Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn gyntaf, am roi'r cyfle i mi dderbyn briff technegol buddiol iawn gan un o swyddogion y Llywodraeth ar y Gorchmynion hyn yr wythnos diwethaf.
Dim ond ychydig o gwestiynau sydd gen i'r prynhawn yma. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gynhyrchu adroddiad blynyddol sydd yn dangos eu cynnydd ar gyrraedd nodau a amlinellir yn eu cynlluniau lles lleol. Er bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chynnwys o dan y Gorchymyn hwn, nid yw awdurdodau lleol, ond nhw sydd yn gyfrifol am yr ystadegau. Sut, felly, y mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod yr ystadegau a gynhyrchir yn yr adroddiadau blynyddol hyn yn bodloni a chydymffurfio â'r safon o fod yn annibynnol ac yn gadarn, fel yr amlinellir yn y Gorchymyn hwn, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol i sicrhau y bydd awdurdodau lleol, sydd yn cyhoeddi'r ystadegau, hefyd yn cydymffurfio â chod ymarfer ystadegau swyddogol?
Wrth gwrs, y mater arall o bwys yw'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd: bydd hyn yn cael effaith ar yr ystadegau sydd ar gael, megis y ffigurau iechyd, amaethyddol a rhai yn ymwneud â'r economi. Er enghraifft, dim ond yr Undeb Ewropeaidd sydd yn casglu data GDP ar lefel ranbarthol neu is-wladwriaethol, ac mae'n bwysig bod y ffigyrau hyn yn parhau i gael eu casglu wedi ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd. Ond hefyd, oherwydd mi fydd angen dylunio polisïau rhanbarthol newydd—ac rydw i'n deall bod yna gyhoeddiad yn mynd i ddod yn fuan gan y Llywodraeth—mae yna gyfle yma inni ail-ddylunio’r rhanbarthau ystadegol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod unrhyw bolisi rhanbarthol newydd wir yn cynrychioli cyfoeth gwirioneddol. Sut, felly, mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod yr ystadegau yma ar gael ac yn cael eu casglu a'u cyhoeddi yn dilyn ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd? Ac a oes bwriad i ailystyried ail-ddylunio rhanbarthau ystadegol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod unrhyw ddadansoddi data sydd yn cael ei wneud ar gyfer polisïau cyhoeddus yn cael ei wneud ar sail rhanbarthau ystyrlon?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, gwelaf nad yw byrddau iechyd chwaith wedi eu cynnwys dan y Gorchymyn hwn, ond eto mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi ei chynnwys. Mae'n bolisi gan y rhan fwyaf o bleidiau yn y Cynulliad yma y dylai holl gleifion ar hyd a lled Cymru gael ystadegau ystyrlon. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ffigurau wedi dangos bod y Llywodraeth wedi methu â chyflawni hyn, ond ymateb y Llywodraeth i hynny oedd nad oedd y data sy'n cael ei gasglu gan fyrddau iechyd yn ddigonol nac yn ddigon da, ac nad yw byrddau iechyd yn berffaith siŵr beth oedd y diffiniad, er enghraifft, o weithiwr allweddol, neu ddim yn casglu'r data o gwbl. Felly, mae hyn yn enghraifft o'r angen, rydw i'n meddwl, i ddod â'r byrddau iechyd i gyd i mewn i'r Gorchymyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau cysondeb ystadegol ar hyd y genedl. A ydych chi'n cytuno y byddai hyn yn ffordd ymlaen? Ac a ydych chi'n agored i gynnwys y byrddau iechyd i gyd o dan y Gorchymyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau safon uchel o ddata sydd ar gael i bawb yn y wlad?