– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn gwneud datganiad llafar ar ddyfodol Cadw yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Galwaf am un datganiad ar nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref sydd ar y sbectrwm awtistiaeth neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol eraill. Efallai y byddwch chi'n ymwybodol bod BBC Wales wedi adrodd, ddydd Gwener diwethaf, ar waith ymchwil yn dangos bod nifer y disgyblion sy'n cael eu tynnu allan o'r ysgol i'w haddysgu gartref wedi dyblu yn y pedair blynedd flaenorol, a chredir fod llawer o'r disgyblion hynny ar y sbectrwm awtistig. Mae hyn yn dilyn datgeliadau blaenorol bod nifer y disgyblion yn y categorïau Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol ar waharddiadau tymor byr wedi dyblu, er ei fod yn gostwng ymhlith y boblogaeth ysgol yn gyffredinol.
Rydym ni wedi clywed pryder yn y cyd-destun hwn gan Gomisiynydd Plant Cymru, a fynegodd bryder bod rhai rhieni wedi dweud wrthi eu bod wedi cael eu hannog i addysgu yn y cartref oherwydd y gallai eu plant fod yn effeithio ar ddata perfformiad yr ysgol neu'r awdurdod lleol. Clywsom gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru bod teuluoedd â phlant awtistig yn cyflwyno mwy o apeliadau ynghylch y diffyg cymorth yr oedd eu plentyn yn ei gael yn yr ysgol na'r rheini ag anghenion dysgu eraill. A chlywsom gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru bod llawer o rieni yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle nad oes ganddynt unrhyw ddewis, a'r unig beth y gallant ei wneud i helpu eu plant yw eu haddysgu yn y cartref, er efallai nad ydynt yn teimlo eu bod yn gwbl gymwys i wneud hynny nac eisiau gwneud hynny.
Nawr, gwn eich bod yn mynd i ddweud wrthyf, neu efallai eich bod chi'n mynd i ddweud wrthyf, y bydd y Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru), a fydd yn cael ei drafod yn ddiweddarach, yn rhoi sylw i hyn ac yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr, ond mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru wedi galw am hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion, gan gydnabod ei bod yn debygol mai'r un bobl yn union mewn ysgolion sy'n cael pethau mor anghywir gyda'r plant hyn ar hyn o bryd fydd y bobl a fydd yn cael dylanwad mawr ar eu cynlluniau datblygu unigol yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio felly y byddwch yn dod o hyd i amser i Lywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar y darn pwysig iawn hwn o waith gan BBC Wales.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mewn gwirionedd, gwelais y rhaglen, a oedd yn ddiddorol iawn, ac rwyf wedi cael cyfle i siarad â nifer o grwpiau fy hun am y peth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn y Siambr, hefyd yn gwrando ar eich sylwadau chi. Byddaf yn achub ar y cyfle, wrth gwrs, i ddweud y bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol, sy'n uchelgeisiol iawn, os caiff ei basio y prynhawn yma, yn ailwampio'n llwyr y system ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a bydd yn cyflwyno dyletswyddau i sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol mewn ysgolion. Yn amlwg, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i greu system addysg gynhwysol sy'n gweithio ar gyfer pob un o'n dysgwyr, ac rydym bob amser yn agored iawn i dystiolaeth ychwanegol neu sylwebaeth sy'n dangos bod angen edrych ar ryw ran o'r system eto. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi clywed eich sylwadau ac rwy'n siŵr y bydd hi'n eu hystyried, ac os byddwn yn nodi unrhyw dueddiadau neu batrymau o'r fath, neu os oes tystiolaeth ar gael, rwy'n siŵr bydd hi'n cymryd hynny i ystyriaeth maes o law.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol ar y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Roedd hwnnw, wrth gwrs, i fod yn ddatganiad llafar cynharach ond, am resymau clir a phriodol iawn, ni allai hynny ddigwydd. Ond mae'r cynllun gweithredu'n bwysig iawn, ac mae goblygiadau gwirioneddol i gyllideb y Cynulliad ac i ragolygon economaidd y cymunedau yn y Cymoedd eu hunain. Gwn fod gan lawer o aelodau'r cyhoedd a llawer o'r Aelodau yma, gan gynnwys fi fy hun, bryderon mawr ynghylch y cynlluniau gweithredu. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i ddadl neu ddatganiad llafar cyn gynted ag y bo modd yn amser y Llywodraeth ar y cynllun gweithredu.
