3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Dyfodol Cadw

– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:37, 21 Tachwedd 2017

Ac felly rydym ni'n mynd ymlaen i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ddyfodol Cadw. Dafydd Elis-Thomas.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser arbennig i mi gael gwneud fy natganiad cyntaf—gobeithio nid yr olaf—fel Gweinidog, ar ddyfodol Cadw.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr argymhellion yn adroddiad y grŵp llywio, 'Cymru Hanesyddol—Ar drywydd Llwyddiant, Cadernid a Chynaliadwyedd ar gyfer Treftadaeth Cymru'. Roedd yr adroddiad yma yn cynnwys argymhelliad penodol ynglŷn â dyfodol trefniadau llywodraethiant Cadw, ac y dylid paratoi achos busnes i nodi’r opsiynau gorau. Fe ddaeth yr achos busnes i law ddiwedd mis Medi, fe’i cyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w gydweithwyr ym mis Hydref, ac rwyf innau'n hapus iawn i weithredu penderfyniad y Cabinet, ac i dderbyn yr argymhelliad craidd y dylai Cadw barhau yn rhan o’r Llywodraeth.

Yn yr achos busnes, fe gafwyd ystyriaeth ofalus i argymhellion y grŵp llywio y gallai Cadw ddod yn gorff elusennol neu’n asiantaeth weithredol y tu allan i Lywodraeth Cymru. Wedi ystyried hyn yn ofalus, a mesur yr achos busnes gerbron y sefyllfa bresennol, a dadansoddi'n fanwl swyddogaethau Cadw a’r gwahanol ffactorau sy’n sbarduno newid, fe welwyd bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn cadw Cadw yn rhan o’r Llywodraeth yn weddol gytbwys. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd o heriau ariannol sydd gyda ni—o ddiffygion amser deddfwriaeth, ac o adnoddau dynol yn gysylltiedig â chreu sefydliad newydd—roedd yn rhaid i ni edrych hefyd ar y ffaith bod Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu lefelau incwm o fewn y Llywodraeth, a chyfrannu tuag at ddeddfwriaeth flaengar a blaenoriaethau polisi. Un mater allweddol, wrth gwrs, yw'r costau ychwanegol o greu sefydliad ar wahân. Hefyd, drwy barhau o fewn y Llywodraeth, fe fyddai Cadw wedi gallu gwneud mwy o gyfraniad at nod canolog ein polisi creiddiol, 'Ffyniant i Bawb'.

Ac, felly, er bod yna fanteision posib wedi cael eu hadnabod o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich, rwyf am bwysleisio pa mor eithriadol o dda mae Cadw wedi perfformio, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, o fewn y Llywodraeth—y perfformiad masnachol yn cael ei ysgogi gan welliannau mawr i brofiad ymwelwyr. Rwyf wedi cael profiad arbennig ohonynt, wrth gwrs, yn enwedig yn y gogledd, yn y gwaith sydd wedi'i wneud yn y cestyll. Y flwyddyn 2016-17 oedd y  flwyddyn mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Cadw, gyda £6.6 miliwn o incwm. Yn dilyn hyn, mae'r arwyddion cynnar am ffigurau ymwelwyr y flwyddyn yma yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn ar gyfer blwyddyn lwyddiannus arall. Mae Cadw wedi cynnal sawl ymgyrch farchnata lwyddiannus, wedi ennill gwobrau sy’n annog ymwelwyr i fynd i safleoedd hanesyddol o dan ofal Llywodraeth Cymru, ac mae Cadw wedi cyflawni hyn hefyd ac wedi trawsnewid diwylliant ymgysylltu â'r cyhoedd. Wrth wneud hynny, mae wedi ein helpu ni i sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol ar gyfer pobl Cymru. 

Felly, wrth ystyried yr achos yma o blaid cadw'r sefydliad Cadw yn rhan o’r Llywodraeth, fe argymhellwyd nifer o welliannau busnes a fydd yn ffordd bwysig o fynd i’r afael â'r materion a nodwyd gan adolygiadau blaenorol, o ran staff a rhanddeiliaid. Felly, bydd y rhain yn ei gwneud yn bosibl i Cadw weithredu’n well gan ymateb i’r potensial a godwyd mewn adolygiadau diweddar, gan gynnwys yr angen i gynhyrchu mwy o incwm eto a gweithio’n fwy effeithiol o fewn gofynion llywodraethu yn y sector cyhoeddus. 

