2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:19, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn gwneud datganiad llafar ar ddyfodol Cadw yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.