4. Dadl: Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau

– Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:06, 21 Tachwedd 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, ac rydw i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6559 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:06, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da a diolch, Llywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw a chynnig y cynnig ger ein bron ynglŷn ag ymdrin â chamddefnyddio sylweddau. Gwnaf sôn i ddechrau am y gwelliannau ac yna gwnaf fy sylwadau—yn fras am ein sefyllfa yng Nghymru heddiw.

Rwy’n hapus i gadarnhau y byddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Blaid Cymru—gwnaf sôn am hynny’n nes ymlaen. O ran gwelliant 2, ni fyddwn yn gallu cefnogi hwn, oherwydd mae anghytundeb ffeithiol am yr honiadau a wneir. Y gwir yw bod y data diweddaraf gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn dangos bod nifer y bobl sy’n cwblhau eu triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi cynyddu, nid gostwng, fel mae’r geiriad yn ei nodi—bu cynnydd o 3,288 yn 2015-16 i 3,604 o bobl yn cwblhau eu triniaeth yn rhydd o sylweddau yn 2016. Rwy’n derbyn bod yr elfennau eraill yn y gwelliant yn gywir.

Rwyf hefyd yn fodlon derbyn y trydydd gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr. Rydym yn cytuno bod adsefydlu preswyl a dadwenwyno cleifion mewnol yn chwarae rhan bwysig i helpu pobl i sicrhau adferiad hirdymor, er nad yw'r rhain yn ddewisiadau amgen i adsefydlu cymunedol, sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig.

Mae camddefnyddio sylweddau ei hun, wrth gwrs, yn broblem iechyd fawr sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn ogystal â’r pryderon cynyddol sydd gennym dros effaith camddefnyddio alcohol, mae natur newidiol camddefnyddio cyffuriau’n cyflwyno heriau newydd a newidiol i lunwyr polisïau, i Gomisiynwyr ac i asiantaethau triniaeth. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi bron £50 miliwn bob blwyddyn i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein cynllun cyflawni diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau sy'n rhedeg hyd at 2018.

Mae ein cynllun yn dal i fod yn seiliedig ar ddull lleihau niwed. Dyna pam yr ydym yn cydnabod bod camddefnyddio sylweddau’n fater iechyd a gofal ac nid dim ond yn fater cyfiawnder troseddol. Dyna pam yr ydym yn hapus i dderbyn gwelliant 1. Nod cyffredinol Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau, ac yn gwybod lle y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth os bydd arnynt angen.

Mae heriau sylweddol yn gysylltiedig â’r darlun sy'n newid yn gyflym, i gefnogi rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, rydym yn gwneud cynnydd go iawn. Yn 2015-16, cafodd 83.3 y cant o’r bobl a oedd yn dechrau triniaeth eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith. Yn 2016-17, gwelsom 16,406 o bobl yn dechrau triniaeth, a chafodd 86.7 y cant o'r bobl hynny eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith—cynnydd sylweddol o ran cyflymder triniaeth. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl aelodau staff rheng flaen hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny am y cyflawniad hwnnw.

Rydym hefyd yn gweld gwelliannau i ganlyniadau triniaeth—roedd 77 y cant o bobl yn dweud eu bod yn camddefnyddio llai o sylweddau ar ôl triniaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 69.2 y cant yn 2013. Nawr, er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi cynnydd sy'n peri pryder mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Ac mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi bod ymdrin â’r materion hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon a'n partneriaid, oherwydd mae alcohol a chyffuriau’n parhau i achosi llawer o farwolaethau a salwch, ac, yn wir, marwolaethau a salwch y gellir eu hosgoi. Mae'r data’n dangos y cynnydd yn nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yn 2016, ac mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i weithredu. Dyna pam mae ein Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) yn rhan hanfodol o ymateb i’r mater iechyd cyhoeddus pwysig hwn. A bydd y ddeddfwriaeth honno, a drafodwyd yn y lle hwn y mis diwethaf, yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sy'n yfed yn beryglus ac yn niweidiol yn yfed llai o alcohol. A bydd hefyd yn lleihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar wasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau, yn ddatganoledig ac yn annatganoledig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:10, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Bydd isafswm pris fesul uned yn ffurfio rhan o’n gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau, a bydd yn ategu’r gwaith hwnnw. Rydym eisoes yn gweithio i ymdrin â goryfed alcohol drwy ddarparu gwell gwasanaethau addysg, atal a thriniaeth i gefnogi’r yfwyr mwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda theuluoedd, wrth gwrs, pobl sy'n camddefnyddio alcohol. Ac rydym hefyd yn gweithio mewn nifer o feysydd i ymdrin â’r cynnydd diweddar yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Rhan o hynny yw ein prosiect arloesol WEDINOS, sy'n parhau i chwarae rhan allweddol wrth ddadansoddi amrywiaeth o gyffuriau. Felly, mae profi’r sylweddau newydd hynny’n ein galluogi i archwilio cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna yn hollbwysig i ledaenu’n eang y ffactorau risg pan fydd unigolion yn eu cymryd, a hyd yma mae WEDINOS wedi cael dros 7,000 o samplau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Nawr, mae dosbarthu naloxone, cyffur sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau dros dro, wedi bod yn elfen allweddol yn ein dull o leihau niwed, ac rydym yn credu bod hynny’n ffactor real a phwysig yn y gostyngiad mewn marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau rhwng 2011 a 2014 yma yng Nghymru. Felly, rydym yn rhoi mwy fyth o bwyslais ar ein gwaith naloxone i helpu’r duedd gynyddol o ran ei ddefnyddio. Mae cyfanswm o dros 15,000 o becynnau wedi'u dosbarthu ledled Cymru ers 2009, ac rydym wedi clywed bod dros 1,600 ohonynt wedi cael eu defnyddio. Felly, mae naloxone ar gael ym mhob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol ac ym mhob carchar yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos ag ardaloedd yng Nghymru i ehangu presenoldeb naloxone ymhellach, yn enwedig mewn perthynas â phobl sydd ddim yn cael triniaeth ar hyn o bryd, ac mae hynny’n arbennig o bwysig pan ystyriwn nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau sy’n digwydd ymhlith pobl sydd ddim wedi defnyddio ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Er enghraifft, mae swyddogion yn fy adran i yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys i ddechrau dosbarthu pecynnau naloxone mewn dalfeydd. Ond gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill, fel y cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad, ac rydym yn gwybod bod pwysau mawr heddiw o ran cymdeithas a barn am ddelwedd corff sy’n parhau ar gyfer dynion a menywod. Yn gynharach eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill, symposiwm cenedlaethol ar gamddefnyddio cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad a'u heffaith ar chwaraeon a'r gymuned ehangach, ac mae grŵp wedi’i sefydlu nawr i fwrw ymlaen ac ystyried sut i ymateb i argymhellion y symposiwm hwnnw.