Yr ydym ni i gyd yn ymwybodol o'r amgylchiadau trist iawn, sy'n dal i effeithio ar fusnes y Llywodraeth, a gwn fod yr Aelod, fel y mae'r holl Aelodau, yn llawn cydymdeimlad wrth i ni geisio ymdopi â hynny. Yn amlwg, mae cyfleoedd i holi'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am frîff y Cymoedd. Rwy'n deall pwynt yr Aelod, ond credaf y bydd cyfleoedd yn y cwestiynau ac ar adegau eraill, ac, mewn gwirionedd, yn ystod y ddadl ar y gyllideb, i ymateb i unrhyw un o'r pryderon. Wrth gwrs, gall yr Aelod bob amser gyflwyno'r pryderon hynny yn ysgrifenedig os yw'n dal i bryderu.
Arweinydd y Tŷ, yr wythnos diwethaf cadeiriais gyfarfod lle'r oedd Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau yn bresennol, grŵp a sefydlwyd yn y Barri. Yn y cyfarfod hwnnw hefyd roedd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Diane McCrea, a'i huwch swyddogion. Yn y cyfarfod, dywedodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn bwriadu gwneud penderfyniad drafft i roi trwydded amgylcheddol gydag amodau ar gyfer y llosgydd biomas Rhif 2 ynghanol y Barri. Cafwyd llawer o wrthwynebiad iddo gan y gymuned, cynrychiolwyr etholedig trawsbleidiol, gan gynnwys fi fy hun, a chyrff statudol. Rwyf wedi galw am gyfnod ymgynghori estynedig o wyth wythnos o leiaf ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar y penderfyniad drafft hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad ar benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn?
Diolch ichi am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw, Jane Hutt. Rydych chi bob amser yn cymryd pryderon eich etholaeth ym Mro Morgannwg o ddifrif, a gwelaf nad ydych chi wedi newid mewn unrhyw ffordd o ran y penderfyniad pwysig iawn hwn. Ni fyddwn, yn amlwg, yn gwneud sylw manwl ar y cais oherwydd gallai fod yn rhywbeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gorfod gwneud penderfyniad arno o ran apêl yn y pen draw. Ond rwyf ar ddeall bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cyhoeddiad, fel y gwnaethoch ddweud, ei fod yn bwriadu cyflwyno trwydded amgylcheddol. Cyn iddo gyflwyno unrhyw drwydded o'r fath mae'n rhaid iddo ymgynghori ar y ddogfen benderfyniad ddrafft ac ar amodau'r drwydded ddrafft, a fyddai'n esbonio'r rhesymeg dros y penderfyniad.
Mae'r ymgynghoriad yn para am o leiaf pedair wythnos o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen, ac mae hwn yn gyfle arall i bobl gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd nad ydynt wedi'i hystyried o'r blaen ac i roi sylwadau pellach ar y penderfyniad drafft. Credaf fod hynny'n gyfle i'r etholwyr ac i chi eich hun wneud y sylwadau pellach hynny, os oes angen.
Ymhellach at hynny, mae'r Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Siambr yn gwrando, ac rwy'n siŵr ei bod yn ystyried eich sylwadau.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd brawychus mewn tipio anghyfreithlon mewn rhannau o'r de-ddwyrain? Y llynedd, roedd cynnydd o 6 y cant mewn tipio anghyfreithlon ar draws Cymru—fodd bynnag, 15 y cant oedd y cynnydd ym Merthyr Tudful, ac yng Nghasnewydd roedd 3,258 o achosion o dipio anghyfreithlon, cynnydd o 44 y cant. Mae'r nifer yn syfrdanol, Gweinidog, ac mae'r ffaith bod yr achosion o dipio asbestos ar eu huchaf ers 10 mlynedd yn destun pryder, gyda Merthyr Tudful â'r gyfradd uchaf yng Nghymru. Mae hynny'n berygl gwirioneddol i iechyd. A gaf i ofyn am ddatganiad ar frys ar y mater hwn, sydd â goblygiadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau pwysig iawn hynny. Credaf fod tipio anghyfreithlon yn fater pwysig iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae cymdeithasau llywodraeth leol ac, yn wir, Gweinidogion dros yr Amgylchedd wedi'i drafod dros beth amser. Ceir arferion da iawn ar draws Cymru, a chredaf mai'r ffordd ymlaen yw annog cydweithwyr ym maes Llywodraeth Leol i rannu'r arferion da hynny a'u lledaenu, fel y gall rhai cynghorau sy'n cael problemau ddysgu o'r arferion da hynny a'u cymryd i ystyriaeth wrth lunio eu polisïau eu hunain.
