Gwella Ffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:03, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ffiasgo cylchfan Pwll-y-Pant yng Nghaerffili, ac rwy'n ymwybodol nad yw hon yn un o ffyrdd Llywodraeth Cymru, ond mae'n ffordd ranbarthol bwysig, ac mae'n cael cryn effaith ar fusnesau lleol a bywydau bob dydd pobl. A gaf fi ofyn a yw ef, neu ei adran, wedi ymgysylltu â'r awdurdod lleol o ran edrych ar natur y contract rhwng yr awdurdod lleol a'r contractwyr? A yw'n edrych ar opsiynau eraill ar gyfer y gwelliannau ffordd o gwmpas Pwll-y-Pant, efallai drwy gyflwyno sifftiau cyfandirol, er enghraifft? Oherwydd ni all pobl leol fforddio 12 mis o darfu o'r natur hon. Mae'n rhaid bod ffordd well o wella'r ffyrdd o gwmpas Pwll-y-Pant.