Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf i, fel yr amlinellodd y Dirprwy Lywydd, yn rhoi sylw i welliant Plaid Cymru sy'n nodi mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chamddefnyddio sylweddau yn gyffredinol, nid mater cyfiawnder troseddol.
Nawr te, rwyf i wedi bod yn feddyg teulu ers amser hir iawn, ac mae caethiwed yn broblem gyson. Mae rhai pobl wedi cael bywydau erchyll. Maent wedi dioddef esgeulustod fel plant, cam-drin plant, cam-drin rhywiol. Dydyn nhw ddim wedi cael cariad. Bydd babanod bach annwyl yn fy nghlinig babanod dros y blynyddoedd yn cael eu cam-drin yn fwyfwy wrth iddynt gael eu magu mewn amgylchiadau ofnadwy. Does ryfedd bod pobl eisiau llethu’r boen, dod o hyd i unrhyw gyffro yn unrhyw le, mewn alcohol a chyffuriau—cyffuriau cyfreithlon, cyffuriau anghyfreithlon, cyffuriau presgripsiwn, cyffuriau heb bresgripsiwn—unrhyw gyffro, yn unrhyw le, i ddianc rhag realiti oer amodau annioddefol, gan fethu â dianc rhag y cam-drin, y casineb a’r atgasedd.
Ar ben hynny, gall damweiniau a digwyddiadau trasig ddigwydd. Heb gefnogaeth na chariad gan deulu, mae hynny i gyd yn pentyrru poen ar ein pobl. Ychwanegwch faterion iechyd meddwl ar raddfa gynyddol, a phobl yn ymateb mewn modd na ellir ei ragweld, gyda gelyniaeth a thrais, oherwydd nad ydynt yn gwybod am ffordd arall.
Fel gweithiwr iechyd proffesiynol yn y maes, rhaid ichi wynebu heriau enfawr sy’n eich gwthio i'r eithaf. Rwy’n talu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn y prynhawn yma. Mae'n hynod o anodd a heriol, oherwydd rydym yn sôn am ymdrin â phobl sydd â bywydau anhrefnus, heb ddim trefn o gwbl. Dydyn nhw ddim yn gallu helpu eu hunain, yn aml, gyda heriau ariannol aruthrol ac mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn gymdeithion cyson i gaethiwed i gyffuriau ac alcohol.
A sut yr ydym yn ymateb fel cymdeithas? Gyda charedigrwydd, goddefgarwch, parodrwydd i helpu, i archwilio’r materion sylfaenol a arweiniodd at yr anhrefn presennol hwn, neu a yw cymdeithas yn ymateb drwy wthio pobl o'r fath i'r ymylon? 'Maent yn gaeth, eu bai nhw ydyw.' Wir? Eu harestio nhw—sut y mae hynny'n mynd i helpu? Beth am ddod i wybod stori’r unigolyn hwnnw, y drychineb, y loes, y rhwygau yn y teulu, y diffyg maddeuant, yr hunan-atgasedd, yr hunan-niwed ac, ie, yr ymddygiad ceisio sylw gan bobl sydd yn anaml iawn wedi cael unrhyw gariad neu sylw erioed yn eu bywydau?
Mae llawer o waith ardderchog yn cael ei wneud. Fel Jenny Rathbone, rwy’n ymddiriedolwr i Stafell Fyw Caerdydd, canolfan adsefydlu alcohol ac adsefydlu cyffuriau. Rwyf hefyd yn gwybod am waith da Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed ac eraill yn Abertawe, ac uned adsefydlu alcohol Brynawel ger Llanharan a llawer iawn mwy—gwaith ardderchog o dan yr amgylchiadau anoddaf.
Ond mae angen, a rhaid, gwneud llawer mwy o ran iechyd cyhoeddus, i archwilio’r materion go iawn, cwnsela, ymdrin nid yn unig â’r diddyfnu cemegol, ond â’r encilio seicolegol a’r newidiadau cymdeithasol sy’n gorfod digwydd, a sefydlu dull o ymdopi llai dinistriol i fywyd yn lle’r alcohol neu’r cyffuriau. Ie, ymdrin â digartrefedd, dod o hyd i ystyr mewn bywyd, darganfod bod bywyd yn werthfawr, darganfod bod pob eiliad yn gallu bod yn gofiadwy, ffurfio perthynas ag eraill eto, dod o hyd i hunangred—mae pob un o'r rhain yn brosiect tymor hir—a thrin y problemau iechyd meddwl, nid dim ond y diddyfnu cemegol tymor byr a llithro'n ôl yn anochel.
Yn y cyd-destun hwnnw, beth am ddatganoli plismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder troseddol fel y gallwn ymdrin yn iawn â phroses barhaus o aildroseddu drwy gydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau sydd nawr wedi'u rhannu rhwng meysydd datganoledig a heb eu datganoli? Gwasanaethau datganoledig iechyd, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, tai, addysg a hyfforddiant, yn wirioneddol yn gweithio ynghyd â phlismona a’r gwasanaeth prawf a'r llysoedd—byddai hynny'n wych.
Beth am fod yn arloesol ar ben hynny, hefyd, drwy dreialu canolfannau chwistrellu diogel i leihau niwed, lle byddai meddygon fel fi’n chwistrellu heroin glân mewn amgylchedd clinigol, gan leihau’r dosiau’n raddol a defnyddio nodwyddau glân i atal firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed rhag lledaenu? Dyna arloesol ichi. Mae'n gweithio mewn gwledydd eraill, yn atal pobl rhag marw, yn rhoi sylw go iawn i gaethiwed fel mater iechyd cyhoeddus. Gadewch eich rhagfarnau. Ac eto, o hyd, mae'r niwed yn mynd ymlaen. Diolch yn fawr.