A yw'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ymchwil a wnaed gan Goleg Prifysgol Llundain a gyhoeddwyd yn y BMJ yr wythnos ddiwethaf ar y cysylltiad rhwng marwolaethau diangen a pholisïau cyni? Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwnnw yn Lloegr, ond roedd yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwariant a chyni a marwolaethau cynnar. Canfuwyd, yn Lloegr, fod marwolaethau cynnar wedi bod yn gostwng hyd at 2010, ond ers hynny mae'r sefyllfa wedi'i gwrthdroi'n llwyr. Ar gyfer pob gostyngiad o £10 y pen i wariant ar ofal cymdeithasol, dangoswyd bod pum marwolaeth ychwanegol mewn cartrefi gofal fesul 100,000 o'r boblogaeth yn Lloegr. Gyda'i gilydd, maen nhw'n amcangyfrif mai cost polisïau cynilo yw 120,000 o farwolaethau cynnar. Felly, mae hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae cyni'n creu argyfwng iechyd cyhoeddus ar sail y ffigurau hyn ar gyfer Lloegr yn unig.
Credaf y byddai'n ddadlennol i'r Cynulliad gael dehongliad tebyg yng Nghymru—dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Ysgrifennydd y Cabinet roi eu dehongliad nhw o'r hyn y mae'r ffigurau hyn yn ei olygu yng nghyd-destun Cymru, a hefyd y goblygiadau i'n penderfyniadau llunio polisi yma yng Nghymru.
Wel, mae Simon Thomas yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn. Yn ein gwaith etholaeth ni ein hunain rwyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi gweld bod mwy o bobl yn wynebu anawsterau difrifol oherwydd cyni, a'r budd-daliadau a'r polisïau eraill cysylltiedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Yn benodol, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn am yr oedi wrth dalu credyd cynhwysol, a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu pobl i fwydo eu hunain a chadw'n gynnes ac ati. Yn wir, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn, fel y mae fy nghyd-aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, hefyd, rwy'n siŵr, sy'n gwrando ar eich pwyntiau chi. Credaf y byddai'n syniad gwych gweld beth yw'r union sefyllfa yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio ei ben wrth i mi ddweud hyn, felly rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu ymchwilio i hynny ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad maes o law.
A gaf i achub ar y cyfle ffurfiol cyntaf hwn i longyfarch Arweinydd y Tŷ yn ei swyddogaeth newydd a dymuno'n dda iddi yn ei gwaith? A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyflwyno datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater pwysig o asbestos mewn adeiladau ysgolion? Gwyddom o sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau a hefyd o ohebiaeth berthnasol fod Llywodraeth Cymru erbyn hyn wedi ffurfio gweithgor ar y mater ac rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno y byddai o fudd i bawb glywed mwy am y gwaith hwn fel rhan o fusnes y Cyfarfod Llawn.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar asbestos, yr wyf yn ei gadeirio, hefyd yn awyddus i sicrhau bod gwaith y gweithgor yn seiliedig ar yr egwyddorion o bartneriaeth gymdeithasol sy'n bodoli yng ngwaith y Llywodraeth hon. Felly a gaf i ofyn hefyd fod y datganiad yn ymdrin ag aelodaeth y gweithgor, y cylch gorchwyl a'r rhaglen waith yn y dyfodol?
