9. Dadl Fer — Galw am help: diogelu plant sydd ar goll yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:45, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, er efallai y bydd y plant hyn yn credu eu bod yn dianc o ffynhonnell o berygl neu anhapusrwydd, maent yn wynebu mwy o risg o niwed, wrth gwrs, tra'u bod ar goll. Mae plant coll yn wynebu risg o gamfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol neu fasnachu mewn pobl, ac yn ôl ymchwil Cymdeithas y Plant, mae 25 y cant o blant a oedd wedi diflannu dros nos naill ai wedi cael eu brifo neu eu niweidio neu wedi cysgu allan neu gyda rhywun roeddent newydd gyfarfod â hwy, neu wedi dwyn neu gardota er mwyn goroesi. Nawr, mae'r plant hyn yn wynebu risgiau cymhleth, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ymateb amlasiantaethol sy'n cadw'r plant yn ddiogel.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes sy'n pennu i raddau helaeth yr ymateb y bydd plant yn ei gael pan fyddant yn mynd ar goll, ac mae lle i wella'r ymateb presennol i blant coll. I wneud hyn, rwyf am strwythuro fy nghyfraniad y prynhawn yma ar y broses ddiogelu a ddilynir pan roddir gwybod bod plentyn ar goll.

Felly, yn gyntaf, rwyf am droi at rannu gwybodaeth. Pan roddir gwybod gyntaf fod plentyn ar goll, fel ymatebwyr cyntaf, wrth gwrs, bydd yr heddlu yn dechrau edrych am y plentyn ac yn hollbwysig, byddant yn penderfynu ar sbectrwm risg, pa mor anniogel y gallai plentyn fod a phennu eu hymateb yn unol â hynny. Nawr, er mwyn cynyddu'r gobaith o ddod o hyd i blentyn a'u cadw'n ddiogel, mae'r heddlu angen gwybodaeth ynglŷn â ble y gallai plentyn fod a chyda phwy y gallai fod. Heb ddarlun cyflawn gan amrywiaeth o asiantaethau o'r risgiau y mae'r plant hyn yn eu hwynebu, ni fydd swyddogion yr heddlu yn gallu asesu'n ddigonol y risgiau sy'n wynebu plant, gan adael y plant hynny mewn perygl wrth gwrs. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant sy'n wynebu risg o gamfanteisio neu fasnachu pobl.

Y ffordd fwyaf effeithiol o gael asesiad risg cadarn ar gyfer y plant hyn yw drwy weithio amlasiantaethol. Mae hyn yn golygu cael aelodau o'r heddlu, gwasanaethau iechyd, addysg a phlant, a'r trydydd sector i rannu gwybodaeth er mwyn adeiladu proffil cyfannol o blentyn sydd mewn perygl o fynd ar goll a defnyddio'r wybodaeth honno i ddarparu cymorth priodol i atal y plentyn rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Nawr, roedd tîm amlasiantaethol Gwent ar gyfer plant coll yn enghraifft o effeithiolrwydd hyn, gyda digwyddiadau yn yr ardal yn gostwng dros 30 y cant ers ei sefydlu, a gwn y byddwn yn clywed mwy am hynny yn nes ymlaen yn y ddadl hon.

