Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:56, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y sylwadau hynny. A gallaf weld bod yr UE yn farchnad bwysig iawn ar gyfer cynnyrch Prydain a Chymru. Ond y ffaith amdani yw bod ein masnach ag Ewrop yn prysur leihau, tra bod ein masnach â gweddill y byd yn prysur gynyddu. Felly, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai rhyddhau ein hunain o rwymau deddfwriaeth yr UE, a gallu masnachu â gweddill y byd yn ôl ein telerau ein hunain ehangu ein masnach y tu allan i'r UE yn sylweddol?