– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Symudwn at yr ail ddadl fer y prynhawn yma, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Neil.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith am fod yma ar ddiwedd y diwrnod hwn—yn ffodus, nid yw'n rhy hwyr yn y dydd, oherwydd y gwaith rydym eisoes wedi ei gyflawni. Ond mae hwn yn fater pwysig, wrth gwrs. Mae allforion o bwys mawr i Gymru, ac mae allforion i'r UE yn fwy pwysig i Gymru o ran cyfran nag i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gwerth allforion Cymru yn £12.3 biliwn yn 2016, a chafodd dwy ran o dair o'r £12 biliwn hwnnw ei allforio i'r UE. Felly, wrth gwrs bod y berthynas fasnachol rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE yn y dyfodol yn hollbwysig i iechyd economi Cymru.
Mae arnaf ofn fy mod yn meddwl bod y Llywodraeth yn llawer rhy ddigalon ynglŷn â'r rhagolygon i Gymru ar ôl Brexit. Lle maent hwy'n gweld bygythiadau a pheryglon, gwelaf innau gyfleoedd. Wrth gwrs, mae unrhyw newid yn sicr o effeithio ar ddiwydiannau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol ac ar ôl oddeutu 40 o flynyddoedd oddi mewn i'r UE, mae'r broses bontio yn mynd i fod yn her i rai diwydiannau, ac ni ellir gwadu hynny. Ond credaf fod hyn, ar y cyfan, yn mynd i fod yn dda i'r Deyrnas Unedig. A bydd yr hyn sy'n dda i'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn dda i Gymru, er bod rhaid inni sicrhau wrth gwrs bod y rhai sy'n cael amser anos wrth ymdopi â'r broses bontio yn cael cymorth i wneud hynny.
Ond mae prosiect ofn yn dal i fod yn fyw ac yn iach mewn sawl rhan o'r wlad a llawer o ddiwydiannau. Profwyd bod yr holl ofnau a wyntyllwyd hyd yn hyn yn hollol ffug. Mae 18 mis wedi mynd heibio bellach ers refferendwm Brexit ac mae ymyl y clogwyn roeddem i fod i ddisgyn oddi arno yn dal i fod yno ac nid ydym wedi disgyn drosto. Mae rhai problemau penodol yn wynebu amaethyddiaeth os na wnawn fargen â'r UE ar fasnach rydd, ond mae hyd yn oed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud yn yr ychydig wythnosau diwethaf,
Er bod Brexit wedi arwain at un o'r heriau mwyaf a wynebodd ein diwydiant ers cenedlaethau, ni all fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i ni achub ar y cyfle a gyflwynwyd i ni i ddatblygu a thyfu ein diwydiant amaethyddol o'r radd flaenaf yng Nghymru. Mae'r Undeb yn credu'n gryf y gallwn sicrhau llwyddiant Brexit os yw ein ffocws cyfunol yn canolbwyntio ar gynorthwyo ein diwydiant i ateb yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy'n tyfu â bwyd diogel, safonol, fforddiadwy, ochr yn ochr â chynnal a gwella'r amgylchedd sydd mor annwyl i ni a chyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd.
Felly, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn croesawu'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig, a gwahoddaf Lywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl. Digwyddodd y refferendwm, rydym yn gadael yr UE, rhaid inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith. Nid yw proffwydo gwae, ar y cam hwn, o fudd i neb; ni fydd ond yn cryfhau'r UE yn y negodiadau gyda Llywodraeth y DU, ac ni fuasai neb yn ei iawn bwyll yn y DU eisiau hynny.
Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi cael tro pedol arall ym mhrosiect ofn, oherwydd mae Siemens, diwydiant gweithgynhyrchu mwyaf Ewrop, sy'n cyflogi 15,000 o bobl yn y DU, wedi newid ei safbwynt ar Brexit. Dywedodd prif weithredwr Siemens, Joe Kaeser, ddwy flynedd yn ôl,
Byddai Brexit yn amharu ar yr economi yn y tymor byr ac rydym yn credu y gallai'r ansicrwydd ynghylch dyfodol perthynas y DU â'r UE gael effeithiau hirdymor mwy sylweddol a negyddol a allai wneud y DU yn lle llai deniadol i wneud busnes a gall fod yn ffactor wrth i Siemens ystyried buddsoddi yma yn y dyfodol.
