Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, mae'r Aelod wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y Siambr hon, ac mae'n fy nhemtio i gamu y tu hwnt i ffiniau fy awdurdod i faes polisi. Yn anffodus, rwyf am ei siomi yn hynny o beth ac ymwrthod â hynny. Mae arnaf ofn fod y cwestiwn y mae'n ei ofyn yn bendant o fewn mater y cyfamod, felly nid wyf yn gallu ymhelaethu ymhellach ar yr hyn a ddywedais, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol wedi clywed ei sylwadau.