Yr Economi Wledig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:14, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fynd i'r afael â'r union fater hwnnw, os caf, ar ran yr etholwyr y mae'r Aelod wedi siarad â hwy, a byddaf yn gofyn i fy swyddfa gysylltu â hwy'n uniongyrchol, os yw hynny'n iawn, fel y gallwn drafod y problemau y mae'r busnesau hynny yn eu hwynebu. Dylai'r adolygiad fod gennyf cyn bo hir, ac rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach cyn gynted ag y bydd hwnnw ar gael. Dylai'r datganiad hwnnw ddarparu manylion ynglŷn â'r amserlen sydd wedi gor-redeg, yn ogystal â chostau unrhyw orwariant. Mae hwn, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, yn brosiect hynod o uchelgeisiol, gyda llawer iawn o heriau, yn enwedig y ffaith ei fod yn cynnwys gwaith drwy geunant cul iawn sydd wedi'i warchod. Fodd bynnag, rydym yn cyflawni'r prosiect, mae'r contractwyr yn cyflawni'r prosiect, a bydd yn arwain at well cysylltedd ar gyfer y rhanbarth yn y tymor hir.