Wel, ychydig ddyddiau'n ôl yn unig, cyhoeddodd Siemens eu bod yn cael gwared ar 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 yn rhagor ar draws Ewrop ac yn cael gwared ar 2,000 o swyddi yn yr Unol Daleithiau, ond ar yr un pryd cyhoeddasant fuddsoddiad o €39 miliwn ym Mhrydain i ehangu ei ffatri fwyaf yn y DU, yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.
Felly, nid yw popeth yn ddiobaith. Ymhell o fod. Roedd Michael Bloomberg, a oedd hefyd yn cefnogi aros i'r carn er mai Americanwr ydyw, yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i agor pencadlys Ewropeaidd newydd Bloomberg yn y Ddinas, pencadlys sy'n 3.2 erw o faint—mae'n ddatblygiad gwirioneddol enfawr.
Rydym yn agor pencadlys Ewropeaidd newydd sbon yn Llundain—dau adeilad mawr, drud. A fuaswn wedi gwneud hynny pe gwyddwn eu bod yn mynd i adael? Rwyf wedi meddwl efallai y gallwn fod wedi gwneud hynny… ond… rydym yn mynd i fod yn hapus iawn.
Mae'n dweud,
Beth bynnag fydd perthynas Llundain a'r DU â'r UE, mae iaith Llundain, ei chylchfa amser, ei thalent, ei seilwaith a'i diwylliant oll yn ei rhoi mewn sefyllfa i dyfu fel prifddinas fyd-eang ar gyfer blynyddoedd i ddod. Rydym yn obeithiol iawn am ddyfodol Llundain ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono.
Felly, er nad yw Cymru'n chwarae rhan fawr mewn gwasanaethau ariannol, bydd effaith y diwydiant gwasanaethau ariannol yn Llundain yn treiddio allan i weddill y wlad.
Ac yn amlwg, ymhlith y rhai a oedd o blaid Brexit, fel Syr James Dyson, buasech yn disgwyl iddynt fod yn optimistaidd am y dyfodol. Mae ganddo fusnes gweithgynhyrchu anferth sy'n masnachu ledled y byd. Mae'n gwneud buddsoddiadau enfawr heb fod mor bell â hynny o Gaerdydd—60 milltir i ffwrdd, ar y ffin rhwng swydd Gaerloyw a Wiltshire—mae'n buddsoddi hyd at £3 biliwn mewn parc technoleg newydd i ddatblygu cerbydau trydan, yn y bôn, a thechnoleg y mae Prydain yn arwain y byd ynddi. Trueni na symudodd ychydig pellach i'r gorllewin—fel rwyf fi wedi'i wneud, gan arwain y ffordd—i Gymru, a gosod y cyfleuster gweithgynhyrchu ac ymchwil hwnnw'n nes at Gaerdydd. Mae'n dweud,
Mae yna ansicrwydd bob amser mewn busnes, ynglŷn â chyfraddau cyfnewid, cyflwr marchnadoedd, trychinebau naturiol... Credaf fod ansicrwydd yn gyfle, a'r cyfle yma mewn gwirionedd yw bod gweddill y byd yn tyfu ar raddfa fwy o lawer nag Ewrop, felly ceir cyfle i allforio i weddill y byd ac i fanteisio ar hynny.