Fodd bynnag, mae canfyddiadau o adroddiad ar y cyd Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos fod 12 awdurdod lleol o blith yr awdurdodau lleol sydd wedi darparu gwybodaeth, yn dweud nad ydynt yn rhannu asesiadau risg gyda'r heddlu ac nid oes ganddynt bartneriaeth amlasiantaethol ar waith i ganiatáu i asiantaethau rannu gwybodaeth. Nawr, mae hyn yn gwneud gwaith yr heddlu o geisio cael hyd i'r plentyn yn fwy anodd ac felly, gallai roi plentyn y gwyddys ei fod mewn perygl eisoes mewn mwy o berygl hyd yn oed. Rhaid bod ffordd i asiantaethau ledled Cymru allu rhannu gwybodaeth gyda'i gilydd. Nid yn unig y mae gwneud hynny'n gallu amddiffyn plentyn rhag risgiau, ac achub bywyd y plentyn mewn achosion eithafol, ond gall hefyd alluogi asiantaethau i dargedu eu hadnoddau'n well, a chreu arbedion yn sgil hynny yn y tymor canolig i'r tymor hwy wrth gwrs.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa ddata genedlaethol newydd ar gyfer unigolion coll a fydd yn galluogi heddluoedd i olrhain plant coll ar draws ffiniau. Gan nad yw plant, nac oedolion yn wir, sy'n mynd ar goll neu'n wynebu risgiau yn parchu ffiniau gweinyddol, wel, mae angen inni sicrhau nad yw'r ffiniau hyn yn atal gweithio agos a rhannu gwybodaeth i gadw'r plant hynny'n ddiogel. Un ffordd y gallwn symud ymlaen ar hyn yng Nghymru yw y dylai awdurdodau lleol, penaethiaid gwasanaethau plant Cymru gyfan a heddluoedd Cymru gytuno ar weithdrefn lle y gall awdurdodau lleol osod nodyn ar systemau heddlu i nodi'r risgiau i blant fel bod yr heddlu'n deall yn eglur pa risgiau sy'n wynebu plant pan fyddant yn mynd ar goll ac yna, gallant ymateb yn unol â hynny. Bydd hyn yn helpu'r heddlu i ddeall y risgiau i blant pan fyddant yn mynd ar goll ac yn helpu i'w cadw'n ddiogel.

Yn ail, rwyf am droi at ran hanfodol arall o'r jig-so ar gyfer cadw plant yn ddiogel. Pan yw plentyn yn cael ei ddarganfod neu'n dychwelyd o gyfnod o fod ar goll, dylai gael cynnig cyfle i ôl-drafod, y gellid ei alw hefyd yn gyfweliad dychwelyd adref. Nawr, mae ôl-drafod yn rhoi cyfle i blentyn siarad am y cyfnod pan oedd ar goll, sy'n gallu golygu trafod lle roedd y plentyn yn ystod y cyfnod a chyda phwy oedd ef neu hi. Mae cyfle i ôl-drafod hefyd yn galluogi ymarferwyr i ddeall y rhesymau pam y gallai plentyn fod wedi mynd ar goll.

Er na all cyfarfodydd ôl-drafod ohonynt eu hunain atal plant rhag mynd ar goll dro ar ôl tro, gallant fod yn adnodd diogelu effeithiol a allai helpu i roi cymorth i blentyn a fyddai'n helpu i'w atal rhag mynd ar goll eto. Os yw'r sawl sy'n darparu'r cyfweliad yn annibynnol ar y gwasanaethau statudol, fel y dylent fod, efallai y bydd plentyn yn ei chael hi'n haws ymddiried yn y sawl sy'n darparu'r cyfweliad a'r broses, ac felly, mae hyn yn cyflwyno'r plentyn i berson y gall ymddiried ynddo, yn hytrach na mynd ar goll yn y dyfodol. Fodd bynnag, o dan brotocol presennol Cymru gyfan ar gyfer plant coll, nid yw cynnig cyfle i blant coll ôl-drafod yn ofyniad statudol, er ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol yn Lloegr. Mae'r adroddiad 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn dangos canlyniadau'r diffyg gofyniad cyfreithiol hwn. Mae'r adroddiad yn dangos bod pedwar o'r 13 awdurdod lleol a roddodd wybodaeth yn darparu cyfarfodydd ôl-drafod ar sail achosion unigol, sy'n golygu nad oes sicrwydd y rhoddir cyfle i blant coll siarad am eu profiad na chymorth, o bosibl, i'w rhwystro rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Yng ngogledd Cymru, gwn fod y sefyllfa'n ddifrifol bellach. Ers i Lywodraeth y DU ddiddymu cronfa arloesedd yr heddlu, a dalai am ddarpariaeth ôl-drafod yng ngogledd Cymru, mae'n frawychus fod nifer gyfartalog y cyfarfodydd ôl-drafod a ddarparir bob chwarter wedi gostwng yn ddramatig. Felly, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn rhoi cyfle hollbwysig i wneud cyfarfodydd ôl-drafod yn ofyniad statudol ar draws Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog ar yr argymhelliad hwn yn benodol, yn nes ymlaen.

