– Senedd Cymru am 3:02 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd.
Heddiw, cafodd y byd glywed dyfarniad hirddisgwyliedig achos y Cadfridog Ratko Mladić. Mae'r dyfarniad a'r ddedfryd gerbron y llys troseddau rhyfel Iwgoslafaidd yn yr Hâg yn nodi penllanw achos sydd wedi para dros 22 mlynedd. Cafwyd Mladić yn euog o 10 cyhuddiad, gan gynnwys hil-laddiad, troseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth, gyda phob un ohonynt wedi'u cyflawni yn ystod y gwrthdaro a hawliodd 100,000 o fywydau a gadael 2.2 miliwn o bobl eraill yn ddigartref. Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.
Mae rhai ohonom wedi ymgyrchu ar y cyrion i geisio cyfiawnder rhyngwladol, ond i'r rhai sydd wedi colli gwŷr a meibion 20 mlynedd yn ôl, yn ystod cyflafan Srebrenica a throseddau rhyfel eraill, mae'r clwyfau'n ffres iawn o hyd. Collodd un ddynes ei gŵr a'i dau fab yn Srebrenica. Dywedodd,
Rydym wedi cael ein dedfrydu heb dreial. Cafodd ein plant eu dedfrydu i farwolaeth a'u diarddel, a chawsom ni'r goroeswyr ein dedfrydu i barhau i fyw yn uffern.
Lywydd, yn 2014, cefais y fraint o arwain dirprwyaeth ar ran Comisiwn y Cynulliad i Fosnia, a Srebrenica yn benodol. Yn dilyn hyn, cafwyd digwyddiad coffa yn y Senedd a arweiniwyd gan Mr Howard Tucker, y ditectif o Gymru a drawsnewidiodd waith Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr hen Iwgoslafia. Gwasanaethodd Howard fel pennaeth swyddfa Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol Iwgoslafia ym Mosnia-Herzegovina am wyth mlynedd ar anterth ei weithgarwch. Heb ei arweiniad rhagorol, ni fuasai rhai o'r troseddwyr rhyfel mwyaf ers yr ail ryfel byd wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell. Roedd sgil plismona cymunedol yn ganolog i'w ddull o weithredu. Roedd yn rhaid i dystion gael eu nodi a'u cefnogi. I ddechrau, roedd llawer o'r tystion mewn gormod o arswyd i siarad.
I gloi, Lywydd, rydym heddiw'n nodi diwedd pennod erchyll yn hanes y byd, ond mae'n rhaid i ni gofio a dysgu gwersi o Srebrenica a mynd i'r afael â chasineb yn ein cymdeithasau ein hunain. Mae'n rhaid i ni barhau i gofio ei pherthnasedd wrth wrthsefyll anoddefgarwch a gwahaniaethu yn y DU ac mewn mannau eraill, ac wrth hyrwyddo cymunedau cryfach a mwy cydlynol. Mae'n rhaid i ni gofio Srebrenica a'i gwersi, a'u dysgu i genedlaethau'r dyfodol fel y gallant fyw mewn cymdeithas heddychlon a chynhwysol.