Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, gadewch i ni gael trafodaeth onest ac agored am yr Undeb Ewropeaidd hwn a'n dibyniaeth arno.
Dengys ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 80 y cant o'n henillion tramor yn dod o'r sector gwasanaethau, sydd oddi allan i gytundebau masnachol. Felly, hyd yn oed pe bai'r UE yn torri eu trwyn i ddial ar eu hwyneb ac yn dewis gweithredu tariffau ar nwyddau'r DU, buasai'r gost gyffredinol i economi'r DU yn gyfyngedig—yn llai o lawer na'r hyn a ragwelwyd gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros aros.
Os edrychwn yn fanylach ar hyn, buasai'n rhaid inni, wrth gwrs, gydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd, a allai arwain at dariff o 5 y cant ar nwyddau, o Ewrop ac i Ewrop. Pe bai hyn yn digwydd, oherwydd ein diffyg masnach ag Ewrop, buasai'n arwain at elw net o £4 biliwn i economi'r DU. Oni fuasech yn cytuno y byddai hynny'n hen ddigon o arian, nid yn unig i ddigolledu ffermwyr a busnesau Cymru am golli unrhyw fasnach, ond y rhan fwyaf o ddiwydiant ffermio'r DU hefyd?