Rwyf am weld llwyddiant Cadw yn parhau, ac mae'r gwelliannau hyn yn mynd i roi mwy o eglurder i bawb trwy sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol yn parhau gyda ni fel Gweinidogion Cymru a'r gwaith o ddydd i ddydd gyda swyddogion. Mae hefyd yn caniatáu gwell cynllunio a hyblygrwydd o ran recriwtio o fewn cyllidebau. Bydd Cadw hefyd yn parhau i fod yn aelod gweithgar yn ei hawl ei hun yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth. Mae'r bartneriaeth yma yn cynnal nifer o weithgareddau cydweithredol sy’n caniatáu i’r sefydliadau treftadaeth cenedlaethol rannu arbenigedd a dod yn fwy effeithiol, yn wydn ac yn graff yn fasnachol yn yr hinsawdd heriol yr ydym ni ynddi hi. Mi fydd y trefniadau newydd ar gyfer Cadw, yn fy marn i, yn caniatáu iddo adeiladu ar ei lwyddiant presennol a manteisio i'r eithaf wrth gyfrannu at y bartneriaeth ehangach yn hanes treftadaeth Cymru a ffyniant y genedl. Diolch i chi am wrando. 

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:43, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau drwy groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwyf yn ffyddiog wrth ddweud fy mod i'n rhagweld llwyddiant gwleidyddol mawr o'ch blaen. Ond bydd angen eich holl sgiliau arnoch chi, oherwydd eich bod efallai nawr yn gorfod ystyried penderfyniad, yr oedd yn ymddangos o'r hyn a ddywedasoch ym mis Ebrill, a oedd yn awgrymu nad dyna'r cyfeiriad y byddai'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn y pen draw, o ran ei bod hi'n ymddangos eich bod yn gwbl o blaid gosod Cadw y tu allan i'r Llywodraeth. Rwyf yn deall eich bod chi bellach wedi cael achos busnes ac yn amlwg mae archwilio'r achos hwnnw yn bwysig. Ond mae heriau anodd iawn yn wir yn wynebu'r Llywodraeth ac rwyf yn dymuno'r gorau i chi gyda nhw. 

Ym mis Ebrill, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl adolygu strwythur Cadw, mai ei nod yw rhoi cymaint o ryddid a hyblygrwydd i'r sefydliad i'w galluogi i wireddu ei botensial masnachol.

Rwyf bellach yn meddwl tybed sut y bydd y potensial masnachol hwn yn cael ei wireddu. Yn amlwg, rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa ariannu yn heriol, a bod cyllid yn cael ei rewi yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Felly, a yw'r penderfyniad hwn mewn unrhyw ffordd yn mynd i atal ychydig o'r potensial masnachol a nodwyd yn flaenorol yn adroddiad y grŵp llywio, a oedd yn argymell symud Cadw y tu allan i'r Llywodraeth? Rwy'n credu bod hyn yn gwestiwn pwysig iawn: a yw penderfyniad Llywodraeth Cymru bellach yn benderfyniad cyfleus a dros dro? Oherwydd yn fy marn i, mae geiriad y datganiad yn ofalus iawn. Tybed os mai dyma'r gair olaf a geir ynghylch dyfodol Cadw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill ei bod hi'n werth ystyried modelau eraill, yn arbennig ad-drefnu mewnol neu gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n debyg, y bydd ad-drefnu mewnol bellach yn dechrau o ddifrif. Fe hoffwn i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny os yw'n bosibl, ac, yn y dyfodol, os, fel y tybiaf, na fydd y penderfyniad presennol yn un barhaol, a fydd rhyw fath o gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn debygol o gael ei ystyried.

Fe hoffwn i hefyd wybod beth yw'n sefyllfa o ran datblygu partneriaethau strategol ar gyfer y sector treftadaeth. A yw rhai mentrau a datblygiadau bellach yn hen hanes gan y bydd Cadw yn parhau i fod yn rhan o'r Llywodraeth? Roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu y byddai mwy o hyblygrwydd ar gyfer y partneriaethau hyn ac y byddai Cadw yn cael swyddogaeth flaenllaw os oedd hi y tu allan i'r Llywodraeth. Nid dyna'r sefyllfa erbyn hyn, ac a fydd mwy o gyfyngiadau nag yr oeddem ni efallai wedi eu rhagweld?