Rydym hefyd yn parhau i gefnogi DAN 24/7, ein llinell gymorth camddefnyddio sylweddau ddwyieithog, ddi-dâl, sy'n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth neu help ynglŷn â’u problemau â chyffuriau neu alcohol. Ac yn y flwyddyn diwethaf, ymatebodd DAN 24/7 i dros 4,000 o alwadau, a chafodd y wefan dros 75,000 o ymweliadau. Felly, mae DAN 24/7 hefyd wedi ffurfio rhan o nifer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf i dargedu meysydd her penodol. Yr ymgyrch fwyaf diweddar—rwy’n gobeithio eich bod wedi ei gweld yn y gyfres rygbi rhyngwladol hydref bresennol sy’n parhau—yw’r ymgyrch It's Nothing Trivial sy'n canolbwyntio ar beryglon cymysgu alcohol a chyffuriau.

Nawr, o ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn bwysig dros ben. Dyna pam yr wyf wrth fy modd ein bod wedi sicrhau £11.6 miliwn gan gronfa gymdeithasol Ewrop i gynnal gwasanaeth mentora cymheiriaid ar gamddefnyddio sylweddau i bobl ddi-waith, ac mae’r arian cyfatebol yr wyf wedi cytuno arno ar gyfer y gwasanaeth hwnnw’n golygu y byddwn yn buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn yn y rhaglen hyd at haf 2020. A bwriad y rhaglen honno yw helpu dros 14,000 o bobl dros 25 oed sy'n ddi-waith yn hirdymor neu’n economaidd anweithgar i wella o salwch meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau a dychwelyd i'r gwaith, neu bobl 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ac yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen honno, mae dros 1,500 o gyfranogwyr wedi cofrestru â’r gwasanaeth ac elwa ohono.

Rydym yn gwybod bod camddefnyddio sylweddau’n un o’r prif bethau sy’n achosi i bobl fod yn sâl, colli swyddi a theimlo na allant gael gwaith. Felly, mae’r rhaglen hon yn uno rhai o'n hamcanion allweddol ym maes iechyd a chyflogadwyedd, ac yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl i chwalu'r rhwystrau hynny rhag cyflogaeth sy’n cael eu hachosi gan afiechyd. Rwy’n gobeithio bod hynny wedi helpu i amlinellu rhai o'r camau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd eisoes, ond hefyd y meddwl agored a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnom i ymrwymo o'r newydd i’r maes gwaith hwn ac ystyried yr hyn sydd fwyaf effeithiol a gweithgar yma yng Nghymru, wrth inni symud ymlaen, fel yr wyf yn dweud mewn maes sy'n newid yn gyson ac sy’n her gyson ym mhob cymuned ledled y wlad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:14, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig ac rwy’n galw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.

Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:15, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf i, fel yr amlinellodd y Dirprwy Lywydd, yn rhoi sylw i welliant Plaid Cymru sy'n nodi mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chamddefnyddio sylweddau yn gyffredinol, nid mater cyfiawnder troseddol.

Nawr te, rwyf i wedi bod yn feddyg teulu ers amser hir iawn, ac mae caethiwed yn broblem gyson. Mae rhai pobl wedi cael bywydau erchyll. Maent wedi dioddef esgeulustod fel plant, cam-drin plant, cam-drin rhywiol. Dydyn nhw ddim wedi cael cariad. Bydd babanod bach annwyl yn fy nghlinig babanod dros y blynyddoedd yn cael eu cam-drin yn fwyfwy wrth iddynt gael eu magu mewn amgylchiadau ofnadwy. Does ryfedd bod pobl eisiau llethu’r boen, dod o hyd i unrhyw gyffro yn unrhyw le, mewn alcohol a chyffuriau—cyffuriau cyfreithlon, cyffuriau anghyfreithlon, cyffuriau presgripsiwn, cyffuriau heb bresgripsiwn—unrhyw gyffro, yn unrhyw le, i ddianc rhag realiti oer amodau annioddefol, gan fethu â dianc rhag y cam-drin, y casineb a’r atgasedd.

Ar ben hynny, gall damweiniau a digwyddiadau trasig ddigwydd. Heb gefnogaeth na chariad gan deulu, mae hynny i gyd yn pentyrru poen ar ein pobl. Ychwanegwch faterion iechyd meddwl ar raddfa gynyddol, a phobl yn ymateb mewn modd na ellir ei ragweld, gyda gelyniaeth a thrais, oherwydd nad ydynt yn gwybod am ffordd arall.

Fel gweithiwr iechyd proffesiynol yn y maes, rhaid ichi wynebu heriau enfawr sy’n eich gwthio i'r eithaf. Rwy’n talu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn y prynhawn yma. Mae'n hynod o anodd a heriol, oherwydd rydym yn sôn am ymdrin â phobl sydd â bywydau anhrefnus, heb ddim trefn o gwbl. Dydyn nhw ddim yn gallu helpu eu hunain, yn aml, gyda heriau ariannol aruthrol ac mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn gymdeithion cyson i gaethiwed i gyffuriau ac alcohol.

A sut yr ydym yn ymateb fel cymdeithas? Gyda charedigrwydd, goddefgarwch, parodrwydd i helpu, i archwilio’r materion sylfaenol a arweiniodd at yr anhrefn presennol hwn, neu a yw cymdeithas yn ymateb drwy wthio pobl o'r fath i'r ymylon? 'Maent yn gaeth, eu bai nhw ydyw.' Wir? Eu harestio nhw—sut y mae hynny'n mynd i helpu? Beth am ddod i wybod stori’r unigolyn hwnnw, y drychineb, y loes, y rhwygau yn y teulu, y diffyg maddeuant, yr hunan-atgasedd, yr hunan-niwed ac, ie, yr ymddygiad ceisio sylw gan bobl sydd yn anaml iawn wedi cael unrhyw gariad neu sylw erioed yn eu bywydau?

Mae llawer o waith ardderchog yn cael ei wneud. Fel Jenny Rathbone, rwy’n ymddiriedolwr i Stafell Fyw Caerdydd, canolfan adsefydlu alcohol ac adsefydlu cyffuriau. Rwyf hefyd yn gwybod am waith da Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed ac eraill yn Abertawe, ac uned adsefydlu alcohol Brynawel ger Llanharan a llawer iawn mwy—gwaith ardderchog o dan yr amgylchiadau anoddaf.

Ond mae angen, a rhaid, gwneud llawer mwy o ran iechyd cyhoeddus, i archwilio’r materion go iawn, cwnsela, ymdrin nid yn unig â’r diddyfnu cemegol, ond â’r encilio seicolegol a’r newidiadau cymdeithasol sy’n gorfod digwydd, a sefydlu dull o ymdopi llai dinistriol i fywyd yn lle’r alcohol neu’r cyffuriau. Ie, ymdrin â digartrefedd, dod o hyd i ystyr mewn bywyd, darganfod bod bywyd yn werthfawr, darganfod bod pob eiliad yn gallu bod yn gofiadwy, ffurfio perthynas ag eraill eto, dod o hyd i hunangred—mae pob un o'r rhain yn brosiect tymor hir—a thrin y problemau iechyd meddwl, nid dim ond y diddyfnu cemegol tymor byr a llithro'n ôl yn anochel.

