Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr. A hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w swydd—Gweinidog dros ledaenu llawenydd o gwmpas y genedl. [Chwerthin.] A phwy well?
Yn gynharach eleni, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd yn gyfrifol, ynglŷn â chynllun Cadw ar gyfer trigolion lleol, a grybwyllwyd gennych yn awr. Roedd hynny oherwydd nad oedd trigolion Caerffili yn gallu cael mynediad i safleoedd Cadw am resymau'n ymwneud â ffiniau daearyddol, yn gysylltiedig â ffiniau hen cyngor dosbarth trefol Caerffili. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet ataf ar 28 Gorffennaf, gan ddweud y byddai cynllun aelodaeth gyfyngedig yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n negyddu'r angen am y ffiniau hynafol hyn. Ac roeddwn yn gobeithio, bellach, am newyddion ar weithrediad y cynllun, sef y cynllun y cyfeirioch ato yn awr, rwy’n cymryd. A fyddai ar gael bellach i drigolion yn fy etholaeth?