Yr Economi Wledig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:13, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un o'r pethau allweddol y mae'r economi wledig eu hangen, yn amlwg, yw i bobl allu cael eu cynnyrch i'r farchnad a'i werthu am y pris gorau posibl. Mae llawer o fy etholwyr, yn rhan ogleddol y rhanbarth, yn mynychu marchnad da byw Rhaglan, gan ddefnyddio ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydych eisoes wedi ateb rhan o'r cwestiwn pan ofynnodd Mohammad Asghar, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, y cwestiwn i chi, ond tybed: a allwch roi unrhyw eglurder o gwbl inni ynghylch yr amserlenni sy'n weithredol bellach ar gyfer gorffen rhan ddwyreiniol y gwaith uwchraddio, ac yn bwysicach, pa gostau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o fynd iddynt? Mae'n hanfodol ein bod yn deall hynny, gan fod nifer o fy etholwyr wedi rhoi'r gorau i fynychu marchnad da byw Rhaglan bellach oherwydd yr anhrefn y maent wedi'i hwynebu, naill ai drwy orfod oedi yn gynnar yn y bore wrth fynd yno, neu ar eu ffordd yn ôl.