Yn y cyd-destun hwnnw, beth am ddatganoli plismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder troseddol fel y gallwn ymdrin yn iawn â phroses barhaus o aildroseddu drwy gydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau sydd nawr wedi'u rhannu rhwng meysydd datganoledig a heb eu datganoli? Gwasanaethau datganoledig iechyd, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, tai, addysg a hyfforddiant, yn wirioneddol yn gweithio ynghyd â phlismona a’r gwasanaeth prawf a'r llysoedd—byddai hynny'n wych.

Beth am fod yn arloesol ar ben hynny, hefyd, drwy dreialu canolfannau chwistrellu diogel i leihau niwed, lle byddai meddygon fel fi’n chwistrellu heroin glân mewn amgylchedd clinigol, gan leihau’r dosiau’n raddol a defnyddio nodwyddau glân i atal firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed rhag lledaenu? Dyna arloesol ichi. Mae'n gweithio mewn gwledydd eraill, yn atal pobl rhag marw, yn rhoi sylw go iawn i gaethiwed fel mater iechyd cyhoeddus. Gadewch eich rhagfarnau. Ac eto, o hyd, mae'r niwed yn mynd ymlaen. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:19, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark.

Gwelliant 2 Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith:

a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;

b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng; ac

c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.

Gwelliant 3 Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:20, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cynnig gwelliant 2, sy'n gresynu wrth y ffaith bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth 10 mlynedd camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', yn dangos y bu cynnydd mewn marwolaethau cysylltiedig ag alcohol a chysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru. Er bod yr adroddiad hwn hefyd yn honni cynnydd da o ran darparu triniaeth yn gyflymach, mae ein gwelliant 2 hefyd yn dyfynnu ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng—yn wir, i lawr yn Ebrill i Fehefin ar y chwarter blaenorol i’r lefel isaf ers blwyddyn—a bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod ar ôl cael eu hatgyfeirio na ddwy flynedd cyn hynny. Roedd nifer yr achosion a gafodd eu cau o ganlyniad i farwolaeth yn ystod Ebrill i Fehefin yr uchaf ar gofnod; cynyddodd nifer y marwolaethau sy'n benodol i alcohol yng Nghymru 7 y cant yn 2016—y nifer uchaf ers 2012; cynyddodd marwolaethau cysylltiedig ag alcohol 9 y cant—y nifer uchaf ers 2008. Felly mae'n destun pryder bod cyfanswm y nifer a aseswyd gan ddarparwyr arbenigol camddefnyddio sylweddau wedi gostwng 5 y cant a bod cyfanswm y nifer yn dechrau triniaeth i lawr 4.6 y cant. Cynyddodd derbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon 3.8 y cant ar ôl 2015-16, a chynyddodd marwolaethau camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru 14.3 y cant yn 2015 i'r lefelau uchaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion cymaradwy ym 1993.

Mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti dadwenwyno cleifion mewnol haen 4 a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar wella yn y gymuned. Rwy’n dweud hynny, ar ôl bod yn hyrwyddo’r model gwella yma ers y dyddiau pan roedd Llywodraeth Cymru’n dal i flaenoriaethu rheoli meddygol a thriniaethau cynnal dros wella ar gyfer pobl sy'n gaeth. Mewn gohebiaeth ddiweddar â’r Gweinidog iechyd y cyhoedd blaenorol ynghylch dadwenwyno cleifion mewnol haen 4 ac adsefydlu preswyl, dywedodd fod mwy o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar wella wedi gostwng yr angen am wasanaethau adsefydlu preswyl. Mewn gwirionedd, dylent ategu ei gilydd. Mewn dadl gyfatebol bron i ddegawd yn ôl yma, cyfeiriais at golli gwelyau yng Nghymru sydd ganddynt mewn un uned dadwenwyno yn Wrecsam, ac at yr adolygiad annibynnol o driniaeth dadwenwyno a phreswyl yn y Gogledd, a gomisiynwyd gan y Gweinidog ar y pryd, a ragwelodd y byddai hyn yn cefnogi dadwenwyno yn y gymuned. Ar ôl i’r adroddiad hwn gael ei gladdu, cafodd ei ddatgelu imi a’i wneud yn gyhoeddus. Canfu fod y gwasanaeth cyfan, gan gynnwys gwelyau cleifion mewnol, wedi’i danariannu. Pan ddywedais hyn wrth y Gweinidog, ni fyddai'n ei dderbyn.

Cafodd adolygiad annibynnol arall, yn edrych ar wasanaethau triniaeth haen 4 camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, hefyd ei gladdu, ei ddatgelu imi a’i wneud yn gyhoeddus. Roedd yn nodi nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu er mwyn gallu cael eu dadwenwyno yn y carchar, ac am dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd dadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl ar gael. Roedd yn galw am gynnydd sylweddol mewn capasiti ac am ddatblygu tair uned dadwenwyno ac adsefydlu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, yn gweithio gyda darparwyr trydydd sector. Roedd adroddiad arall yn 2010 yn atgyfnerthu’r neges hon, a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd eu bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar ddatblygu’r tair uned. Yn hytrach, rydym ar ddeall bod toriadau Llywodraeth Cymru i ddadwenwyno preswyl ddegawd yn ôl yn dal i fod ar waith, a bod nifer y mannau adsefydlu yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y chwe blynedd diwethaf.

Ym mis Hydref, dywedodd y Gweinidog wrthyf ei bod wedi cael clywed mai’r prif reswm dros y gostyngiad yn y galw am leoedd adsefydlu preswyl oedd cryfhau’r meini prawf cymhwysedd yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fodd bynnag, fel y dywed canllaw NICE 115,

'mae achosion mwy difrifol a llai cymdeithasol sefydlog yn gwneud yn well fel cleifion mewnol'.

Mae'r sector yn dweud wrthyf fod niferoedd yn gostwng oherwydd bod llai o leoedd adsefydlu preswyl yng Nghymru, a bod pobl yn cael eu symud i mewn i'r gymuned heb dystiolaeth o angen. O ran fframwaith adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, dim ond saith o leoedd sydd gan Gymru yn Nhy'n Rodyn ym Mangor a tua 20 ym Mrynawel ger Caerdydd; mae’r olaf o’r rhain yn cynnwys niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Ers y dechreuodd y fframwaith, dim ond wyth o'r 24 o atgyfeiriadau i Dy'n Rodyn oddi mewn i Gymru a gyrhaeddodd drwy'r fframwaith. O ran iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig, mae Brynawel yn dal i weld canlyniadau negyddol anghydfodau am gyllid rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Yn y cyfamser, aeth lleoliadau adsefydlu preswyl y tu allan i Gymru y llynedd i dri sefydliad ar y fframwaith a chwe sefydliad y tu allan iddo.

