1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51328
Gwnaf. Rydym yn datblygu nifer o brosiectau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, sy'n cynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi'r buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth, seilwaith a gwasanaethau o 2015 i 2020, ar draws pob rhan o Gymru.
Diolch am hynny ac rwy'n gweld yr arwyddion ar hyd y ffordd. Un maes y tynnwyd fy sylw ato—maes sy'n peri pryder—yw'r galw gan drigolion yng Nghwm Abergwaun am welliannau mewn perthynas â mynediad i gerddwyr. Oherwydd—rwy'n siŵr eich bod yn adnabod yr ardal, ond mae yno fan cyfyng iawn ac mae'r heol benodol honno'n culhau mewn man lle mae cerddwyr a thraffig yn cwrdd â'i gilydd, ac ystyrir ei fod yn hynod anaddas ac anniogel. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe dderbynioch chi ddeiseb a lofnodwyd gan 98 o bobl yn ôl ym mis Medi, ac fe ddywedoch fod eich swyddogion yn ystyried opsiynau eraill a chynigion ar gyfer pont droed i wella diogelwch cerddwyr, a chroesewir hynny'n fawr. A gaf fi ofyn a fu unrhyw gynnydd pellach yn hynny o beth?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac unwaith eto, am ei diddordeb brwd yn y mater hwn yn Abergwaun? Rwy'n ymwybodol o'r ardal, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn ystyried y ddeiseb yn ofalus, ond yr hyn y geilw amdano yw ateb yn y tymor canolig i'r tymor hwy i broblem sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, lle'r hoffwn weld camau'n cael eu cymryd yn y tymor byr hefyd, i ddatrys y broblem. Felly, mae fy swyddogion yn edrych ar opsiynau ac yn adolygu cynigion ar hyn o bryd ar gyfer pont droed yng Nghwm Abergwaun i wella diogelwch cerddwyr. Mae'r gwaith adolygu yn mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda'r bwriad y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i mi ynghyd ag argymhelliad ynglŷn â'r ffordd orau o fwrw ymlaen. Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod cerbydau nwyddau trwm wedi eu gwahardd rhag defnyddio'r rhan hon o'r A487, ac mae'n anodd i gerbydau o'r fath yrru drwy'r ardal gul hon heb ddod yn agos at gerddwyr, felly mae Heddlu Dyfed-Powys yn gorfodi cyfyngiadau ar hyd a lled cerbydau yng Nghwm Abergwaun. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelod unwaith eto ein bod yn edrych ar atebion nid yn unig ar gyfer y tymor canolig a hir, ond hefyd am ateb ar gyfer yn awr.
Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd tystiolaeth a roddwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru fod cysylltedd â phorthladdoedd Cymru yn hanfodol i'w llwyddiant. Nawr, yn wir, dywed casgliad 12 yn yr adroddiad hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru wneud
'ymrwymiadau clir ar ddatblygu seilwaith y dyfodol y mae'n gyfrifol amdano, gan gynnwys priffyrdd.'
Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â deuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai nid yn unig yn cael effaith fuddiol iawn ar y ddau borthladd yn fy etholaeth, ond hefyd ar fusnesau a chymunedau lleol yn wir ledled Sir Benfro?
Hoffwn gyhoeddi datganiad ynghylch yr A40 a dweud y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rôl hollbwysig yn asesu'r mathau gorau o seilwaith cysylltiedig sy'n cysylltu porthladdoedd a chyfleusterau eraill ledled Cymru. Bydd yr hysbysebion ar gyfer rôl cadeirydd y comisiwn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a chredaf, yn enwedig mewn amgylchedd ôl-Brexit, y bydd rôl ein porthladdoedd yn cynhyrchu twf a ffyniant yn dod hyd yn oed yn bwysicach. Felly, mae angen inni sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu tuag at sicrhau eu bod yn fwy cysylltiedig a'u bod yn cysylltu'n well â chanolfannau trefol.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Wrth iddo fe baratoi—. Mae un o'r cynlluniau mwyaf cyffroes rydw i wedi ei weld ar gyfer gweddnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth yw ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Rydw i'n credu bod hwn yn fuddsoddiad sydd yn newid agweddau pobl yn sylweddol iawn yn y gorllewin, sydd yn cadw cymunedau at ei gilydd a denu buddsoddiad. Rydym ni i gyd yn gwybod, ac mae e'n gwybod yn arbennig: lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ar rheilffyrdd yn Nghymru, mae llwyddiant a ffyniant wedi dilyn yn sgil hynny.
A fedrwch chi ein diweddaru ni ar y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda'r astudiaeth dichonoldeb ar y rheilffordd yma? A fedrwch chi hefyd ddweud a ydych chi wedi dechrau trafod gyda Network Rail—yn y ffordd mwyaf amlinellol, rydw i'n gwybod, ond dechrau trafod gyda nhw—y posibiliad o'r cynllun yma yn mynd i mewn i'r fframwaith nesaf o fuddsoddiad, gan fy mod i o'r farn, nes bod popeth wedi cael ei ddatganoli, wrth gwrs, bod angen cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn y cynllun hwn?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod y gwaith dichonoldeb yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Credaf y bydd yn cael ei gwblhau yn y flwyddyn newydd. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n gyfrifol o hyd, yn anffodus, am ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb, ar ôl iddi gael ei chwblhau, yn cael ei defnyddio i lywio proses gynllunio Network Rail, a Llywodraeth y DU yn wir, ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd, ac rwy'n falch fy mod wedi gallu cefnogi'r astudiaeth ddichonoldeb hon. Tynna'r Aelod sylw at nifer o fanteision a fyddai'n deillio o uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.