Yn olaf, roeddwn am droi at grŵp o blant sydd mewn perygl arbennig o fynd ar goll ac felly'n galw am ymateb penodol. Nawr, plant yw'r rhain sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ond cânt eu lleoli yn ardal awdurdod arall, a'u galw'n blant a leolir y tu allan i ardal wrth gwrs. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen lleoli plant sy'n derbyn gofal y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol cartref er mwyn eu diogelu rhag risgiau a nodwyd yn ardal eu cartref. Yn 2015-16, roedd tua 1,500 o blant yng Nghymru yn byw mewn lleoliadau y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol. Nawr, mae hyn yn cyfateb i tua 27 y cant o'r holl blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. A gwyddys bellach fod plant sydd wedi'u lleoli y tu allan i ardaloedd eu hawdurdodau lleol yn fwy tebygol o fynd ar goll—ac un o'r prif resymau am hyn yw y gallant geisio dychwelyd, wrth gwrs, at unrhyw rwydweithiau cefnogi a allai fod ganddynt yn ôl yn ardal eu cartref. Os yw plentyn sy'n cael ei leoli y tu allan i ardal wedi cael profiadau blaenorol o fynd ar goll, yna dylid nodi hyn mewn unrhyw asesiadau risg sy'n cael eu trosglwyddo oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn i'r awdurdod lleol sy'n derbyn y plentyn i'w ofal. Dylid rhannu'r wybodaeth hon hefyd gyda'r heddlu sy'n derbyn, a allai fod yr asiantaeth statudol gyntaf i godi'r plentyn pan fydd yn mynd ar goll gyntaf.

Yn anffodus, mae ymchwil Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos nad yw 13 o'r 14 o awdurdodau lleol a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn darparu asesiadau risg i heddluoedd ar gyfer plant a leolir yn eu hardaloedd, gan ddweud mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol sy'n lleoli fuasai gwneud hynny. Fodd bynnag, caiff hyn ei wrth-ddweud gan y ffaith mai pump yn unig o'r un 13 o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod hwy eu hunain yn rhannu asesiad risg gyda'r heddlu pan oeddent yn lleoli plentyn mewn ardal wahanol. Felly, mae'n amlwg fod yr heddlu'n hanfodol. Maent yn asiantaeth hanfodol wrth ddiogelu plant coll a dylid eu hysbysu pan fydd plentyn, a phlentyn sy'n wynebu risg uchel o fynd ar goll yn rhinwedd ei leoliad, yn cael ei leoli yn eu hardal. A buaswn yn ategu argymhelliad Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru y dylid ei wneud yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol hysbysu a rhannu asesiad risg gyda'r heddlu sy'n derbyn pan fyddant yn lleoli plentyn yn eu hardal.

Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hwn yn fater pwysig ac amserol. Mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn gyfle i unioni'r materion a nodwyd yn y ddadl hon ac yn ymdrech i ddarparu cymorth diogelu effeithiol ar gyfer holl blant coll Cymru. Mae gwaith da yn digwydd yng Nghymru i ddiogelu plant coll, ac mae'n ymdrech rydym yn ei rhannu, rwy'n siŵr, ar draws y pleidiau, er mwyn parhau i wella ein hymateb i'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed. Bellach mae gennym gyfle i ledaenu'r gwaith da ar draws y wlad, a buaswn yn annog y Llywodraeth, wrth ymateb i'r ddadl hon, i roi camau ar waith. Diolch.