Oes, rhaid manteisio i'r eithaf ar botensial triniaethau cymunedol i ddefnyddwyr cyffuriau dibynnol ac yfwyr ag anghenion cymharol lai cymhleth, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi mewn ymyriadau haen 4, eu hintegreiddio gyda haenau eraill o driniaeth alcohol a chyffuriau, a gwella’r cysylltiadau rhyngddynt a gwasanaethau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned, gwasanaethau ôl-ofal a gwasanaethau cofleidiol. Byddai gwneud fel arall yn costio mwy o fywydau a mwy o arian.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:25, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Tybed a gaf i ddechrau drwy godi rhai pryderon ynglŷn â’r arian cyfalaf sydd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod bod pryderon y gallai cyfyngiadau ar gyfalaf arwain at gau swyddfeydd a diffyg staff i ddarparu gwasanaeth mewn ardaloedd penodol. Er enghraifft, pan fydd prydlesau’n dod i ben, os nad oes digon o gyfalaf i gael safle ac, yn wir, offer, efallai y bydd crynodiad o ddarpariaeth gwasanaeth mewn ardaloedd daearyddol penodol, fel Casnewydd, er enghraifft, sydd eisoes yn ganolbwynt ar gyfer darparu gwasanaethau i ardal ehangach. Ond y pryderon yw, os bydd hynny’n cynyddu, y bydd lefel y ddarpariaeth gwasanaeth a'r niferoedd sy'n mynd at ddarparwyr gwasanaeth yng Nghasnewydd yn cyrraedd y lefel lle mae'n creu mwy o bryder nag sydd eisoes yn bodoli o ran y problemau ymddangosiadol, o leiaf, sy’n cael eu creu os yw gormod o bobl yn ceisio defnyddio’r gwasanaethau hynny mewn ardal ddaearyddol weddol gul. Felly, tybed a ellid rhoi rhywfaint o sicrwydd o ran arian cyfalaf ac osgoi’r problemau hynny.

Pryder arall oedd bod newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd yn golygu nad yw pobl sy'n gadael carchar bellach yn cael y math o flaenoriaeth ar gyfer llety a oedd ganddynt unwaith, sydd wedi arwain at gynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd. Mae’r bobl hynny sy’n gadael carchar yn cynnwys rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Rwy’n gwybod bod rhai o'r darparwyr gwasanaeth yn pryderu bod y newid hwnnw wedi arwain at gynnydd yn y problemau a brofir gan y bobl hynny sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau—a, drwy estyniad, a brofir gan ddarparwyr gwasanaeth.

Roeddwn hefyd, Dirprwy Lywydd, yn awyddus i sôn ychydig am Alcohol Concern Cymru a gofyn rhai cwestiynau am eu cyngor ar rianta da, yn enwedig o ran materion alcohol; rhoddwyd sylw i ychydig o hyn yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol ddiweddar, ac mae taflenni ffeithiau defnyddiol ar gael. Mae'n ymddangos i mi mai barn llawer o rieni, fel yr wyf yn meddwl bod Alcohol Concern Cymru yn ei atgyfnerthu, yw ei bod yn synhwyrol cyflwyno eu plant i alcohol mewn ffordd gyfrifol, o fewn lleoliad teuluol, ac mae hyn yn aml yn digwydd ar gyfandir Ewrop, er enghraifft, cael gwydraid o win gyda phryd o fwyd, a bod hynny’n ffordd dda o gyflwyno plant i alcohol, yn hytrach na’u bod nhw’n ei ddarganfod, fel petai, ei brofi y tu allan i’r cartref ac efallai’n ei orwneud. Ond y cyngor, rwy’n meddwl, yw ei bod a dweud y gwir yn fuddiol i blant beidio â chael dim alcohol, yn sicr cyn eu bod yn 15 oed, ac, os ydynt yn cael eu cyflwyno iddo ar ôl bod yn 14 oed, er enghraifft, y dylai hynny fod mewn modd cyfyngedig iawn. Hefyd, mae'n debyg, mae mater amlwg o ran rhieni fel modelau rôl. Mae’n rhaid i rieni fod yn ofalus iawn ynghylch pa mor aml y maen nhw’n yfed alcohol o flaen eu plant, a bod yn ofalus iawn i beidio â’i gorwneud hi, oherwydd rwy’n meddwl bod llawer o dystiolaeth, os na allant osgoi’r peryglon hynny o fod yn fodel rôl negyddol yn hyn o beth, bod hynny’n arwain at yfed trwm mewn blaenlencyndod, neu fwy o duedd i’w plant yfed yn drwm yn eu blaenlencyndod.

Felly, dim ond rhai o'r materion yw’r rheini. Yn amlwg, mae yna amrywiaeth o faterion pwysig iawn ynghylch rhianta a rhianta da i osgoi problemau camddefnyddio alcohol a phroblemau camddefnyddio sylweddau yn gyffredinol yn y dyfodol, ac rydym yn sôn mwy a mwy am atal. Tybed a allem glywed ychydig am beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth a sicrhau rhianta cadarnhaol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yng ngŵyl fwyd Casnewydd, sy'n dod yn ddigwyddiad pwysig iawn ac yn tyfu mewn nerth a phroffil. Roedd ganddyn nhw stondin cwrw di-alcohol, a oedd yn boblogaidd iawn, ac roedd amrywiaeth o wahanol gwrw, sawl cwrw gwahanol, heb ddim alcohol, ac, yn amlwg, roeddent yn defnyddio hynny hefyd i hyrwyddo rhai negeseuon da ynghylch osgoi goryfed. Ond maent yn dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod am ddim bragwyr yng Nghymru sy’n cynhyrchu cwrw di-alcohol, er bod marchnad dda iddo a bod honno'n debygol o gynyddu yn y dyfodol. Tybed a allai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru gynnig ychydig o sylwadau yn hynny o beth.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:30, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth sôn am ymdrin ag effaith defnyddio sylweddau'n broblemus ar iechyd dynol, ychydig iawn sydd i'w ddathlu o hyd. Mae cynnig y Llywodraeth heddiw’n nodi, ac rwy’n dyfynnu,

'y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.'

Ond y gwir yw bod yr adroddiad yn dangos y gwrthwyneb i gynnydd. Mae'r data yn awgrymu bod trychineb gymdeithasol wedi dod i'r amlwg yn ein gwlad yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf yn defnyddio'r term hwnnw’n ysgafn. Ychydig wythnosau yn ôl, codais gyda'r Prif Weinidog y ffaith bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed sef 168 yn 2015. Mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn dangos, yn 2016, bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd record newydd o 192. Mae marwolaethau cysylltiedig ag alcohol hefyd wedi cynyddu i 504, fel y nodwyd yn y gwelliant yn enw Paul Davies. Ac mae'r ystadegau hyn yn atgyfnerthu, rwy’n siŵr, yr hyn y mae llawer ohonom yn ei glywed gan fudiadau cyffuriau, elusennau, ein comisiynwyr heddlu a throseddu, a'm cyn-gydweithwyr yn y gwasanaeth prawf. Ychwanegwch yr argyfwng digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn gysylltiedig â llymder a diwygio budd-daliadau, ac mae gennym sefyllfa sy'n creu cost enbyd i'n cymdeithas, i’n gwasanaethau cyhoeddus, i’n cymunedau ac i fywyd dynol.