Ac yn olaf, ar fater ychydig yn wahanol, pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r strategaeth sgiliau diwylliannol, ac a yw'r strategaeth yn dal ar y trywydd iawn i fod ar waith erbyn mis Hydref 2018? Diolch yn fawr.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:46, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich llongyfarchion caredig ac am eich saith cwestiwn dilynol. Pan oeddwn i'n gwneud swydd flaenorol yn y Cynulliad hwn, roeddwn i o'r farn y byddai Gweinidogion yn gyffredinol yn gwneud yn dda iawn i ateb dau gwestiwn a hanner. Felly, byddaf yn ceisio, os gallaf i, ymateb i'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.

Yr hyn yr ydym ni'n edrych amdano yn y Llywodraeth a'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ac yn hyderus y bydd Cadw yn ei gyflawni yw ffordd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y maes treftadaeth ac adeiladau treftadaeth sylweddol, sydd wrth gwrs yn faes unigryw ac atyniadol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Ac yn ogystal â hyn, darparu ffordd o wneud busnes o fewn y Llywodraeth sy'n flaengar ac yn arloesol.

Dengys perfformiad Cadw, a gyfeiriais ato yn flaenorol o ran brwdfrydedd ei staff a'r incwm a gynhyrchwyd eisoes, bod y sylfaen wedi'i gosod. Nawr, nid yw hyn o reidrwydd yn fodel y gellid ei defnyddio ym mhob rhan o'r weinyddiaeth dreftadaeth a diwylliant, ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu ceisio datblygu'r model hwn ymhellach, yn dilyn llwyddiant model Cadw.

Felly, nid yw cyfeirio'n ôl at drafodaethau'r gorffennol na'r safbwyntiau a oedd gan rhai ohonom ni ar yr adeg honno o reidrwydd yn berthnasol i'n sefyllfa erbyn heddiw. Ni ellir dweud bod unrhyw benderfyniad gan y Llywodraeth, nac o bosib hyd yn oed mewn bywyd, yn derfynol, ond o'm safbwynt i o ran y penderfyniad penodol hwn, bydd y penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i Cadw o hyn ymlaen. Nid wyf yn bwriadu adolygu sefyllfa Cadw ymhellach.

Fy mwriad, drwy'r Cynulliad hwn a thrwy gyfnod y Llywodraeth hon, os oes gennyf i gyfrifoldeb o hyd, neu beth bynnag a fydd yn digwydd yma—rwyf yn ceisio dangos mai dyma yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan Cadw: eu bod yn ymateb i'r fframwaith newydd yr ydym ni wedi ei roi iddynt. Rwyf yn credu y bydd yr achos busnes a'r holl bethau a ddeilliodd o'r drafodaeth ar yr achos busnes, a'r potensial masnachol yn fuddiol.

Mae'n rhaid imi ddweud bod y swyddogion sy'n arwain Cadw yn y Llywodraeth wedi creu cryn argraff arnaf gyda'u parodrwydd i arloesi. Yn yr un modd, mae parodrwydd staff Cadw a'r undebau llafur sy'n rhan o Cadw i gydweithredu â'r ad-drefnu hwn, sydd o bosib yn angenrheidiol, wedi creu argraff arnaf, ac rwy'n credu y byddwn ni wedyn yn sicrhau mwy o ganlyniadau o ran yr incwm a gynhyrchir.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:49, 21 Tachwedd 2017

Diolch am y datganiad. Nid yw'r newyddion yn dod yn sioc—i rai ohonom ni beth bynnag—achos fe wnaethoch chi sôn am hyn ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf. Mae'n hollbwysig bod ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol yn cael eu hamddiffyn, eu cefnogi a'u datblygu. Mae'r sefydliadau yma yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ein cenedl. Mae'r datganiad heddiw yn dweud y bydd Cadw yn parhau yn rhan o'r Llywodraeth ond nid yw'n sôn am weddill ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol. Rydych chi'n eu crybwyll drwy sôn am rôl Cadw yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth, ond mi fyddai'n ddefnyddiol cael eich cadarnhad chi, neu fel arall, ynglŷn ag unrhyw ad-drefnu neu gyfuno o unrhyw sefydliadau diwylliannol neu gadwraethol. Hynny yw, a fydd Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfeydd cenedlaethol yn parhau yn sefydliadau ar wahân? Hynny ydy, a ydy syniad eich rhagflaenydd chi ar gyfer Cymru Hanesyddol wedi mynd rŵan? Mi oedd hwnnw, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac mae'n wir dweud ei fod o wedi codi nyth cacwn, ond a ydy'r datganiad heddiw yn arwydd o ddechrau'r diwedd ar gyfer y cysyniad o Cymru Hanesyddol?

