2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:22, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol ar y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Roedd hwnnw, wrth gwrs, i fod yn ddatganiad llafar cynharach ond, am resymau clir a phriodol iawn, ni allai hynny ddigwydd. Ond mae'r cynllun gweithredu'n bwysig iawn, ac mae goblygiadau gwirioneddol i gyllideb y Cynulliad ac i ragolygon economaidd y cymunedau yn y Cymoedd eu hunain. Gwn fod gan lawer o aelodau'r cyhoedd a llawer o'r Aelodau yma, gan gynnwys fi fy hun, bryderon mawr ynghylch y cynlluniau gweithredu. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i ddadl neu ddatganiad llafar cyn gynted ag y bo modd yn amser y Llywodraeth ar y cynllun gweithredu.