Mae llawer o'r marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn digwydd i bobl sy'n ddigartref ar y stryd. Mae gennym y pwerau dros ddigartrefedd, wrth gwrs, ond rhaid inni fod yn glir nad yw rhai o'r ysgogiadau polisi sydd eu hangen i ddatrys problem ddyrys camddefnyddio sylweddau yn llawn wedi'u datganoli eto. Mae'r gair 'eto' yn bwysig yma. Mae angen inni fod â’r agwedd bod angen y pwerau i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a bod cyfyngiad ar amser o ran cadw’r pwerau hynny yn San Steffan. Y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, am atal digartrefedd, ac am rai agweddau ar ddiogelwch cymunedol. Am gyhyd ag y bydd pwerau cyfiawnder, lles a diogelwch cymdeithasol wedi’u dal yn ôl yn San Steffan, bydd dull cwbl gydgysylltiedig yn amhosibl.

Dydy Llywodraeth bresennol Cymru ddim wedi dangos agwedd flaengar bob amser at ddatganoli cyfiawnder, nawdd cymdeithasol a meysydd cysylltiedig. Ond rwy’n credu bod potensial i newid hynny. A rhaid inni newid hynny, oherwydd mae'r ffigurau hyn yn rhoi darlun llwm a dirdynnol. Nawr, rwy’n cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw—wel, mae’n siŵr bod hynny’n amlwg, ond am ei fod yn fater o egwyddor mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio sylweddau ac nid mater cyfiawnder troseddol, ac rwy’n falch bod y Llywodraeth yn barod i gefnogi hynny hefyd. Ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen y pwerau arnom dros y system cyfiawnder troseddol i ddiwygio polisïau cyffuriau. Un peth, er enghraifft, yr hoffwn i ei weld yw bod pobl â sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gallu defnyddio canabis yn gyfreithiol, ond allwn ni ddim gwneud hynny oherwydd does gennym ni mo’r pwerau. Ond, hyd yn oed heb y pwerau dros gyfiawnder troseddol, gallem ddal i gael effaith ar leihau nifer y marwolaethau oherwydd defnyddio cyffuriau drwy ddefnyddio datrysiadau iechyd cyhoeddus. Mae un o'r datrysiadau hynny'n cael ei hyrwyddo gan Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu Gogledd Cymru, sydd wedi dod yn un o’r lleisiau mwyaf blaengar ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Mae wedi ennill parch gan bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol am ei safiad ar drin pobl sydd â phroblemau â chyffuriau anghyfreithlon fel bodau dynol ac nid fel troseddwyr.

Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y safbwynt hwn yn cael ei ystyried yn un eithafol a radical, ond erbyn hyn mae’n cael ei dderbyn mewn gwledydd ledled Ewrop. Mae Arfon wedi cynnig y gallai cyfleusterau chwistrellu diogel, mewn lleoliadau addas, leihau nifer y marwolaethau cyffuriau, troseddau cysylltiedig â chyffuriau, a defnyddio cyffuriau yn gyhoeddus. Mae’r dull hwn wedi cael ei roi ar waith yn y Swistir, ynghyd â mesurau iechyd cyhoeddus eraill, ac mae wedi lleihau nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau. Ym Mhortiwgal, mae dad-droseddoli rhai cyffuriau, ynghyd â rhaglenni atal a thriniaeth, wedi cael effaith debyg. Y llynedd, roedd llai o farwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal, gwlad o dros 10 miliwn o bobl, nag yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, sydd â phoblogaeth o lai na 1 miliwn o bobl.

Yn union fel y gwelir mesurau iechyd cyhoeddus fel ffordd o leihau niwed alcohol, dylid eu defnyddio hefyd i leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau. Ac mae'n werth nodi yma na fydd pawb sy'n yfed alcohol yn datblygu problem, ac mae'r un peth yn wir am gyffuriau. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn fan cychwyn, fel y gallwn ganolbwyntio ar leihau niwed oherwydd defnydd problemus.

Gadewch i ni beidio ag edrych yn ôl yn y blynyddoedd i ddod a gresynu wrth fwy o fywydau, mwy o deuluoedd yn wynebu tor calon, oherwydd polisïau cyffuriau annoeth ac aneffeithiol. Gadewch inni greu ymagwedd newydd, eofn at y broblem hon yng Nghymru—gadewch inni ddechrau gydag arbed bywydau.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:36, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw.

Mae camddefnyddio sylweddau yn difetha bywydau—nid dim ond bywyd yr unigolyn sy'n defnyddio'r sylwedd ond mae’r uned deuluol gyfan i gyd yn dioddef. Does neb yn ennill o dan yr amgylchiadau hyn, oni bai bod yr unigolyn yn cael y cymorth sydd ei angen. Yn ystod fy amser yn gweithio mewn carchar, gallaf eich sicrhau fy mod wedi gweld cynifer o wahanol unigolion—unigolion a oedd wedi dangos addewid yn eu bywydau cynharach—wedi’u difetha o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd, yr hyn y maent wedi’i gymryd. A pam mae eu bywydau wedi dirywio fel hyn, all neb wybod yn iawn, ond mae’r hyn sydd wedi eu harwain i deimlo bod eu bywyd mor negyddol yn rhywbeth y mae angen ei ymchwilio cyn i bobl gael eu carcharu.

Y llynedd, yng Nghymru, bu farw 192 o bobl o gamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, cafodd dros 11,000 o droseddau eu cyflawni yn gysylltiedig â chyffuriau, a chafodd bron 24,000 o bobl eu cyfeirio at wasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Mae Cymru yn unigryw yn y DU gan fod gennym strategaeth camddefnyddio sylweddau unedig sy'n ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £50 miliwn y flwyddyn i leihau camddefnyddio sylweddau ar lefel y boblogaeth. I ryw raddau, mae’r strategaeth yn gweithio. Bu gostyngiad yn y niferoedd sy'n cymryd cyffuriau anghyfreithlon ac yn camddefnyddio alcohol. Fodd bynnag, mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd camddefnyddio sylweddau’n cynyddu, yn ogystal â marwolaethau yn sgil camddefnyddio sylweddau.

Mae derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol wedi gostwng dros 6 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ond cynyddodd derbyniadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon bron 4 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Ymysg pobl hŷn, cododd hyn dros 15 y cant.

Dydy’r strategaeth bresennol ddim yn lleihau marwolaethau camddefnyddio sylweddau. Yn y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom gynnydd 8.9 y cant yn nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol, a chynnydd 13.8 y cant mewn marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau, y lefel uchaf ers 1993. Mae’r lefel yn llawer uwch nag yn Lloegr.

Mae’r gyfradd safonedig ar gyfer oed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran marwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn dangos, yn Lloegr, bod 44.1 o farwolaethau i bob 1 miliwn o'r boblogaeth, a bod y gyfradd marwolaethau ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn parhau i gynyddu, o 58.3 o farwolaethau i bob 1 miliwn o'r boblogaeth yn 2015, i 66.9 o farwolaethau i bob 1 miliwn yn 2016; erbyn hyn, mae gan Gymru gyfradd uwch o farwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau nag wyth o ranbarthau Lloegr. Mae hyn yn cyd-daro â chynnydd enfawr mewn camddefnyddio canabinoidau synthetig. Y llynedd, roedd cynnydd bron 50 y cant yn nifer y bobl ifanc a gafodd eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cannabinoid.

