Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe gyhoeddoch chi adolygiad o'r prosiect i ddeuoli'r A465 ar gyfer ffordd Blaenau'r Cymoedd gan fod y prosiect £220 miliwn dros y gyllideb ac yn hwyr. Roedd y gwaith ar y rhan hon o'r ffordd i fod i gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2019, ond mae'n debygol y bydd ar ei hôl hi, gan arwain at gostau ychwanegol, nid yn unig i arian cyhoeddus, ond hefyd i gwmnïau lleol, ac efallai y bydd yn rhaid i rai ohonynt roi'r gorau i fasnachu yn yr ardal er bod arnom eu hangen yn daer. Pryd y byddwch yn gwneud datganiad yn y Siambr hon ynglŷn â'r prosiect hwn, a pha gynlluniau sydd gennych i ddigolledu'r busnesau sydd wedi cael eu niweidio gan yr oedi wrth gwblhau'r llwybr pwysig hwn? Diolch.