Mae'r Aelod wedi ymddiddori’n frwd yn hyn—a diolch yn fawr iawn am eich sylwadau caredig ar y dechrau. Fy nealltwriaeth i yw bod y gweithgor ar reoli asbestos mewn ysgolion wedi penderfynu y dylid cynnal ymgynghoriad yn gynnar yn 2018 ar ganllawiau diwygiedig ar reoli asbestos mewn ysgolion yng Nghymru, ac ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori bydd yr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr undebau, yn ymgynnull mewn cyfarfod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gallu cymryd rhan yn hynny. Ac rwy'n siŵr, pan fydd hynny wedi digwydd, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y sefyllfa pan fydd y gweithgor a'r ymgynghoriad wedi cael cyfle i symud ymlaen.
Arweinydd y Siambr, hoffwn eich llongyfarch hefyd, ar y dechrau.
A fyddai modd cael datganiad am Ddiwrnod Rhyngwladol Dynion a beth wnaeth y Llywodraeth yng Nghymru i'w gydnabod.
Yr ail bwynt yw'r farn gyfreithiol a roddir i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd yn y Western Mail heddiw, a ganfu fod gwahaniaethu yn erbyn dynion ym maes cam-drin domestig yng Nghymru. Tybed sut y mae hyn yn mynd i lywio polisi'r Llywodraeth, a sut y byddech yn cydnabod y gwahaniaethu. Er enghraifft, caiff dynion eu trin yn awtomatig fel troseddwyr wrth ddatgan eu bod yn ddioddefwyr. Ystyrir bod hyn yn wahaniaethol ac yn anghyfreithlon erbyn hyn, ac mae hynny'n digwydd yng Nghaerdydd. Gallwn enwi sefydliadau yma, ond wnaf hynny nawr. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynghylch y gwahaniaethu hwn y mae dynion yn ei wynebu ym maes cam-drin domestig? Mae tri deg pump y cant o'r holl ddioddefwyr yn ddynion y dyddiau hyn.
Diolch ichi am y sylwadau caredig hynny ar y dechrau. Yn wir, rwyf i wedi cymryd cyfrifoldeb dros frîff cydraddoldebau. Bydd yr Aelodau yn deall bod nifer o faterion wedi digwydd yn ddiweddar sy'n golygu nad wyf wedi llwyddo i fynd i'r afael â hynny mor gyflym â phosibl. Cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud hynny, byddaf wrth gwrs yn ateb cwestiynau ar lawr y Tŷ, a byddaf yn cyflwyno fy nealltwriaeth fy hun o rai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros ddysgu gydol oes ar ddathlu llwyddiant y sector colegau yng Nghymru? Heb os, bydd pawb yn y Siambr yn dymuno estyn eu llongyfarchiadau i fyfyrwyr a staff Coleg Cambria, a enillodd wobrau WorldSkills UK yr wythnos ddiwethaf. Mae nifer ohonyn nhw hefyd wedi cynrychioli'r DU dramor yn Abu Dhabi yn y rowndiau byd terfynol y mis diwethaf—cafodd Ethan Davies a Joe Massey lwyddiant gan ennill gwobrau yno. Mae'r Coleg hwn nid yn unig wedi llwyddo i sicrhau 10 medal a chael yr ail sgôr uchaf o ran darparwyr yn y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol, ond hefyd cafodd 13 o'i ddysgwyr eu dewis yn y garfan sy'n cystadlu yn WorldSkills 2019 yn Kazan yn Rwsia. Hefyd, llwyddodd Rona Griffiths, un o aelodau staff y coleg, i guro 77 o gystadleuwyr eraill i ennill gwobr Arwr WorldSkills UK ar gyfer 2017. Mae hyn yn llwyddiant aruthrol, ond nid yw pawb yn ymwybodol o hynny, a dylem ni roi sylw i'r math hwn o lwyddiant a'i ddathlu mewn modd mwy amlwg yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ac mewn mannau eraill. Felly, byddai'n dda cael crynodeb, os mynnwch chi, o leiaf yn flynyddol, o'r math hwn o lwyddiant yn y sector addysg bellach yng Nghymru er mwyn i ni allu rhoi sylw mwy amlwg iddynt fel Cynulliad.