Mae ysbytai Cymru yn gweld tri o bobl y dydd ar gyfartaledd yn cael eu derbyn o ganlyniad i ddefnyddio canabinoidau synthetig fel Spice. Mae fy mwrdd iechyd lleol i wedi cymryd y mesur eithafol o roi anesthetig cyffredinol i gleifion sydd wedi cymryd Spice er mwyn eu hatal rhag brathu a chicio staff. Mae’r cyffuriau hyn yn fygythiad cynyddol yn ein cymunedau, ein trefi a’n dinasoedd ac mae’n rhaid inni wella addysg gyhoeddus am y niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau o'r fath.

Ond, gwaetha'r modd, nid dim ond cyffuriau anghyfreithlon sy’n achosi niwed. Mae nifer cynyddol o bobl yn camddefnyddio meddyginiaeth bresgripsiwn a meddyginiaeth dros y cownter, ac yn mynd yn gaeth iddynt. Y llynedd, bu cynnydd yn nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i gymryd paracetamol, fentanyl ac oxycodone. Mae prif ddarparwr adsefydlu’r DU yn adrodd eu bod yn trin mwy o bobl am gamddefnyddio meddyginiaeth bresgripsiwn nag am heroin. Credir mai un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw mynediad i glinigau rheoli poen. Yng Nghymru, bu cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n aros am wasanaeth reoli poen. Yn y pum mlynedd diwethaf mae’r nifer sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi gweld cynnydd syfrdanol 1,500 y cant. Yn y gogledd, mae cleifion yn gorfod aros tua 72 wythnos. Mae hyn yn gwbl druenus. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i leihau amseroedd aros am wasanaethau rheoli poen er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar boenladdwyr cryf a’r niwed cysylltiedig a ddaw o'u defnyddio’n hirdymor.

Mae’r strategaeth camddefnyddio sylweddau wedi cael ei hadolygu a bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr adroddiad terfynol fis nesaf. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld hyn fel cyfle i fireinio'r strategaeth hon. Rwy’n edrych ymlaen at weld strategaeth wedi’i diweddaru sy’n rhoi sylw i nifer y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau ac yn ymdrin â’r heriau newydd sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:41, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn meddwl y gwnaf byth anghofio y tro cyntaf imi gyfarfod â bachgen 10 mlwydd oed a oedd yn amlwg wedi meddwi. Roedd ei anadl yn arogleuo'n gryf o alcohol ac roedd ei ymddygiad yn dangos ei fod—. Roedd y risgiau roedd yn eu cymryd, a’i hyfdra, yn arwydd clir ei fod wedi meddwi. Dydw i ddim yn meddwl y bydd isafswm pris alcohol o gymorth i blant fel hwn, oherwydd dydyn nhw byth yn mynd i allu prynu’r alcohol eu hunain, ond mae'n dangos ichi sut, mewn rhai cartrefi, mae lefel yr oruchwyliaeth mor wael nes nad ydyn nhw mewn sefyllfa i atal eu plant rhag meddwi fel hyn. Yn amlwg, mewn llawer o achosion, mae eu rhieni hefyd yn gaeth i alcohol neu gyffuriau ac mae hynny'n codi cwestiynau enfawr i unrhyw blentyn sy'n canfod ei hun yn byw mewn aelwyd felly. Felly, hoffwn nodi ei fod yn peri pryder, ac y dylem oll fod yn bryderus bod dros 400 o atgyfeiriadau y llynedd ar gyfer plant 10 i 14 mlwydd oed.

Croesawaf yn fawr waith y SchoolBeat gan swyddogion cymorth cymunedol mewn ysgolion. Rydym yn gwybod bod alcohol ym mhob man, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, ac yn amlwg mae’n rhaid inni addysgu plant ynglŷn â sut yr ydym yn rheoli ein perthynas gydag alcohol, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pan mae alcohol ym mhobman ac mae llawer o bobl yn cael eu hannog i gamddefnyddio alcohol—ac ymhell dros y canllawiau 14 uned—a'r ffaith bod llawer gormod o bobl drwy gydol y flwyddyn yn yfed lefelau niweidiol o alcohol a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau canser a chlefyd yr iau y mae’r gwasanaeth iechyd yn gorfod ymdrin â nhw.

Mae'n debyg mai un o’r pryderon yr oeddwn am eu codi heddiw yw'r ffaith bod gweithwyr ieuenctid yn fy etholaeth i yn dweud bod pobl ifanc yn llawer mwy tueddol ar hyn o bryd o ddefnyddio cyffuriau yn hytrach nag alcohol, ac, yn enwedig, mae defnyddio Spice—y canabinoidau synthetig hyn—yn gryn destun pryder, oherwydd mae’n rhaid ei bod hi’n eithriadol o anodd olrhain y coctel o amffetaminau a sylweddau eraill mae gwerthwyr cyffuriau’n eu coginio yn eu ceginau cefn, i gynyddu eu helw a bachu cenhedlaeth newydd gaeth. Mae’n destun gofid mawr gweld pobl ifanc ar y llawr yng nghanol Dinas Caerdydd ac mae hyn wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar yn y cyfryngau lleol. Dywedodd un defnyddiwr yng Nghaerdydd fod Spice wedi cymryd gafael ar ei fywyd: 'Mae fel heroin; rydych chi’n colli gafael ar realiti.'

Dywedodd un gwerthwr cyffuriau yng Nghaerdydd wrth WalesOnline y gallai, wrth weithio yn Adamsdown neu yng nghanol y ddinas, wneud £300 yr awr. Felly, gallwch weld yr anawsterau sydd gan yr heddlu i geisio rheoli'r broblem. Yn anffodus, mae hyn, yn amlwg, wedi’i adlewyrchu yn y cynnydd bron 50 y cant mewn derbyniadau i ysbytai yn gysylltiedig â chanabinoidau dros y pedair blynedd diwethaf. Cymeradwyaf yn gryf waith WEDINOS, sy'n gyson yn profi’r sylweddau seicoweithredol newydd, oherwydd, yn amlwg, allwn ni ddim amddiffyn pobl oni bai ein bod yn gwybod beth maen nhw’n ei gymryd, ac mae angen inni fod yn gyson ar y blaen i’r gwerthwyr cyffuriau.