Felly, credaf fod pob rheswm dros feddwl fod economi Cymru yn mynd i elwa o Brexit yn y tymor canolig a hwy—a hyd yn oed yn y tymor byr. Rydym wedi cael un o'r datganiadau mwyaf hurt a welais gan brosiect ofn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phrif weithredwr Aston Martin yn ddiweddar, a oedd yn rhagweld y byddai cynhyrchu ceir yn dod i ben yn llwyr yn Aston Martin os na chawn fargen gyda'r UE. Roedd hynny'n seiliedig ar ragfynegiad na fyddai cymeradwyaeth math i geir a wnaed ym Mhrydain yn yr UE ac i'r gwrthwyneb. Wel, allforiodd Aston Martin 600 o geir i'r UE y llynedd, ac os na allent werthu eu ceir i mewn i'r Almaen am bris o £160,000 yr un, ni fuasai'r Almaenwyr yn gallu gwerthu eu 820,000 o geir y flwyddyn i Brydain, sef 14 y cant o'u holl gynhyrchiant ceir teithwyr. Daw 18 y cant o allforion ceir teithwyr yr Almaen i Brydain. Rywsut neu'i gilydd, nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd. Ac felly, mae angen inni edrych ar y realiti yma: buasai effaith y math o ragfynegiadau a gawsom gan Aston Martin mor fawr a thrychinebus—hyd yn oed i economi bwerus o faint yr Almaen—fel y buasai'n amhosibl y byddai hyn yn cael ei ganiatáu i ddigwydd, yn arbennig yn awr fod gan y Canghellor Merkel broblemau mwy enbyd gartref yn ceisio ffurfio Llywodraeth: rhywbeth nad yw wedi digwydd yn yr Almaen ers blynyddoedd y Weriniaeth Weimar. Felly, mae pethau'n newid yn fawr. Mae yna ansicrwydd yn yr Almaen yn ogystal ag ym Mhrydain, a dylem ystyried hynny'n syml fel ffaith bywyd.
Nawr, yn amlwg, mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Gymru, ac rwyf am dreulio ychydig funudau yn sôn am hynny oherwydd ceir sectorau penodol o amaethyddiaeth y bydd Brexit yn her iddynt, oherwydd hyd yn oed os llwyddwn i wneud bargen fasnach gynhwysfawr gyda'r UE, efallai y bydd rhai crychau mewn perthynas â chynhyrchion amaethyddol oherwydd natur ddiffyndollol y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hyn yn rhywbeth na allwn gilio rhagddo, ac nid wyf erioed wedi gwadu hynny, ac yn enwedig mewn perthynas ag allforion cig oen, mae hyn yn mynd i fod yn her fawr i ni, ond rhaid inni weld hyn mewn persbectif, wyddoch chi. Mae'r farchnad ar gyfer y cynhyrchion hyn yn gymharol fach o'i chymharu â'r farchnad yn ei chyfanrwydd—. Wyddoch chi, rydym yn siarad am allforion gwerth £120 miliwn y flwyddyn o gig oen o Gymru: arian mân yw £120 miliwn yng nghyd-destun economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Os oes problemau dros dro a phroblemau trosiannol mewn perthynas ag allforio cig oen, yna bydd gennym yr adnoddau i ymdrin â hwy oherwydd £8 biliwn y flwyddyn net ein cyfraniad i'r UE na fyddwn yn ei dalu mwyach, a hefyd, wrth gwrs, mae cyfle enfawr gydag amnewid mewnforion: 66 y cant yn hunangynhaliol yn unig rydym ni o ran cynhyrchu cig oen. Felly, daw llawer o'r un rhan o dair o'r farchnad gig oen ar hyn o bryd o Seland Newydd yn wir, ond daw llawer ohono o fannau eraill hefyd. Mewn perthynas â chig eidion, dwy ran o dair yn hunangynhaliol rydym ni unwaith eto. Mewnforion porc, 40 y cant yn hunangynhaliol; a dofednod, 73 y cant yn hunangynhaliol. Felly, mae gennym farchnad gartref fawr y gallwn barhau i'w datblygu i gymryd beth bynnag na allwn ei allforio i'r UE.
Nid yw'n fater o'r cwbl neu ddim: mae yna gyfleoedd i ni yn ogystal â phroblemau. Ac i amaethyddiaeth Ewropeaidd, wrth gwrs, mae'n mynd i greu anawsterau enfawr yn ogystal, oherwydd ein bod ni'n—. Ac yn enwedig mewn cynhyrchion penodol, hynny yw, nid wyf yn meddwl bod ffermwyr Denmarc yn mynd i fod yn rhy awyddus i ddarganfod nad ydynt yn mynd i allu gwerthu porc a chig moch i ni mwyach, er enghraifft. A dyn a ŵyr pa fath o fargen y gallwn ei gwneud gyda Gweriniaeth Iwerddon o dan agwedd gyndyn bresennol Monsieur Barnier, ond mae o bwys enfawr i economi Iwerddon fod gennym ryw fath o fargen sy'n rhyddhau masnach rhyngom o ran cynhyrchion amaethyddol, gan fod mwyafrif llethol y mewnforion i'r wlad hon o gig eidion a chynnyrch llaeth yn dod o Weriniaeth Iwerddon, ac mae amaethyddiaeth yn gyfran lawer iawn mwy o werth economi Iwerddon nag ydyw o economi Prydain, a Chymru hyd yn oed.
