Erthygl 50 a'r Cyfnod Trosiannol

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 22 Tachwedd 2017

Wel, fel un o'r Aelodau sydd wedi bod fwyaf diwyd yn holi'r Cwnsler Cyffredinol, bydd yr Aelod yn gwybod bod confensiwn swyddogion y gyfraith unwaith eto yn gymwys i'r cwestiwn hwn. Fodd bynnag, gallaf i ddweud y byddai angen i unrhyw gyfnod gweithredu gael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gallwn ni ddim rhagdybio y bydd yna gyfnod o'r fath, na beth fyddai ei delerau. Tan fod hynny'n glir, mae'r sail gyfreithiol hefyd ddim yn glir.