Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Gwnsler Cyffredinol, yn amlwg, mae'r cyfamod cyfyngol ar y safle o ran defnydd diwydiannol, fel y nodwyd, yn cael ei atgyfnerthu yn y cyd-destun cynllunio lleol, drwy gyfrwng cynllun datblygu lleol Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth yw eich barn, o ran cyfreithlondeb mewn perthynas â'r gwrthdaro rhwng datblygiad carchar arfaethedig a'r dyraniad defnydd tir yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer defnydd economaidd? Ac a ydych yn cytuno fod y posibilrwydd hwnnw'n tanseilio deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r angen statudol i sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gadarn?