Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 22 Tachwedd 2017.
—cysylltedd band eang cyflym iawn. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn gyfrifol am sgiliau a thechnoleg, ein bod wedi dewis Gwynedd fel ardal fraenaru i fusnesau fanteisio ar Cyflymu Cymru. Os edrychwch ar rai ardaloedd o'r Gymru wledig, maent ymhlith yr ardaloedd mwyaf cysylltiedig yn y DU. Mae Cyflymu Cymru—[Torri ar draws.] Mae Cyflymu Cymru wedi darparu band eang cyflym iawn yn gyflymach ac yn gynt na sawl man arall yn y DU. Oes, mae yna ardaloedd. Rwy'n cyfaddef bod yna ardaloedd yng Nghymru sydd heb eu cysylltu o hyd, ond bydd hynny'n digwydd yn y cyfnod nesaf—yr ardaloedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Rydym yn darparu'r atebion. Gwn eich bod chi'n darparu sawl beirniadaeth, ond rydym ni'n darparu'r atebion i her fyd-eang. Ychydig o wledydd yn unig ar y blaned hon sydd â chyfraddau mynediad o 100 y cant at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd. Heddiw, o ganlyniad i ymyriadau uniongyrchol Llywodraeth Lafur Cymru, mae Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf cysylltiedig, ond byddwn yn parhau i wneud mwy ac i gysylltu busnesau ac anheddau ledled y wlad â band eang cyflym iawn.