Yn ogystal â gwarchod ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol yn ariannol, mae o hefyd yn bwysig bod eu hannibyniaeth nhw'n cael ei gwarchod. Rydw i yn sylwi bod llawer o'r pwyslais yn y datganiad ar sut y bydd Cadw'n gweithredu'n ariannol—llawer o bwyslais ar hynny—ac mae hynny i mi'n codi'r cwestiwn ai arian yn unig sydd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru. Mi fyddai'n ddefnyddiol, felly, cael gweld yr achos busnes sydd y tu ôl i'r penderfyniad. A fedrwch chi roi dyddiad i ni ar gyfer pryd y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi ac am gylch gwaith yr adroddiad? Hynny yw, a oes ystyriaeth o sefydliadau cadwraethol a diwylliannol eraill ynddo fo? Ac a oes yna ystyriaeth o faterion gweithredol heblaw sut mae cyrff yn cael eu hariannu?

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod perfformiad masnachol Cadw wedi gwella'n sylweddol a bod ffigurau ymwelwyr yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn. Ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad y bydd prisiau tocynnau Cadw yn codi, er dim cadarnhad o faint fydd y cynnydd yna. O wneud hynny, onid ydy o'n mynd i danseilio peth o'r gwaith sydd wedi digwydd, ac efallai y byddwn ni'n gweld llai o ymwelwyr, a fydd yn gweithio yn erbyn y cynnydd sydd wedi digwydd? Diolch.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:52, 21 Tachwedd 2017

Diolch yn fawr am y cwestiynau. Ynglŷn â'r prisiau mynediad, ein bwriad ni ar hyd yr amser ydy cadw cydbwysedd rhwng mynediad agored hyd y mae hynny'n bosib—ac yn rhad ac am ddim i sefydliadau megis amgueddfeydd—a hawl neu gyfle dinasyddion sydd yn byw yn agos i henebion sylweddol—. Byddwch chi'n gyfarwydd â'r sefyllfa yng Nghaernarfon, fel rydw i, lle mae'r prisiau mynediad i'r adeiladau yma'n cael eu tymheru gan gyfle i ddinasyddion lleol gael mynediad. Mi ddywedaf i ragor fory, rydw i'n credu, gan fod yna gwestiwn wedi'i ofyn ar y pwnc yma, ynglŷn ag adrefnu y cynllun i drigolion lleol i gael mynediad haws i mewn i'r adeiladau yma a gwneud y cynllun yn llai cymhleth.

Na, nid oes dim bwriad gen i i gyfuno unrhyw sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae hynny'n glir. Efallai fod gen i fwriad, nad yw'n rhy gyfrinachol, i greu, o bosib, neu i roi cyfle i sefydliad cenedlaethol arall ailenwi ei hun yn sefydliad cenedlaethol mewn iaith ddealladwy, ond mater i'r sefydliadau eu hunain fydd hynny. Nid ydw i'n bwriadu bod yn ymyrrol fel Gweinidog, ond, wrth gwrs, mi fyddaf i'n defnyddio fy sefyllfa—fel y bydd, yn sicr, y pwyllgorau perthnasol yn y Cynulliad yma—i graffu ar yr hyn y mae'r cyrff yma yn ei wneud.

Nid ystyriaethau ariannol sydd yn pennu polisi diwylliannol. Ystyriaethau sydd yn pennu polisïau diwylliannol yw ystyriaethau o ddiwylliant, ac, yn arbennig yn achos sefydliadau Cadw, y pleser rydym ni'n gallu ei roi i ni'n hunain fel dinasyddion a thrigolion i fwynhau ein hetifeddiaeth a'r ysbrydoliaeth y gallwn ni ei chael ohonyn nhw, a'r diddordeb aruthrol sydd yn cael ei fynegi gan ymwelwyr â Chymru yn y modd rydym ni'n gwarchod ein treftadaeth. Felly, dyna ydy'r cymhelliant.

