Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gwaith ar gyffordd 28 a chylchfannau Forge Lane yn fy etholaeth wedi arwain at gryn dipyn o broblemau i deithiau dyddiol cymudwyr o Dŷ-du, Basaleg a Rhiwderin ers misoedd lawer. Yn yr amser hwnnw, mae trigolion a chymudwyr wedi bod yn anhygoel o amyneddgar a goddefgar. Fodd bynnag, wrth i'r gwaith ar gylchfan Forge Lane ddod i ben, nid yw'r profiad wedi bodloni'r disgwyliadau hyd yn hyn. Mae system oleuadau traffig newydd wedi'i gosod yn ddiweddar ac wedi achosi mwy byth o darfu a thagfeydd hwy ar adegau prysur. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu'r sefyllfa ar frys, ond a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut y mae llif y traffig yn cael ei reoli a rhoi sicrwydd i mi, i fy etholwyr ac i gymudwyr y bydd yn gwella o ganlyniad i hynny?