Yn amlwg, mae’n ddarlun mwy cymhleth na dim ond pobl ifanc sy’n daer am foddi eu gofidiau. Fel y dywedodd Dai Lloyd eisoes, rwy’n ymddiriedolwr ac yn gyfarwyddwr yn Stafell Fyw Caerdydd. Nid dim ond pobl dlawd iawn sy’n profi caethiwed. Mae llawer o gleientiaid y Stafell Fyw yn bobl sy'n cadw swyddi cyfrifol; yn feddygon, yn ficeriaid ac yn weithwyr proffesiynol eraill sy'n canfod bod gofynion emosiynol y swydd yn eu hannog i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol fel ffordd o ddianc rhag pwysau a baich y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Rwy’n cymeradwyo’n gryf y gwaith dyfal a chyson y mae angen iddo barhau i unrhyw un sy'n gweithio mewn gwasanaethau triniaeth. Rwy’n nodi bod 15 y cant o bobl yn rhoi’r gorau i fynychu cyn dechrau triniaeth, neu fod pobl yn gadael cyn i’r driniaeth ddechrau ar ôl asesiad. Mae hynny oherwydd bod pobl yn ofni gorfod ymdrin â’r drwg yn eu bywydau sydd wedi eu harwain i mewn i’r caethiwed hwn yn y lle cyntaf. Rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn glir iawn am yr heriau sydd o'n blaenau, ac mae'n broblem gymhleth ac anodd iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:47, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac yn olaf, David Rowlands.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ategu'n llawn yr holl deimladau a fynegodd Dai Lloyd mor huawdl yn gynharach? Fel ynad a fu’n eistedd am 13 blynedd, gwelais yr effaith ddinistriol y gall cyffuriau ac alcohol ei chael ar fywydau unigolion ac, yn aml iawn, roedd yr unigolion hynny’n dod o gefndiroedd anhrefnus heb y math o gychwyn mewn bywyd y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi’i fwynhau. Felly, fel ynad, a gyda’r ynadon arall, roeddem bob amser yn chwilio am ymyriadau nad oeddent yn troseddoli’r bobl hyn, os yn bosibl. Ond roeddem yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y ffaith, pe byddem yn rhoi rhywbeth fel gorchmynion adsefydlu cyffuriau, na fyddent yn dod i rym am tua phedwar mis, ac erbyn hynny, wrth gwrs, roedd y bobl, mwy na thebyg, wedi cyflawni mwy o droseddau yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, rwy’n cymeradwyo’n llawn bopeth a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach.

Rwyf am droi yn awr, os caf i—. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Tŷ Brynawel yn Llanharan yn un o ddim ond dau gyfleuster adsefydlu preswyl yng Nghymru, ac mai’r llall yw Ty'n Rodyn ym Mangor; soniodd Mark Isherwood am y ddau yn gynharach. Mae Brynawel yn cynnig triniaeth sy’n newid bywyd i bobl sy'n cael trafferth â dibyniaeth ar alcohol, gan hyd yn oed ymdrin â phobl sydd wedi cael niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae eu technegau triniaeth unigryw wedi cael cydnabyddiaeth gan lawer o awdurdodau lleol y tu allan i Gymru, ac eto mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yma yng Nghymru’n eu hesgeuluso, i'r fath raddau nes bod posibilrwydd gwirioneddol y gallai Brynawel gau.

Yn wir, nid yw awdurdod lleol Merthyr Tudful, er enghraifft, wedi atgyfeirio un claf i Brynawel yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod pob cyngor yn gallu cael y £1 filiwn sydd wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer triniaeth gofal preswyl. Dywedodd un o'm hetholwyr wrthyf ei bod wedi erfyn ar Gyngor Merthyr i dderbyn ei gŵr i ofal preswyl, ond dywedwyd wrthi’n ddigamsyniol nad oedd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn atgyfeirio pobl sy’n camddefnyddio alcohol i gael y math hwn o driniaeth. Mae'n ymddangos bod hwn yn safbwynt y mae llawer o awdurdodau lleol yn ei fabwysiadu, o ystyried cyn lleied sy’n manteisio ar y cyfleusterau a gynigir gan Brynawel. Does bosib, gan fod yr ystadegau'n dangos nad yw ymyriadau eraill yn cael rhyw lawer o lwyddiant, nad yw hi’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i archwilio pob math o ymyriad, gan gynnwys triniaeth breswyl. Rwy’n galw ar y Gweinidog i archwilio'r rhesymau dros amharodrwydd awdurdodau lleol i ddefnyddio triniaeth breswyl fel un o'r arfau i drin camddefnyddio alcohol a chyffuriau, yn enwedig os yw ymyriadau eraill wedi methu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:50, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am ddadl adeiladol ac ystyriol ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau. Fel y nodwyd yn fy sylwadau agoriadol a gan y rhan fwyaf o'r Aelodau a siaradodd, mae’r dirwedd hon yn newid drwy’r amser, sy'n gwneud ein gwaith yn heriol iawn. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae hon yn broblem gymhleth ac anodd, felly does dim ateb syml sy’n hollol amlwg ac o dan ein trwynau. Mae rhywbeth yn ymwneud â deall natur yr her sy’n ein hwynebu a’i maint hefyd, ac yn fy sylwadau byddaf yn ceisio ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth pob siaradwr, ond maddeuwch imi os na wnaf roi sylw i bob un o'r pwyntiau a wnaeth pob unigolyn.

Rwy’n mynd i ddechrau gyda Mark Isherwood a’r pwynt am wasanaethau cleifion mewnol, gwasanaethau haen 4, ac yn benodol pwyntiau am wasanaethau haen 4 a dadwenwyno hefyd. Mae Mark wedi amlinellu un farn am hanes o ran ble'r ydym wedi bod a ble'r ydym nawr. O ran rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd am yr ystod o driniaethau yn Brynawel—soniodd David Rowlands yn benodol am hynny—rwy’n falch o ddweud nad dim ond i bobl yn etholaeth fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, mae Brynawel, ond mae’n gwasanaethu pobl mewn ardal eang o leoedd. Mae'r rhagolygon ar gyfer Brynawel wedi gwella, ac mae hyn wedi digwydd oherwydd bu ymgysylltu gwirioneddol rhwng Brynawel a Llywodraeth Cymru i ariannu cynllun peilot niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol—mae mwy i'w wneud ar hynny—ond hefyd mewn sgyrsiau nid dim ond ynglŷn â’r fframwaith ar gyfer gwasanaethau haen 4, ond y berthynas ymarferol ei hun rhwng comisiynwyr a Brynawel fel y darparwr gwasanaeth, deall yr ystod o wasanaethau y gall Brynawel eu cynnig, a bod comisiynwyr yn gallu lleoli pobl yno hefyd. Rwy’n meddwl, o'r diwedd, bod mwy o ddealltwriaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael o bosibl. Fel y dywedaf, o ran dadwenwyno cleifion mewnol, rwy’n meddwl bod mwy o waith i'w wneud i ddeall ble yw'r lle mwyaf priodol i rywun gael y gwasanaeth hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae rhai pobl yn cael y gwasanaeth hwnnw mewn lleoliad ysbyty, ac efallai nad dyna’r lle cywir iddynt.