Ynglŷn â Chymru Hanesyddol, mae Cymru Hanesyddol yn fyw ac yn iach fel partneriaeth rhwng sefydliadau treftadaeth, ac mi fydd arfer da Cadw, yn enwedig ei harfer hi o ran cynhyrchu incwm, rydw i'n gobeithio, yn ysbrydoliaeth i sefydliadau cenedlaethol mawr sydd yn creu llawer llai o incwm nag y mae Cadw a lle mae canran uchel iawn o'u cyllid nhw yn dod yn syth allan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Wnaf i ddim enwi neb heddiw, ond byddwch chi'n deall beth rydw i'n sôn amdano fo, a'r ymgais yma gan fy rhagflaenydd, chwarae teg iddo fo, i ysgwyd y caetsh sydd wedi dod â ni i'r lle yma gan sicrhau dyfodol i Cadw mewn Llywodraeth ond ar yr un pryd yn gorff busnes. 

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:55, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn falch o longyfarch fy hen ffrind ar dderbyn swydd fel Gweinidog. Rwyf wedi dilyn ei ddatblygiad drwy'r nifer o sefydliadau Seneddol y mae wedi bod yn Aelod ohonyn nhw dros ddegawdau lawer, ac rwyf yn falch fod ganddo o hyd y gallu i'n synnu, hyd yn oed mor hwyr â hyn. A, gyda llaw, gallaf ddweud fy mod i'n falch bod y wlad hon yn ymddangos fel y petai'n mwynhau math o flodeuad geriatrig. Mae'r Rhyddfrydwyr bellach o dan arweiniad unigolyn 74 mlwydd oed, ac rwyf i yr un oedran â Jeremy Corbyn—69 oed—ac mae eraill sydd o'r un oed yn dal i wneud eu rhan mewn gwleidyddiaeth, ac rwy'n falch iawn bod Dafydd Elis-Thomas yn awr yn aelod o'r Llywodraeth.

Mae Cadw yn cyflawni dwy swyddogaeth, wrth gwrs. Hi yw'r asiantaeth dreftadaeth wladol ar un llaw, ond mae ganddi hefyd swyddogaeth arall, fyddai'n gallu bod yn un masnachol, fel corff sy'n cynnal atyniadau treftadaeth i ymwelwyr. Yn y dystiolaeth a roddodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i'r pwyllgor diwylliant, fe ddywedason nhw bod angen i Cadw fod yn rhydd i fod yn fwy entrepreneuraidd a masnachol, sy'n golygu bod yn rhaid rhoi sylw i'r cyfyngiadau presennol ar recriwtio, caffael, cyllidebu a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Ac rwy'n meddwl tybed a all y  Gweinidog efallai ymhelaethu ychydig ar yr hyn a ddywedodd wrth ateb David Melding ynglŷn â galluogi Cadw i fanteisio ar y cyfleoedd masnachol, ond, serch hynny, o fewn y Llywodraeth, oherwydd dyna fu pwrpas yr ymchwiliad diweddar. Rwy'n sylweddoli bod yr adroddiad yn dweud bod y ddadl yn gryf iawn ar y ddwy ochr, ond, yn amlwg, mae'n rhaid galluogi Cadw i ddatblygu ac rwy'n meddwl tybed sut y gallan nhw lwyddo i wneud hynny.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:57, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich sylwadau caredig iawn, ac mae gennyf atgofion melys o'ch cyfnod chi mewn Llywodraeth, ond nid wyf i'n credu y byddai'n briodol imi gyfeirio yn ôl at hynny gan gofio lle yr wyf i'n sefyll heddiw. Ond yn wir rydych chi wedi deall swyddogaeth Cadw yn glir iawn, a dyma beth yr ydym ni'n ceisio sicrhau sy'n datblygu o dan ein cyhoeddiad a'n cynigion heddiw.

O ran recriwtio, os yw Cadw yn rhan o'r Llywodraeth, yna yn amlwg bydd cyfle i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus i geisio dyrchafiad a cheisio datblygu eu gyrfa yn y sefydliad. Ond bydd hi wastad yn hanfodol bod y sefydliad yn wir yn gweithio yn y ffordd fasnachol, ddiffwdan yr ydym ni wedi ei hamlinellu heddiw. Yn ystod y blynyddoedd pan oeddwn i'n ymwneud â ffurfiau eraill o reoli'r sector cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Geidwadol wych, wrth gwrs, y 1990au, dysgais ei bod hi'n hanfodol, pan rydych chi'n ymdrin â sefydliadau, bod gennych chi bobl yn y Llywodraeth, neu led braich o'r Llywodraeth neu led braich rhannol o'r Llywodraeth, sy'n gallu ymdrin â busnes ac ymdrin â sefydliadau trydydd sector mewn modd sy'n eu cynnwys nhw, wrth ichi ddatblygu newid, a dyma beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud gyda Cadw.

