Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Wrth sôn am ymdrin ag effaith defnyddio sylweddau'n broblemus ar iechyd dynol, ychydig iawn sydd i'w ddathlu o hyd. Mae cynnig y Llywodraeth heddiw’n nodi, ac rwy’n dyfynnu,
'y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.'
Ond y gwir yw bod yr adroddiad yn dangos y gwrthwyneb i gynnydd. Mae'r data yn awgrymu bod trychineb gymdeithasol wedi dod i'r amlwg yn ein gwlad yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf yn defnyddio'r term hwnnw’n ysgafn. Ychydig wythnosau yn ôl, codais gyda'r Prif Weinidog y ffaith bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed sef 168 yn 2015. Mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn dangos, yn 2016, bod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd record newydd o 192. Mae marwolaethau cysylltiedig ag alcohol hefyd wedi cynyddu i 504, fel y nodwyd yn y gwelliant yn enw Paul Davies. Ac mae'r ystadegau hyn yn atgyfnerthu, rwy’n siŵr, yr hyn y mae llawer ohonom yn ei glywed gan fudiadau cyffuriau, elusennau, ein comisiynwyr heddlu a throseddu, a'm cyn-gydweithwyr yn y gwasanaeth prawf. Ychwanegwch yr argyfwng digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn gysylltiedig â llymder a diwygio budd-daliadau, ac mae gennym sefyllfa sy'n creu cost enbyd i'n cymdeithas, i’n gwasanaethau cyhoeddus, i’n cymunedau ac i fywyd dynol.
Mae llawer o'r marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn digwydd i bobl sy'n ddigartref ar y stryd. Mae gennym y pwerau dros ddigartrefedd, wrth gwrs, ond rhaid inni fod yn glir nad yw rhai o'r ysgogiadau polisi sydd eu hangen i ddatrys problem ddyrys camddefnyddio sylweddau yn llawn wedi'u datganoli eto. Mae'r gair 'eto' yn bwysig yma. Mae angen inni fod â’r agwedd bod angen y pwerau i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a bod cyfyngiad ar amser o ran cadw’r pwerau hynny yn San Steffan. Y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, am atal digartrefedd, ac am rai agweddau ar ddiogelwch cymunedol. Am gyhyd ag y bydd pwerau cyfiawnder, lles a diogelwch cymdeithasol wedi’u dal yn ôl yn San Steffan, bydd dull cwbl gydgysylltiedig yn amhosibl.
Dydy Llywodraeth bresennol Cymru ddim wedi dangos agwedd flaengar bob amser at ddatganoli cyfiawnder, nawdd cymdeithasol a meysydd cysylltiedig. Ond rwy’n credu bod potensial i newid hynny. A rhaid inni newid hynny, oherwydd mae'r ffigurau hyn yn rhoi darlun llwm a dirdynnol. Nawr, rwy’n cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw—wel, mae’n siŵr bod hynny’n amlwg, ond am ei fod yn fater o egwyddor mai mater iechyd cyhoeddus yw camddefnyddio sylweddau ac nid mater cyfiawnder troseddol, ac rwy’n falch bod y Llywodraeth yn barod i gefnogi hynny hefyd. Ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen y pwerau arnom dros y system cyfiawnder troseddol i ddiwygio polisïau cyffuriau. Un peth, er enghraifft, yr hoffwn i ei weld yw bod pobl â sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gallu defnyddio canabis yn gyfreithiol, ond allwn ni ddim gwneud hynny oherwydd does gennym ni mo’r pwerau. Ond, hyd yn oed heb y pwerau dros gyfiawnder troseddol, gallem ddal i gael effaith ar leihau nifer y marwolaethau oherwydd defnyddio cyffuriau drwy ddefnyddio datrysiadau iechyd cyhoeddus. Mae un o'r datrysiadau hynny'n cael ei hyrwyddo gan Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu Gogledd Cymru, sydd wedi dod yn un o’r lleisiau mwyaf blaengar ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Mae wedi ennill parch gan bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol am ei safiad ar drin pobl sydd â phroblemau â chyffuriau anghyfreithlon fel bodau dynol ac nid fel troseddwyr.
Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y safbwynt hwn yn cael ei ystyried yn un eithafol a radical, ond erbyn hyn mae’n cael ei dderbyn mewn gwledydd ledled Ewrop. Mae Arfon wedi cynnig y gallai cyfleusterau chwistrellu diogel, mewn lleoliadau addas, leihau nifer y marwolaethau cyffuriau, troseddau cysylltiedig â chyffuriau, a defnyddio cyffuriau yn gyhoeddus. Mae’r dull hwn wedi cael ei roi ar waith yn y Swistir, ynghyd â mesurau iechyd cyhoeddus eraill, ac mae wedi lleihau nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau. Ym Mhortiwgal, mae dad-droseddoli rhai cyffuriau, ynghyd â rhaglenni atal a thriniaeth, wedi cael effaith debyg. Y llynedd, roedd llai o farwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal, gwlad o dros 10 miliwn o bobl, nag yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, sydd â phoblogaeth o lai na 1 miliwn o bobl.
Yn union fel y gwelir mesurau iechyd cyhoeddus fel ffordd o leihau niwed alcohol, dylid eu defnyddio hefyd i leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau. Ac mae'n werth nodi yma na fydd pawb sy'n yfed alcohol yn datblygu problem, ac mae'r un peth yn wir am gyffuriau. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn fan cychwyn, fel y gallwn ganolbwyntio ar leihau niwed oherwydd defnydd problemus.
Gadewch i ni beidio ag edrych yn ôl yn y blynyddoedd i ddod a gresynu wrth fwy o fywydau, mwy o deuluoedd yn wynebu tor calon, oherwydd polisïau cyffuriau annoeth ac aneffeithiol. Gadewch inni greu ymagwedd newydd, eofn at y broblem hon yng Nghymru—gadewch inni ddechrau gydag arbed bywydau.