Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i drafod mater y mae angen rhoi sylw iddo ar fyrder, yn fy marn i, sef yr ymateb diogelu ar gyfer plant sy'n mynd ar goll neu sydd mewn perygl o fynd ar goll. Edrychaf ymlaen, hefyd, at glywed cyfraniadau gan Dawn Bowden a David Melding yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Nawr, mae'n fater amserol i'w drafod, oherwydd mae protocol plant coll cyfredol Cymru yn cael ei adolygu fel rhan o'r broses o ddiweddaru gweithdrefnau amddiffyn plant Cymru gyfan. Mae'r adolygiad hwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae'n bwysig, wrth adolygu'r protocol, ein bod yn pwyso ar arbenigedd amrywiaeth o leisiau i lywio'r modd y gallwn ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal yn well.
Dau lais yr hoffwn eu dwyn i sylw'r Gweinidog yw Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru, sydd, yn gynharach eleni, wedi ysgrifennu adroddiad o'r enw 'Bwlch yn y Wybodaeth', a oedd yn archwilio'r ymateb diogelu ar gyfer plant coll yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys rhai argymhellion pendant a chyraeddadwy, a fuasai'n helpu i wella ein hymateb diogelu ar gyfer y plant hyn pe baent yn cael eu gweithredu.
Efallai y bydd llawer o bobl yn synnu faint o blant coll a geir yng Nghymru, a'r llynedd, aeth tua 4,500 o blant a phobl ifanc ar goll o'u cartrefi neu o ofal. Ac aeth y plant hyn ar goll fwy na 11,000 o weithiau i gyd. Yn yr ardal heddlu sy'n plismona fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, aeth dros 700 o blant ar goll bron 1,500 o weithiau yn ystod 2015-16.
Nawr, mae llawer o resymau pam y mae plant yn cael eu gorfodi, neu'n teimlo gorfodaeth i fynd ar goll. Efallai y bydd plentyn yn wynebu amrywiaeth o fathau o galedi yn y cartref, megis esgeulustod, cam-drin neu drais yn y cartref. Efallai fod plentyn mewn gofal yn anhapus ynglŷn â'i leoliad neu efallai ei fod wedi cael ei roi mewn gofal y tu allan i'w ardal leol, gan olygu nad yw'n gallu troi at rwydweithiau cymorth a bydd hynny'n aml yn peri iddynt fynd ar goll i'r lle maent yn ei adnabod fel eu cartref. Hefyd, mae'n bosibl fod pobl y credent eu bod yn ffrindiau neu'n gariadon yn meithrin perthynas amhriodol â phlant oddi cartref neu o ofal neu'n camfanteisio arnynt. Dyma rai o'r ffactorau gwthio a thynnu y mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu hwynebu sy'n eu cymell i fynd ar goll.