fod yn berthnasol i bobl ifanc sy'n dal yn yr ysgol neu sy'n derbyn addysg bellach. Nid yw'r system hon wedi'i bwriadu i fod yn berthnasol i bobl ifanc mewn addysg uwch.
Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud y Bil yn gwbl gyson â'r polisi hwnnw. Byddant yn dileu'r anghysondeb presennol yn y Bil, ac felly er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch, rwyf yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.