Nawr, yn amlwg, nid wyf i'n mynd i wneud unrhyw sylwadau manwl o ran sut y trefnir y strwythur recriwtio, oherwydd er, fel y dywedais i, bod Cadw yn parhau i fod yn rhan o'r Llywodraeth, bydd ganddi'r hyblygrwydd yn ei chynlluniau datblygu a'i strwythur rheoli i'w galluogi i weithio mewn modd masnachol ac fel busnes.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:59, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i hefyd longyfarch Dafydd Elis-Thomas ar ei benodiad fel Gweinidog? Fe hoffwn i hefyd ddiolch iddo am y datganiad a wnaeth ac am eglurder y penderfyniad i gadw Cadw yn rhan o'r Llywodraeth. Fodd bynnag, rwyf yn siomedig nad achubwyd ar y cyfle i archwilio beth yw ei ddiben a beth y mae wedi ei gyflawni o ran diogelu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol.

Rhoddaf dwy enghraifft i chi o Ddwyrain Abertawe. Yn gyntaf, gwrthododd Cadw restru eglwys o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n gysylltiedig â theulu'r Morrisiaid. Fodd bynnag, restrwyd eglwys o'r 1960au ar ystâd Portmead, er syndod mawr i'm hetholwyr. Nid yn unig y gwrthodwyd rhestru Plasty Maes-y-Gwernen, a oedd ar un adeg yn gartref i'r teulu tunplat enwog ac a gynhyrchodd ddau AS, ac y mae cyn-Brif Weinidog Prydain, Lloyd George, a'i deulu, wedi aros yno, ond mae ar fin cael ei ddymchwel. Mae Tŷ Danbert, adeilad anghyfannedd oedd yn gartref i fab perchennog tunplat, wedi'i restru. Yn olaf, yn fy marn i, mae'n well gan Cadw weld adeilad rhestredig yn dadfeilio yn hytrach na'i addasu—. Ond mae'n ymddangos, gyhyd â'i bod yn cynhyrchu mwy o incwm, yna nad yw'r uchod yn bwysig. Yr hyn nad wyf i'n gallu ei ddeall yw pam na ellir rhoi'r cyfrifoldeb dros adeiladau rhestredig i awdurdodau lleol, sy'n adnabod eu hardal.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:00, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Mike, am eich sylwadau caredig. Ac yna rydych chi'n ceisio fy arwain i lawr i gors orllewinol, rwy'n credu, rhywle ger eich etholaeth. Nid mater i Weinidogion yw hi i wneud penderfyniadau ynghylch rhestru. Nid yw hi chwaith yn fater i Weinidogion wneud penderfyniadau ynghylch beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n credu bod angen inni chwilio am bartneriaethau.

Nid wyf i'n mynd i drafod yr agweddau o'ch cwestiwn ynglŷn â chynllunio, oherwydd, yn amlwg, nid wyf i'n gyfrifol, diolch byth, am faterion cynllunio.