Rwy’n mynd i geisio ymdrin â sylwedd y pwyntiau a wnaeth Dai Lloyd a Leanne Wood, nid dim ond o ran nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, ond hefyd potensial rhai o'r datrysiadau. A dweud y gwir, ar rywfaint o hyn, dydyn ni ddim yn anghytuno. Mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu, er enghraifft, i gyd yn cytuno’n unfrydol y dylid datganoli plismona, ond mae’n fater o pryd, nid os, o’u safbwynt nhw. Dydyn ni ddim yn rhannu'r farn a fynegodd Leanne Wood yn llawn. Dydw i ddim ar fin ceisio newid polisi Llywodraeth Cymru ar ddyfodol datganoli a’r holl feysydd pwerau hynny. Ond mae rhywbeth o hyd yn ein dealltwriaeth o sut yr ydym yn cydbwyso’r hyn y gallwn ei wneud ac yna i farnu gwerth hynny. Soniais am rôl naloxone a'r ffaith bod y pecynnau wedi cael eu defnyddio ar dros 1,600 o achlysuron. Mae hynny, rwy'n meddwl, yn dangos, os yw gorddos wedi digwydd a’i fod wedi cael ei defnyddio, gallwch chi ddweud yn onest ei bod yn annhebygol y byddai’r unigolyn dan sylw yno pe na bai hynny wedi digwydd.

Felly, mae rhywbeth ynghylch deall effeithiolrwydd yr hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, ond hefyd maint yr her sy'n ein hwynebu. Mae dadl anodd inni ei chael, ond un onest i’w chael, i’w chymryd o ddifrif, gan ei fod yn fater difrifol iawn, ynghylch cyfleusterau chwistrellu neu lyncu dan oruchwyliaeth. Rwy’n meddwl bod hyn yn anodd iawn, yn bennaf oherwydd y gyfraith sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr. Ceir anghytundeb rhwng comisiynwyr heddlu a throseddu, ond mae prif gwnstabliaid eu hunain i gyd yn bwyllog iawn am hyn yng Nghymru. Mae rhywbeth yma ynghylch deall y gyfraith a sut y caiff ei gorfodi, ac i gael man chwistrellu diogel byddai angen cytundeb gyda'r heddlu am sut y byddent a sut na fyddent yn gorfodi'r gyfraith, ac mae hynny'n anodd. Byddech yn gofyn i’r heddluoedd hynny beidio â gorfodi'r gyfraith yn y maes hwnnw.

Yn benodol, ceir yr her sydd yna'n bodoli gyda'r gymuned hefyd—oherwydd mae pob un ohonom sydd â chyfleusterau yn ein hetholaeth, p'un a ydynt yn gyfnewid nodwyddau neu’n wasanaethau eraill, yn gwybod bod cryn amheuaeth bron bob amser. Hefyd, mae pobl yn gweld y niwed y mae cyffuriau’n ei wneud, nid dim ond i unigolion a'u teuluoedd, ond i gymuned ehangach. A cheir dealltwriaeth, lle bynnag y mae unrhyw fan triniaeth yn debygol o fod, eich bod yn debygol o wynebu ymgyrch gymunedol, wedi’i hysgogi'n rhannol gan ofn, difaterwch, ac a dweud y gwir rhai o elfennau llai trugarog y cymeriad dynol, yn ogystal â phobl sy’n poeni tipyn mwy am y posibilrwydd y bydd hynny'n dod yn fagnet ar gyfer gwerthu cyffuriau hefyd. Felly, ceir dealltwriaeth am y rhannau hynny, ond rwyf hefyd yn wirioneddol bryderus ynghylch dyfodol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, oherwydd os byddwn yn gofyn iddynt oruchwylio gweithgaredd sy’n anghyfreithlon ar hyn o bryd, rwy’n meddwl bod risg ynghylch eu cofrestru eu hunain yn y dyfodol. Rwy’n meddwl bod dadl briodol i'w chael ac adolygiad o dystiolaeth.

Rwy’n gobeithio ei bod yn ddefnyddiol i'r bobl sydd o blaid hyn fel datrysiad, er fy holl bryderon a’m pwyll ynghylch lle yr ydym yn awr, bod y grŵp adolygu arbenigol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru yn edrych ar dystiolaeth, nid dim ond yn rhyngwladol, i adeiladu ar deithiau byrddau iechyd i’r ardaloedd y soniodd Leanne Wood amdanynt, ond hefyd Denmarc, ac edrych ar y dystiolaeth bresennol ynghylch beth sydd neu beth nad yw’n digwydd yn Durham, i roi cyngor pellach inni am effeithiolrwydd yr hyn a ddarperir, ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru yn ogystal. Fel y dywedaf, mae hon yn ddadl ddifrifol i’w chymryd o ddifrif, oherwydd gallai fod ffordd, os gallwn ddod o hyd iddi, o arbed mwy fyth o fywydau.

I roi sylw i rai o'r pwyntiau a gododd John Griffiths ynghylch defnyddio cyfalaf a chyfleusterau priodol, bu pryder gwirioneddol rhyngof fi a'r Gweinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, fel yr oedd hi ar y pryd, ynglŷn â sut i ddefnyddio cyfalaf, ond hefyd ynglŷn â’r enillion a gawn ar hynny a diogelwch ein buddsoddiad cyhoeddus mewn cyfleusterau, i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod ar gael at y diben hwnnw hefyd. Rydym wedi bod yn pryderu am y ffordd nad ydym wedi cael ein hamddiffyn yn briodol yn y gorffennol, ond rwy’n meddwl ein bod mewn gwell sefyllfa bellach i wneud yn siŵr bod cyfalaf yn cael ei fuddsoddi’n ddoeth.

Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnaethoch chi a Jenny Rathbone am rianta ac ymddygiad fel esiampl mewn amrywiaeth o feysydd. Yr hyn sydd wir yn galonogol rhwng y pwyntiau a wnaethoch chi a Jenny Rathbone yw, o ran alcohol o leiaf, ein bod yn gweld cyfraddau is o gamddefnyddio alcohol ymhlith pobl iau. Mae elfen ronc i hynny o hyd, ond, yn gyffredinol, mae pobl ifanc yn fwy tebygol o beidio ag yfed neu beidio â goryfed. Rwy’n meddwl bod rhywbeth ynghylch y ddealltwriaeth o pam yr ydym yn bwrw ymlaen ag isafswm pris fesul uned, oherwydd mae hynny'n rhan o'n dull gweithredu. Ond ni ddylem esgus bod hynny ynddo'i hun yn datrys pob helbul, oherwydd ni wnaiff. Mae rhywbeth wir am addysg a’r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i bobl i wneud eu dewisiadau, ac mae hynny'n rhoi rhywfaint o anogaeth imi am y materion sydd heb eu datrys eto ynghylch camddefnyddio sylweddau yn yr ystyr ehangach, ac ynghylch defnyddio cyffuriau, ac yn benodol y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am ddefnyddio canabinoidau a sylweddau seicoweithredol newydd.

Ceir diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth am y peryglon y mae’r sylweddau hynny'n eu peri i ddefnyddwyr a'r bobl o'u hamgylch, ac mae angen i ni geisio dod o hyd i ffordd drwy hynny i geisio galluogi pobl unwaith eto i wneud dewisiadau doethach a mwy gwybodus. Oherwydd dyna sydd wrth wraidd ein dull gweithredu—sut yr ydym yn galluogi pobl i wneud dewisiadau a sut yr ydym yn cynnal ein dull lleihau niwed. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn cefnogi'r cynnig a naill ai’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth neu, beth bynnag, yn cefnogi’r cynnig terfynol a fydd ger ein bron ar ddiwedd busnes heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno â gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.