Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Mae llawer o'r fargen yn y dyfodol, wrth gwrs, yn dal yn aneglur, ac mae hyn yn creu rhai heriau inni o ran nodi cyfleoedd a gallu eu cyfathrebu i fusnesau. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU eto wedi rhannu gyda Llywodraeth Cymru y set dybiedig o 58 o astudiaethau o'r effaith ar y sectorau, ac nid yw ychwaith wedi rhannu asesiad economaidd cyffredinol ar ôl y refferendwm o effaith Brexit ar Gymru gyda ni. Byddwn yn parhau i bwyso i sicrhau bod unrhyw ddadansoddiad perthnasol yn cael ei rannu gyda ni.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â busnesau ynglŷn â threfniadau pontio'r UE trwy ein mecanweithiau sefydledig, megis y cyngor datblygu economaidd, ac mae trefniadau pontio'r UE yn eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer y cyngor. Rydym hefyd wedi sefydlu is-grŵp i ymwneud â'r union fater hwn. Tra ydym yn disgwyl rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU ar sut y gallai'r fargen edrych yn y dyfodol, rydym yn parhau i ymgysylltu'n helaeth, nid yn unig â busnesau ledled Cymru, ond â sefydliadau allweddol a fydd yn hynod o bwysig i gysylltiadau masnachu yn y dyfodol, ac un o'r sefydliadau hynny, wrth gwrs, yw Sefydliad Masnach y Byd.
Ymwelais â Sefydliad Masnach y Byd ddiwedd mis Hydref gyda'r bwriad penodol o ddatblygu cysylltiadau rhwng Cymru a'r sefydliad. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Sefydliad Masnach y Byd. Mae'r Sefydliad yn gorff masnach hynod o bwysig sy'n hwyluso cysylltiadau masnach rhwng gwledydd, yn ogystal â darparu set o reolau masnachu i wledydd lynu wrthynt a lle iddynt ddatrys anghydfodau masnach. Bydd angen i'r DU ailsefydlu ei hun fel aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd pan fyddwn yn gadael yr UE, felly mae'n gwbl hanfodol fod buddiannau Cymru'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses o adael yr UE a dod yn aelod yn ei hawl ei hun unwaith eto o Sefydliad Masnach y Byd.
Yn absenoldeb ffeithiau clir ar y fargen Brexit, rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio rhai o'n hymdrechion ar roi cyngor i fusnesau bach a chanolig ar sut i gael cymorth a sut i ddechrau paratoi ar gyfer rhai o'r newidiadau, boed yn heriau neu fygythiadau, a allai fod o'u blaenau. Felly rydym yn ystyried darparu porth Brexit ar gyfer busnesau. Buasai hyn yn rhoi adnodd diagnostig digidol i fusnesau bach a chanolig a fydd yn cyfeirio at gymorth mewn meysydd allweddol, a'r camau y gall busnesau bach a chanolig eu cymryd i leihau'r risg ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd, lle bynnag y bônt. Byddai'r adnodd diagnostig yn cael ei ddiweddaru wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael.
Hefyd, mae hyrwyddo lle Cymru ar lwyfan cystadleuol byd-eang yn ganolog i'n strategaeth ryngwladol. Byddwn yn anelu i warchod ein cyfran o fasnach Ewropeaidd yn ystod y negodiadau Brexit, a thu hwnt yn wir, gan gynorthwyo busnesau sydd am fynd i mewn i farchnadoedd newydd sy'n ehangu o gwmpas y byd. Rydym yn wlad sy'n wynebu'r byd, ac wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol oddi allan i'r Undeb Ewropeaidd mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gwerthu Cymru i'r byd, ac yn cyfarfod â darpar fuddsoddwyr ledled y byd. Rydym yn croesawu'r byd a'i orwelion, a phan fydd cyfleoedd masnach newydd yn agor, byddwn yn gweithio gyda busnesau i helpu ein heconomi i ffynnu.
Lansiodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar fasnach i baratoi ar gyfer ein dogfen ar bolisi masnach y DU yn y dyfodol ym mis Hydref, ac ers hynny mae wedi cyhoeddi'r Bil masnach a'r Bil trethiant y mis hwn. Ond ar y cam hwn o'r trafodaethau UE-DU, mae'n dal i fod yn aneglur a yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o gynnal mynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE yn cyd-fynd yn llawn â dymuniad Llywodraeth y DU i gael polisi masnach annibynnol a chreu cytundebau masnach rydd newydd ar draws y byd.
Rydym yn arbennig o bryderus y buasai polisi masnach annibynnol yn ôl pob tebyg yn golygu gadael yr undeb tollau gyda'r UE, a buasai hyn yn debygol o arwain at rwystrau masnach ar y ffin, a phroblemau gyda'r ffin yng Ngogledd Iwerddon. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y pwyntiau hyn. Yn ogystal, fel y gŵyr pawb ohonom, gallai ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon greu problemau i borthladdoedd Cymru gan y gallai fod cymhelliant i gludo nwyddau drwy Ogledd Iwerddon.
Nid ydym yn argyhoeddedig y buasai gadael yr undeb tollau gyda'r UE o fudd i Gymru—yn y tymor byr o leiaf—ac eto nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth gan Lywodraeth y DU eto sy'n awgrymu fel arall. Mae mwy na 60 y cant o nwyddau y nodir eu bod o Gymru yn mynd i'r UE, ac ni fuasai'n hawdd sicrhau masnach yn lle'r lefel honno o fasnach. Felly, Ddirprwy Lywydd, ein safbwynt ni yw y dylai masnach gyda marchnadoedd newydd fod yn ychwanegol at fasnach gyda'r UE ac nid cymryd ei lle. Rydym yn parhau i ddweud yn glir, yn anad dim, na fuasai senario 'dim bargen' yn dderbyniol i ni.