Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch am hynny ac rwy'n gweld yr arwyddion ar hyd y ffordd. Un maes y tynnwyd fy sylw ato—maes sy'n peri pryder—yw'r galw gan drigolion yng Nghwm Abergwaun am welliannau mewn perthynas â mynediad i gerddwyr. Oherwydd—rwy'n siŵr eich bod yn adnabod yr ardal, ond mae yno fan cyfyng iawn ac mae'r heol benodol honno'n culhau mewn man lle mae cerddwyr a thraffig yn cwrdd â'i gilydd, ac ystyrir ei fod yn hynod anaddas ac anniogel. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe dderbynioch chi ddeiseb a lofnodwyd gan 98 o bobl yn ôl ym mis Medi, ac fe ddywedoch fod eich swyddogion yn ystyried opsiynau eraill a chynigion ar gyfer pont droed i wella diogelwch cerddwyr, a chroesewir hynny'n fawr. A gaf fi ofyn a fu unrhyw gynnydd pellach yn hynny o beth?