Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Er y cannoedd o filiynau o bunnoedd a fuddsoddwyd yn yr ardaloedd, mae economi Cymru, yn fy marn i, yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU. Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 2015 yn £18,000, ar waelod tabl cynghrair y gwledydd cartref o ran gwerth ychwanegol gros y pen, ac mae wedi bod ar waelod y tabl hwnnw am 20 mlynedd yn olynol. Yn ogystal, mae enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru £43 yn is nag yn yr Alban, er eu bod yn yr un lle'n union 20 mlynedd yn ôl. Felly, a gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych yn derbyn bod y data economaidd ar berfformiad economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf yn tanlinellu methiant yr ardaloedd menter ymhellach gan fod y data'n dangos yn glir fod yr ardaloedd wedi methu hybu perfformiad economi Cymru?