Grŵp 14. Gwasanaethau eirioli (Gwelliannau 17, 18)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:53, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Pwrpas gwelliannau 17 a 18 yw diwygio adran 65 y Bil i sicrhau y bydd rhieni plentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol bob amser yn cael cyfle i gael ddefnyddio gwasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae'r gwelliannau hyn yn gweithredu argymhelliad 26 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, a oedd yn awgrymu y dylid diwygio'r Bil i sicrhau ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i rieni, ar gais, hyd yn oed os nad yw'r rhiant hwnnw yn gyfaill achos. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth a gafwyd bod angen eiriolaeth ar gyfer rhieni yn ogystal â dysgwyr a chyfeillion achos, ac roedd pryderon, oherwydd na roddwyd yr hawl i eiriolaeth annibynnol i rieni yn benodol yn y Bil, y gallai beidio â bod ar gael i rai rhieni neu ddim ond ar gael o dan amgylchiadau eithriadol. Nododd TSANA nad oedd y Bil yn darparu'n benodol ar gyfer darparu eiriolaeth i rieni, ac nad oedd rhieni o reidrwydd yn cael eu diffinio fel cyfeillion achos yn y Bil, ac felly'n gymwys ar gyfer eiriolaeth. Roedd Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn cytuno. Dywedodd pe byddai awdurdodau lleol a chyrff yn gwybod bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael ar gyfer rhieni, yna byddai hynny ynddo ei hun yn helpu i reoli pethau. Felly, byddai darparu eiriolaeth annibynnol i rieni plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn fy marn i, yn helpu i osgoi gofid; bydd yn helpu i osgoi oedi; a bydd yn helpu i osgoi, yn bwysig iawn, camau unioni costus yn ddiweddarach yn y broses, pryd y gallen nhw, er enghraifft, fod yn cymryd rhan mewn tribiwnlys. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi hefyd.