Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Mae’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud y Gorchymyn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma wedi’i gynnwys yn adran 6(1)(b) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. Mae adran 65(7) y Ddeddf yn ei gwneud yn glir na chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn heb gael cymeradwyaeth gan y Cynulliad. Diben y Gorchymyn yw galluogi ystadegau sydd wedi’u cynhyrchu neu’n mynd i gael eu cynhyrchu gan y cyrff a restrir i gael eu dynodi fel ystadegau swyddogol. Bydd gwneud hynny'n golygu y bydd yr ystadegau hyn wedyn yn destun monitro ac adrodd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Cafodd y pŵer hwn i wneud Gorchmynion ei arfer gyntaf gan Weinidogion Cymru yn 2013 pan gafodd pum corff eu rhestru. Y tro hwn, mae’r Gorchymyn yn ehangach ei gwmpas ac yn enwi 14 o gyrff ychwanegol ar draws gwahanol sectorau. Mae rhai ohonynt wedi dod i fodolaeth ers 2013, pan wnaethpwyd y Gorchymyn gwreiddiol. Mae pob un o’r 14 o gyrff wedi cytuno i gael ei enwi yn y Gorchymyn. Dydyn ni ddim yn disgwyl, Dirprwy Lywydd, y bydd yr holl gyrff a restrir yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ar unwaith. Mae’r Gorchymyn yn eu galluogi i gyhoeddi data fel ystadegau swyddogol pan fyddant yn ystyried bod hynny’n briodol a bod ganddynt y trefniadau cadarn ar waith i wneud hynny.
Mae ystadegau swyddogol yn rhoi ffenestr ar ein cymdeithas, yn llywio penderfyniadau ac yn galluogi'r cyhoedd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau mwy o gysondeb wrth gyhoeddi ystadegau a'n bod yn dangos yma yng Nghymru egwyddorion y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o ddidwylledd, ansawdd a gwerth ar draws ystod ehangach o awdurdodau cyhoeddus. Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r Gorchymyn y prynhawn yma.