Felly, credaf fod digon o le inni fod yn obeithiol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, chwarae ei rhan yn hyn hefyd, a dylai fod eisiau chwarae rhan gadarnhaol yn datblygu cysylltiadau masnach yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn aml yn mynd ar deithiau masnach ledled y byd, a bydd yn gwybod bod gweddill y byd, sef 85 y cant neu fwy o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE, yn gyfle enfawr i Gymru. Ond mae angen inni gael y seilwaith deddfwriaethol a'r seilwaith treth roeddem yn ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, sy'n mynd i hybu'r cyfleoedd hynny i'r eithaf.
Os defnyddiwn y rhyddid newydd a gawn drwy ailwladoli pwerau o Frwsel i Gaerdydd, yn ogystal ag o Frwsel i San Steffan—yn amlwg, bydd gennym reolaeth ar bolisi amaethyddol yma yng Nghaerdydd a'r polisi amgylcheddol yn ogystal—gallwn ailystyried llawer o'r ddeddfwriaeth a orfodwyd arnom yn y 40 mlynedd diwethaf, rhywbeth na chafodd ei drafod mewn unrhyw sefydliad seneddol. Roeddwn yn aelod o Gyngor y Gweinidogion yn yr UE a hefyd yn Weinidog yn Llywodraeth y DU yn San Steffan, ac roeddwn yn Aelod Seneddol am flynyddoedd lawer, yn derbyn offerynnau statudol a orfodai reoliadau arnom, a chaem ddadlau yn eu cylch, ond ni chaem eu diwygio ac yn sicr ni chaem bleidleisio yn eu herbyn. Felly, ni chafwyd unrhyw graffu deddfwriaethol ffurfiol ar lawer o'r ddeddfwriaeth hon erioed mewn gwirionedd.
Rhaid bod lle, yn enwedig lle mae deddfwriaeth wedi bod ar y llyfr statud am gyfnod mor hir heb ei ddiwygio, i ni addasu'r manylion mewn ffordd a fydd, heb beryglu lles y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd ac ati, yn ein galluogi i wneud bywyd yn haws i fusnesau bach yn arbennig, sy'n bwysig iawn yng Nghymru, yn enwedig mewn amaethyddiaeth, lle mae'r rhan fwyaf o hunangyflogaeth yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. Rhaid iddo roi ein cyfle i ni, rwy'n credu, i wneud bywyd yn haws, yn rhatach, ac felly i wneud y busnesau hyn yn fwy effeithlon a gallu ymdopi'n well â'r heriau sydd i ddod.
Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru: gadewch inni groesawu'r dyfodol; gadewch inni wynebu'r her, ond ei wneud mewn ffordd hyderus. Fe wnaethom greu ymerodraeth enfawr ledled y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ni oedd gweithdy'r byd. Mae Prydain wedi bod yn ffynhonnell arloesedd ac mae'n dal i fod. Os edrychwch ar nifer y gwobrau Nobel a enillwyd gennym, ceir mwy o enillwyr gwobr Nobel yn ystafell gyffredin Coleg y Drindod, Caergrawnt nag yn Ffrainc i gyd. Felly, rydym ni, fel cenedl, yn ddyfeisgar, yn arloesol ac yn fentrus, ac felly rwy'n gwahodd Llywodraeth Cymru i chwarae ei rhan i sicrhau bod gan Gymru ddyfodol llewyrchus.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon, a hoffwn ddiolch i Neil Hamilton am ei gyfraniad ac i aelodau o UKIP am aros yn y Siambr.
