Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywed yr Aelod. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda swyddogion yr awdurdod lleol i nodi ffyrdd o leihau'r anghyfleustra i etholwyr fy nghyd-Aelod. Credaf ei bod yn bwysig, pan fo gwaith ffordd yn mynd rhagddo, ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl gyda chyn lleied o darfu â phosibl i'r rhai sy'n defnyddio'r ffyrdd. Felly, byddaf yn gofyn i fy swyddogion ymgysylltu'n uniongyrchol â'r awdurdod lleol i nodi ffyrdd o leihau tarfu ac i gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosibl.