Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch ichi am y sylwadau caredig hynny ar y dechrau. Yn wir, rwyf i wedi cymryd cyfrifoldeb dros frîff cydraddoldebau. Bydd yr Aelodau yn deall bod nifer o faterion wedi digwydd yn ddiweddar sy'n golygu nad wyf wedi llwyddo i fynd i'r afael â hynny mor gyflym â phosibl. Cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud hynny, byddaf wrth gwrs yn ateb cwestiynau ar lawr y Tŷ, a byddaf yn cyflwyno fy nealltwriaeth fy hun o rai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.