Rydym wedi gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i wrando ar yr Aelod yn amlinellu ei weledigaeth obeithiol o Gymru ar ôl Brexit a'r DU ar ôl Brexit, ond ein safbwynt ni o hyd yw bod cael mynediad llawn a dirwystr at farchnad sengl yr UE, nid yn unig ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ond hefyd ar gyfer cyfalaf, yn flaenoriaeth uchel er mwyn diogelu swyddi ac economi Cymru, oherwydd mae'n hollbwysig nad yw busnesau yng Nghymru dan anfantais yn sgil tariff diangen neu rwystrau di-dariff i fasnach.
Mae'r dadansoddiad economaidd sydd ohoni gan y sylwebyddion annibynnol mwyaf dibynadwy yn parhau i fod yn unol â'r dadansoddiad a geir yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ond rydym hefyd wedi comisiynu Ysgol Fusnes Caerdydd i gyflawni gwaith ymchwil i ymestyn ein dadansoddiad, gan bwyso ar drafodaethau gyda busnesau o amrywiaeth o sectorau. Mae'r adroddiad yn ystyried effeithiau posibl tariff Sefydliad Masnach y Byd a rhwystrau di-dariff ar draws 17 o sectorau, ynghyd â ffactorau risg eraill, megis pa mor agored yw sectorau gwahanol i risgiau'r farchnad lafur a chylchoedd buddsoddi corfforaethol. Ac mae canfyddiadau'r gwaith hwn yn dod â safbwynt Cymreig i'r ystod o adroddiadau a dadansoddiadau sy'n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd ar adael yr UE. Mae hefyd, rwy'n credu, yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol sy'n cyd-fynd yn dda gydag adroddiadau a gynhyrchir gan randdeiliaid, megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Byddwn yn cyhoeddi'r gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Rhan o'r dasg a roesom i Ysgol Fusnes Caerdydd oedd edrych ar y cyfleoedd, ond rhaid i mi ddweud bod llawer o'r busnesau rydym yn siarad â hwy wedi bod yn ei chael hi'n anodd cyfleu beth fyddai'r cyfleoedd hynny. Mae busnesau'n aml yn rhy brysur yn canolbwyntio ar sut y gallant reoli'r newidiadau sydd i ddod yn y ffordd orau a sut i gynllunio yn y cyfnod estynedig hwn o ansicrwydd dwfn, gyda llawer ohonynt yn dweud wrthym eu bod ar hyn o bryd yn cael eu gorfodi i gynllunio ar sail y senario waethaf sy'n bosibl.
Mae llawer o'r fargen yn y dyfodol, wrth gwrs, yn dal yn aneglur, ac mae hyn yn creu rhai heriau inni o ran nodi cyfleoedd a gallu eu cyfathrebu i fusnesau. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU eto wedi rhannu gyda Llywodraeth Cymru y set dybiedig o 58 o astudiaethau o'r effaith ar y sectorau, ac nid yw ychwaith wedi rhannu asesiad economaidd cyffredinol ar ôl y refferendwm o effaith Brexit ar Gymru gyda ni. Byddwn yn parhau i bwyso i sicrhau bod unrhyw ddadansoddiad perthnasol yn cael ei rannu gyda ni.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â busnesau ynglŷn â threfniadau pontio'r UE trwy ein mecanweithiau sefydledig, megis y cyngor datblygu economaidd, ac mae trefniadau pontio'r UE yn eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer y cyngor. Rydym hefyd wedi sefydlu is-grŵp i ymwneud â'r union fater hwn. Tra ydym yn disgwyl rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU ar sut y gallai'r fargen edrych yn y dyfodol, rydym yn parhau i ymgysylltu'n helaeth, nid yn unig â busnesau ledled Cymru, ond â sefydliadau allweddol a fydd yn hynod o bwysig i gysylltiadau masnachu yn y dyfodol, ac un o'r sefydliadau hynny, wrth gwrs, yw Sefydliad Masnach y Byd.
