Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ymuno ag eraill i'ch llongyfarch a'ch croesawu i'ch rôl newydd.
Fel y dywedasoch yn eich ateb, gallaf weld eich bod yn deall bod cyflwyno ffioedd tribiwnlys a'r cynnydd parhaus mewn ffioedd llys wedi dychryn llawer o weithwyr proffesiynol yn y sector. Ochr yn ochr â hyn, mae canolfannau cynghori, sy'n darparu cyngor uniongyrchol i bobl, wedi cau ledled y wlad. A ydych yn cytuno, Gwnsler Cyffredinol, fod mynediad dinasyddion at gyfiawnder yn hawl sylfaenol ac yn un na ddylai gael ei chyfyngu gan incwm na daearyddiaeth. Pa gamau y gellir eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod mynediad at gyfiawnder ar gael i bawb?