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau da iawn. Bydd yn gwybod fy mod i bob amser yn awyddus iawn i ddathlu llwyddiant Cymru yn fy swydd flaenorol, ac rwyf ychydig yn rhwystredig nad ydym yn gallu tynnu sylw haeddiannol gan y cyfryngau ac ati at y llwyddiant anhygoel mewn sioeau sgiliau ac o ran perfformiad sgiliau. Mae'r Gweinidog newydd yn eistedd ac yn gwrando arnoch chi; rwy'n siŵr y bydd hi yr un mor frwdfrydig â minnau i sicrhau bod y dathlu'n digwydd ar y lefel gywir. Mae'r coleg yr ydych yn sôn amdano wedi gwneud yn dda iawn. Mae colegau eraill ledled Cymru hefyd wedi gwneud yn dda iawn. Yn fy swydd flaenorol, cefais y fraint a'r pleser o gwrdd â llawer o gystadleuwyr mewn cystadlaethau sgiliau ac ni chewch gwrdd â chriw o fenywod a dynion ifanc gwell na nhw yn unrhyw le. Gadewais y rhan honno o fy hen bortffolio gan deimlo ychydig yn drist oherwydd ei bod yn bleser ac yn fraint cael bod yn dyst i rai o'r cystadlaethau sgiliau ar waith, ac, yn wir, gael gweld y gwaith gwych a wneir mewn colegau addysg bellach. Felly, mae'r Gweinidog newydd wedi gwrando ar eich sylwadau. Rwy'n siŵr y byddai eisiau parhau gyda'r digwyddiad dathlu, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd hyn maes o law.
Ddydd Gwener, ymwelais â chanolfan ymchwil a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe. Gwn fod arweinydd y tŷ yn gyfarwydd iawn â hi. Yn anffodus, symudodd o Brifysgol Caerdydd, ond mae'n amlwg yn gwneud yn dda iawn ym Mhrifysgol Abertawe. Dysgais eu bod yn gwneud gwaith ymchwil arloesol yno mewn gwirionedd, a'r unig le yn y byd sy'n gwneud hynny—ymchwilio i afreoleidd-dra cynnar y galon a ddioddefir gan blant, ac edrych yn gyffredinol ar broblem enfawr clefyd y galon yn y boblogaeth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, pryd gawn ni ddatganiad, neu ddadl—rhywbeth i gatalogio'r llwyddiannau gwyddonol eithriadol yng Nghymru, ac yn enwedig yr hyn sy'n digwydd yn ysgol feddygol Abertawe?
Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Mae'n gyfle imi ddweud, wrth gwrs, fy mod yn falch iawn bod y ganolfan yn gwneud cystal ym Mhrifysgol Abertawe, sydd, Llywydd, yng nghanol fy etholaeth i, rhag ofn nad yw Aelodau yn ymwybodol o hynny. Mewn gwirionedd, mae gwaith ymchwil yng Nghymru yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl, a dylem ymfalchïo yn y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud yn y maes hwn gan Sefydliad Prydeinig y Galon a chan y tîm ymchwil cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Credaf fod cynnal partneriaethau o'r fath a'n buddsoddiad i gyflawni gwaith ymchwil mewn lleoliadau iechyd yn ffactorau pwysig iawn er mwyn i Gymru allu cystadlu'n dda yn hyn o beth. Unwaith eto, yn fy swydd flaenorol, cefais i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd nifer o drafodaethau am sut y gallem gael y canlyniadau gorau, o ganfyddiadau'r ymchwil, ar gyfer triniaethau gwirioneddol ac ar gyfer datblygiadau yng Nghymru mewn meysydd penodol, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd y galon. Ceir cyfres gyfan o arbenigeddau sy'n codi yn sgil y gwaith ymchwil arloesol a welsoch, a byddwn yn annog Aelodau eraill i fynd a chael golwg arno os nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i wneud hynny, gan ei fod yn hynod o drawiadol. Ar ôl i bortffolios newydd y Gweinidogion ymsefydlu, credaf y bydd cyfle i gael rhyw fath o ddadl neu ddatganiad ar lawr y tŷ hwn ynghylch gwaith ymchwil a'i ryng-gysylltiad ag iechyd. A byddaf yn siŵr o sicrhau y bydd y ddau Weinidog yn symud y gwaith ymchwil hwn yn ei flaen ac yn ymweld â'r cyfleuster cyn gynted â phosibl.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet—arweinydd y tŷ.