Ymwelais â Sefydliad Masnach y Byd ddiwedd mis Hydref gyda'r bwriad penodol o ddatblygu cysylltiadau rhwng Cymru a'r sefydliad. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Sefydliad Masnach y Byd. Mae'r Sefydliad yn gorff masnach hynod o bwysig sy'n hwyluso cysylltiadau masnach rhwng gwledydd, yn ogystal â darparu set o reolau masnachu i wledydd lynu wrthynt a lle iddynt ddatrys anghydfodau masnach. Bydd angen i'r DU ailsefydlu ei hun fel aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd pan fyddwn yn gadael yr UE, felly mae'n gwbl hanfodol fod buddiannau Cymru'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses o adael yr UE a dod yn aelod yn ei hawl ei hun unwaith eto o Sefydliad Masnach y Byd.
Yn absenoldeb ffeithiau clir ar y fargen Brexit, rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio rhai o'n hymdrechion ar roi cyngor i fusnesau bach a chanolig ar sut i gael cymorth a sut i ddechrau paratoi ar gyfer rhai o'r newidiadau, boed yn heriau neu fygythiadau, a allai fod o'u blaenau. Felly rydym yn ystyried darparu porth Brexit ar gyfer busnesau. Buasai hyn yn rhoi adnodd diagnostig digidol i fusnesau bach a chanolig a fydd yn cyfeirio at gymorth mewn meysydd allweddol, a'r camau y gall busnesau bach a chanolig eu cymryd i leihau'r risg ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd, lle bynnag y bônt. Byddai'r adnodd diagnostig yn cael ei ddiweddaru wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael.
Hefyd, mae hyrwyddo lle Cymru ar lwyfan cystadleuol byd-eang yn ganolog i'n strategaeth ryngwladol. Byddwn yn anelu i warchod ein cyfran o fasnach Ewropeaidd yn ystod y negodiadau Brexit, a thu hwnt yn wir, gan gynorthwyo busnesau sydd am fynd i mewn i farchnadoedd newydd sy'n ehangu o gwmpas y byd. Rydym yn wlad sy'n wynebu'r byd, ac wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol oddi allan i'r Undeb Ewropeaidd mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gwerthu Cymru i'r byd, ac yn cyfarfod â darpar fuddsoddwyr ledled y byd. Rydym yn croesawu'r byd a'i orwelion, a phan fydd cyfleoedd masnach newydd yn agor, byddwn yn gweithio gyda busnesau i helpu ein heconomi i ffynnu.
Lansiodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar fasnach i baratoi ar gyfer ein dogfen ar bolisi masnach y DU yn y dyfodol ym mis Hydref, ac ers hynny mae wedi cyhoeddi'r Bil masnach a'r Bil trethiant y mis hwn. Ond ar y cam hwn o'r trafodaethau UE-DU, mae'n dal i fod yn aneglur a yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o gynnal mynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE yn cyd-fynd yn llawn â dymuniad Llywodraeth y DU i gael polisi masnach annibynnol a chreu cytundebau masnach rydd newydd ar draws y byd.
Rydym yn arbennig o bryderus y buasai polisi masnach annibynnol yn ôl pob tebyg yn golygu gadael yr undeb tollau gyda'r UE, a buasai hyn yn debygol o arwain at rwystrau masnach ar y ffin, a phroblemau gyda'r ffin yng Ngogledd Iwerddon. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y pwyntiau hyn. Yn ogystal, fel y gŵyr pawb ohonom, gallai ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon greu problemau i borthladdoedd Cymru gan y gallai fod cymhelliant i gludo nwyddau drwy Ogledd Iwerddon.
Nid ydym yn argyhoeddedig y buasai gadael yr undeb tollau gyda'r UE o fudd i Gymru—yn y tymor byr o leiaf—ac eto nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth gan Lywodraeth y DU eto sy'n awgrymu fel arall. Mae mwy na 60 y cant o nwyddau y nodir eu bod o Gymru yn mynd i'r UE, ac ni fuasai'n hawdd sicrhau masnach yn lle'r lefel honno o fasnach. Felly, Ddirprwy Lywydd, ein safbwynt ni yw y dylai masnach gyda marchnadoedd newydd fod yn ychwanegol at fasnach gyda'r UE ac nid cymryd ei lle. Rydym yn parhau i ddweud yn glir, yn anad dim, na fuasai senario 'dim bargen' yn dderbyniol i ni.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.