Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod am ei diddordeb brwd yn y mater hwn ac am gynrychioli ei hetholwyr yn rymus mewn perthynas ag ef. Rwy'n cydnabod bod y gwaith wedi arwain at darfu, ond rydym yn ceisio sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Roeddwn yn falch iawn fod yr Aelod wedi gallu cyfarfod â fy nhîm prosiect, ac rwy'n ymwybodol fod y tîm hwnnw bellach yn paratoi adroddiad ar gyfer Jayne Bryant, a chredaf y dylai'r adroddiad hwnnw fod yn barod ac ar gael yr wythnos hon. Byddwn yn rhannu'r adroddiad hwnnw gyda chi, a gallaf eich sicrhau ein bod wedi cyfathrebu ac y byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda'r holl randdeiliaid ynghylch prosiect i gynorthwyo i leihau problemau teithio i bobl Casnewydd.