Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser arbennig i mi gael gwneud fy natganiad cyntaf—gobeithio nid yr olaf—fel Gweinidog, ar ddyfodol Cadw.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr argymhellion yn adroddiad y grŵp llywio, 'Cymru Hanesyddol—Ar drywydd Llwyddiant, Cadernid a Chynaliadwyedd ar gyfer Treftadaeth Cymru'. Roedd yr adroddiad yma yn cynnwys argymhelliad penodol ynglŷn â dyfodol trefniadau llywodraethiant Cadw, ac y dylid paratoi achos busnes i nodi’r opsiynau gorau. Fe ddaeth yr achos busnes i law ddiwedd mis Medi, fe’i cyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w gydweithwyr ym mis Hydref, ac rwyf innau'n hapus iawn i weithredu penderfyniad y Cabinet, ac i dderbyn yr argymhelliad craidd y dylai Cadw barhau yn rhan o’r Llywodraeth.
Yn yr achos busnes, fe gafwyd ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp llywio y gallai Cadw ddod yn gorff elusennol neu’n asiantaeth weithredol y tu allan i Lywodraeth Cymru. Wedi ystyried hyn yn ofalus, a mesur yr achos busnes gerbron y sefyllfa bresennol, a dadansoddi'n fanwl swyddogaethau Cadw a’r gwahanol ffactorau sy’n sbarduno newid, fe welwyd bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn cadw Cadw yn rhan o’r Llywodraeth yn weddol gytbwys. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd o heriau ariannol sydd gyda ni—o ddiffygion amser deddfwriaeth, ac o adnoddau dynol yn gysylltiedig â chreu sefydliad newydd—roedd yn rhaid i ni edrych hefyd ar y ffaith bod Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu lefelau incwm o fewn y Llywodraeth, a chyfrannu tuag at ddeddfwriaeth flaengar a blaenoriaethau polisi. Un mater allweddol, wrth gwrs, yw'r costau ychwanegol o greu sefydliad ar wahân. Hefyd, drwy barhau o fewn y Llywodraeth, fe fyddai Cadw wedi gallu gwneud mwy o gyfraniad at nod canolog ein polisi creiddiol, 'Ffyniant i Bawb'.
Ac, felly, er bod yna fanteision posib wedi cael eu hadnabod o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich, rwyf am bwysleisio pa mor eithriadol o dda mae Cadw wedi perfformio, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, o fewn y Llywodraeth—y perfformiad masnachol yn cael ei ysgogi gan welliannau mawr i brofiad ymwelwyr. Rwyf wedi cael profiad arbennig ohonynt, wrth gwrs, yn enwedig yn y gogledd, yn y gwaith sydd wedi'i wneud yn y cestyll. Y flwyddyn 2016-17 oedd y flwyddyn mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Cadw, gyda £6.6 miliwn o incwm. Yn dilyn hyn, mae'r arwyddion cynnar am ffigurau ymwelwyr y flwyddyn yma yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn ar gyfer blwyddyn lwyddiannus arall. Mae Cadw wedi cynnal sawl ymgyrch farchnata lwyddiannus, wedi ennill gwobrau sy’n annog ymwelwyr i fynd i safleoedd hanesyddol o dan ofal Llywodraeth Cymru, ac mae Cadw wedi cyflawni hyn hefyd ac wedi trawsnewid diwylliant ymgysylltu â'r cyhoedd. Wrth wneud hynny, mae wedi ein helpu ni i sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar gyfer pobl Cymru.
Felly, wrth ystyried yr achos yma o blaid cadw'r sefydliad Cadw yn rhan o’r Llywodraeth, fe argymhellwyd nifer o welliannau busnes a fydd yn ffordd bwysig o fynd i’r afael â'r materion a nodwyd gan adolygiadau blaenorol, o ran staff a rhanddeiliaid. Felly, bydd y rhain yn ei gwneud yn bosibl i Cadw weithredu’n well gan ymateb i’r potensial a godwyd mewn adolygiadau diweddar, gan gynnwys yr angen i gynhyrchu mwy o incwm eto a gweithio’n fwy effeithiol o fewn gofynion llywodraethu yn y sector cyhoeddus.
Rwyf am weld llwyddiant Cadw yn parhau, ac mae'r gwelliannau hyn yn mynd i roi mwy o eglurder i bawb trwy sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol yn parhau gyda ni fel Gweinidogion Cymru a'r gwaith o ddydd i ddydd gyda swyddogion. Mae hefyd yn caniatáu gwell cynllunio a hyblygrwydd o ran recriwtio o fewn cyllidebau. Bydd Cadw hefyd yn parhau i fod yn aelod gweithgar yn ei hawl ei hun yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth. Mae'r bartneriaeth yma yn cynnal nifer o weithgareddau cydweithredol sy’n caniatáu i’r sefydliadau treftadaeth cenedlaethol rannu arbenigedd a dod yn fwy effeithiol, yn wydn ac yn graff yn fasnachol yn yr hinsawdd heriol yr ydym ni ynddi hi. Mi fydd y trefniadau newydd ar gyfer Cadw, yn fy marn i, yn caniatáu iddo adeiladu ar ei lwyddiant presennol a manteisio i'r eithaf wrth gyfrannu at y bartneriaeth ehangach yn hanes treftadaeth Cymru a ffyniant y genedl. Diolch i chi am wrando.