Ond o ran Cadw, o ganlyniad i'r penderfyniad hwn fe orfodwyd iddi weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau eraill hynny sy'n rhan o'r Llywodraeth ac, yn arbennig, i weithio'n rhanbarthol gyda llywodraeth leol. Ac am hynny yr ydym ni'n edrych. Mae'n ffordd o alluogi'r cynlluniau marchnata i gysylltu'r potensial twristiaeth yn ogystal â'r diddordeb mewn cadwraeth, gyda swyddogaeth y sefydliad, megis Cadw, er mwyn datblygu ymhellach. Felly, rwyf yn mynd i'ch siomi chi, drwy beidio â mynegi barn ar faterion sydd y tu hwnt i fy mhortffolio.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:01, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog newydd ar ei swydd? Rydym ni wedi cael perthynas waith ardderchog mewn pob math o wahanol swyddogaethau dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith rhagorol yn ei swydd newydd. Fel y gŵyr y Gweinidog newydd, mae gen i ddiddordeb brwd yn nhreftadaeth Cymru ac, yn benodol, yn ei threftadaeth ysbrydol a'i threftadaeth ffydd, ac fe wnaeth y cynnydd a gyfeiriodd ato yn nifer yr ymwelwyr a llwyddiant masnachol Cadw yn ystod y blynyddoedd diwethaf greu argraff fawr arnaf. Tybed i ba raddau y mae hynny'n gysylltiedig â'r ymgyrchoedd y mae Croeso Cymru wedi'u cynnal ar y thema Cymru Sanctaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd yn gwybod mai un o'r meysydd sy'n tyfu'n gyflym yn y farchnad dwristiaeth yw twristiaeth sy'n gysylltiedig â ffydd, yn enwedig o ran rhai o'r llwybrau pererinion sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac mae nifer ohonyn nhw yn mynd trwy ac yn arwain at nifer o safleoedd pwysig Cadw. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni, a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n disgwyl y bydd Cadw yn gallu manteisio arno yn fasnachol yn y dyfodol?

A gaf i hefyd ofyn am ffioedd aelodaeth blynyddol Cadw? Yn amlwg, ceir rhai trefniadau manteisiol gyda sefydliadau treftadaeth eraill ledled y DU, yn Lloegr ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd, ac mae'r rhain o fantais i bobl sy'n ymaelodi â Cadw, ond yn fy marn i, efallai un o'r sefydliadau mawr sy'n llwyddiannus yn fasnachol sy'n ymwneud â threftadaeth, wrth gwrs, yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd hefyd yn gyfrifol am lawer o adeiladau yma yng Nghymru. Tybed pa gysylltiadau y mae'r Gweinidog efallai yn disgwyl i Cadw eu datblygu gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel partner posibl, fel y gall pobl efallai  fwynhau bod yn aelod o'r ddau sefydliad yn gyfnewid am eu ffi aelodaeth, er mwyn hybu mwy o wario ar safleoedd Cadw ac i helpu i wneud y sefydliad yn fwy hyfyw yn fasnachol.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:04, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, diolch ichi am eich sylwadau caredig iawn. Mae hi bob amser yn bleser i'ch clywed chi yn traethu am ryfeddodau treftadaeth, yn enwedig rhai'r Gogledd, lle, fel y gwyddoch chi, rwy'n dal i dreulio cymaint o amser ag y bo modd ac yn parhau i wneud hynny. Yn wir, byddaf yn gweithio yn y swyddfa yng Nghyffordd Llandudno yn ystod yr wythnos hon, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwn ni gwrdd yna yn y dyfodol.

Ond nid wyf yn mynd i drafod gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf yn aelod unigol o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel yr wyf yn dal yn aelod unigol o Cadw rwy'n credu—bydd yn rhaid imi wirio p'un a ydw i wedi talu fy ffioedd. Ond mae pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, ar lawr gwlad yn enwedig, rhwng ein sefydliadau a'n sector masnachol, gwirfoddol a thrydydd sector—ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymysgedd diddorol o'r hyn sy'n fudiad gwirfoddol, gydag aelodaeth wirfoddol, sydd â sail statudol. Felly, mae'r holl bartneriaethau hyn yn gyfrifol, yn fy marn i, am gydweithio ar lawr gwlad yn eu rhanbarthau. Ac wrth inni ddatblygu strategaethau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, a gyda'r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig, mae angen inni annog y cydweithio sydd eisoes yn digwydd.

Nawr, o ran materion ysbrydol, rwy'n tueddu i adael hynny i'r archesgobion. [Chwerthin.] Fodd bynnag, pan fyddaf yn mynd i orseddiad Archesgob newydd yr eglwys yr wyf yn perthyn iddi, sef, fel y gwyddoch chi, yr Eglwys yng Nghymru, byddaf yn sicr yn ceisio cyfle i sicrhau bod y bartneriaeth sydd gennym ni rhwng bob math o sefydliadau yn parhau i fod yn un cydradd—gan barchu ar yr un pryd, wrth gwrs,  natur ddatgysylltiedig yr Eglwys yng Nghymru, a hawl pobl i beidio â pherthyn i gymuned ffydd o gwbl ac eto i gymryd rhan fel dinasyddion yng Nghymru. Felly, ni fydd yr holl arian yn mynd i un enwad yn unig, gallaf eich sicrhau.