Safleoedd Treftadaeth a Gynhelir gan Cadw

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 1:31, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael yr holl wybodaeth ynglŷn â chynllun presennol Cadw ar gyfer pasys trigolion lleol, ac yn benodol ynglŷn â’r problemau yng Nghaerffili mewn perthynas â'r ffiniau lleol, fel y disgrifiwch, lle nad oedd rhai trigolion sy'n byw ger yr heneb yn gallu gwneud cais am bàs. Rwy’n falch o ddweud bod yr adolygiad hwn y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ato sef pàs ar gyfer trigolion lleol ledled Cymru wedi cael ei gyflawni dros yr haf, ac o ganlyniad i hynny, bydd cynnig aelodaeth newydd a mwy cynhwysol yn disodli'r pàs blaenorol, gan roi mynediad rheolaidd i un safle penodedig. Felly, mae'r materion ffiniau a grybwyllwyd gennych bellach yn cael eu cywiro, a bydd trefniadau newydd yn disodli'r pàs blaenorol, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Yn amlwg, os oes unrhyw anawsterau pellach, rwy'n siŵr y bydd gennych chi, ynghyd â fy nheulu fy hun yng Nghaernarfon sy'n byw o fewn waliau’r dref, gryn ddiddordeb yn yr hyn fydd gan y Gweinidog i’w ddweud.